Bedd Branwen, Llanddeusant

BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD

... Rhyfelwyr, milwyr, cestyll a theyrnasoedd
bedd-branwen-amlwch

Claddfa o Oes yr Efydd ar Ynys Môn yw Bedd Branwen. Yn ôl y sôn, yma y claddwyd Branwen ferch Llŷr o Ail Gainc y Mabinogi. Branwen, wrth gwrs, oedd chwaer Bendigeidfran y cawr, Brenin Ynys Prydain, a drefnodd iddi briodi Matholwch, Brenin Iwerddon. Diwedd trist sydd i’r stori. Ar ôl cyfres o ddigwyddiadau gwaedlyd, digwyddiadau sy’n cynnwys anffurfio ceffylau, torri pennau a chyflafan y pair dadeni, dychwela Branwen i Gymru a marw o dor-calon ger aber afon Alaw. O gloddio'r safle – sydd bellach heb y domen bridd wreiddiol – canfuwyd yrnau amlosgi, cadwyn a thri llestr ac ynddynt esgyrn clustiau plant: rhyfeddod o’r cyfnod cynhanesyddol sy’n go unigryw i Gymru.

Llun o esgyrn clust o Fedd Branwen - hawlfraint @Storiel 

Bedd Branwen, Llanddeusant

  • Claddfa o Oes yr Efydd ar Ynys Môn yw Bedd Branwen. Yn ôl y sôn, yma y claddwyd Branwen ferch Llŷr o Ail Gainc y Mabinogi. Branwen, wrth gwrs, oedd chwaer Bendigeidfran y cawr, Brenin Ynys Prydain, a drefnodd iddi briodi Matholwch, Brenin Iwerddon. Diwedd trist sydd i’r stori. Ar ôl cyfres o ddigwyddiadau gwaedlyd, digwyddiadau sy’n cynnwys anffurfio ceffylau, torri pennau a chyflafan y pair dadeni, dychwela Branwen i Gymru a marw o dor-calon ger aber afon Alaw. O gloddio'r safle – sydd bellach heb y domen bridd wreiddiol – canfuwyd yrnau amlosgi, cadwyn a thri llestr ac ynddynt esgyrn clustiau plant: rhyfeddod o’r cyfnod cynhanesyddol sy’n go unigryw i Gymru.

    Llun o esgyrn clust o Fedd Branwen - hawlfraint @Storiel 

    More BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD locations