Cerflun ‘Clychau Rhymni’, Rhymni

Y WLAD A’I CHALEDI

… Treftadaeth ddiwydiannol a chwys llafur
bells-of-rhymney-sculpture-rhymney

Rhoddodd cymoedd y de – a’r rheini’n gyforiog o wythiennau glo – hwb mawr i’r chwyldro diwydiannol gan ysbrydoli cenedlaethau o artistiaid ac ymgyrchwyr cymdeithasol. Yn eu plith mae Patrick Jones (g. 1965), bardd a dramodydd sydd wedi cyflwyno hynt a helynt bywyd yn fan hyn i gynulleidfa newydd. Ganwyd Idris Davies (1905-1953), glöwr a ddaeth maes o law yn athro ac yn fardd, yn Rhymni. Roedd yn llais i’w genhedlaeth, a’i waith yn adlewyrchu delfrydiaeth a phrotestiadau'r bobl a oedd yn byw yma yn y 1920au a’r 1930au. Rhoddwyd alaw i’w gerdd The Bells of Rhymney o'i gasgliad cyntaf, a daeth y gân yn glasur gwerin maes o law. Achosodd tlodi a diweithdra’r Dirwasgiad Mawr yng Nghymru donnau tu hwnt i’n ffiniau, gan gynnwys twf y Blaid Lafur a’r Blaid Gomiwnyddol, ac ymadawiad 200 o lowyr i ymladd yn erbyn Cadfridog Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen. Mae dau gerflun sydd wedi’u hysbrydoli gan waith Davies i’w gweld yn Rhymni, ynghyd â phlac iddo yn y llyfrgell. Ewch heibio i gartref Davies pan oedd yn blentyn ar Victoria Road cyn dringo’r gweundir i weld golygfeydd o’r dre a chreithiau’r pyllau glo oddi tanoch.

Cerflun ‘Clychau Rhymni’, Rhymni

  • Rhoddodd cymoedd y de – a’r rheini’n gyforiog o wythiennau glo – hwb mawr i’r chwyldro diwydiannol gan ysbrydoli cenedlaethau o artistiaid ac ymgyrchwyr cymdeithasol. Yn eu plith mae Patrick Jones (g. 1965), bardd a dramodydd sydd wedi cyflwyno hynt a helynt bywyd yn fan hyn i gynulleidfa newydd. Ganwyd Idris Davies (1905-1953), glöwr a ddaeth maes o law yn athro ac yn fardd, yn Rhymni. Roedd yn llais i’w genhedlaeth, a’i waith yn adlewyrchu delfrydiaeth a phrotestiadau'r bobl a oedd yn byw yma yn y 1920au a’r 1930au. Rhoddwyd alaw i’w gerdd The Bells of Rhymney o'i gasgliad cyntaf, a daeth y gân yn glasur gwerin maes o law. Achosodd tlodi a diweithdra’r Dirwasgiad Mawr yng Nghymru donnau tu hwnt i’n ffiniau, gan gynnwys twf y Blaid Lafur a’r Blaid Gomiwnyddol, ac ymadawiad 200 o lowyr i ymladd yn erbyn Cadfridog Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen. Mae dau gerflun sydd wedi’u hysbrydoli gan waith Davies i’w gweld yn Rhymni, ynghyd â phlac iddo yn y llyfrgell. Ewch heibio i gartref Davies pan oedd yn blentyn ar Victoria Road cyn dringo’r gweundir i weld golygfeydd o’r dre a chreithiau’r pyllau glo oddi tanoch.

    More Y WLAD A’I CHALEDI locations