Codwyd Castell Caernarfon gan Edward y 1af o Loegr (1239-1307) yn ystod ei goncwest digyfaddawd o Gymru. Mae’r mythau o Wynedd yn cynnwys hanes Dinas Emrys, lle ceisiodd y Brenin Gwrtheyrn godi castell. Roedd y waliau’n dal i gwympo o hyd, a daeth Myrddin Emrys o hyd i lyn tanddaearol lle roedd dreigiau coch (Brythonaidd) a gwyn (Sacsonaidd) yn ymladd. Dihangodd Gwrtheyrn i ddyffryn arfordirol (a enwyd yn Nant Gwrtheyrn wedyn), a chartref Rhys a Meinir. Ar fore’u priodas, dilynodd Meinir y traddodiad a mynd i guddio, ond collodd y seremoni a threuliodd Rhys sawl blwyddyn yn chwilio amdani. Un dydd trawyd coeden wag gan fellten a disgynnodd ysgerbwd Meinir ohono. Mae chwedl arall o Wynedd yn cynnwys stori Gelert, ci ffyddlon Llywelyn Fawr (1172-1240), a achubodd faban y tywysog rhag blaidd ond a laddwyd cyn y daethpwyd o hyd i’r mab yn ddiogel. Draw yn ardal Llŷn, cadwodd y Brenin March ab Meirchion y ffaith fod ganddo glustiau ceffyl yn gyfrinach i bawb ond ei dorrwr gwallt, a sibrydodd y peth wrth y ddaear. Tyfodd cyrs yn y fan honno, ac wedi i bibydd eu defnyddio ar gyfer ei bib newydd, byddai honno’n canu: “Mae clustiau march gan March ab Meirchion” drosodd a throsodd tan ddysgodd March allu byw â’i glustiau.
Darlun - hawlfraint Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru
Darn ysgrifenedig - hawlfraint Llio Maddocks, Nigel Stone, Denise Baker, Roisin McClearn, Amy Briscoe, John Sherlock & Sophie McKeand / Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru