Ynys Bŷr

YR HUDOL A’R CYSEGREDIG

... Paganiaid a phererinion
caldey-island

Gyda’i heglwysi hynafol, ei llwybrau cerdded a’i mannau picnic, mae cenedlaethau o ymwelwyr wedi mwynhau taith dros y tonnau o Ddinbych-y-Pysgod i Ynys Bŷr. Sefydlodd Sant Illtud a Sant Dyfrig fynachlog yma yn y chweched ganrif, ac mae Mynaich Sistersaidd yno heddiw, eu mynachlog hardd i’w gweld yn amlwg ar ganol yr ynys. Ewch am dro hefyd i’r hen briordy ac Eglwys Sant Illtud, un a’i thŵr siâp rhyfedd. Y tu mewn mae carreg ac arysgrif Ogam arni, yn dyddio o tua OC 500; un o’r enghreifftiau cynharaf o ysgrifennu yng Nghymru. Bu sawl ymgais ar gyfieithu'r geiriau a’r cynigion yn cynnwys 'Dyfrig', 'Illtud' a 'Iesu'. Roedd y bardd a'r arlunydd David Jones (1895-1974) yn ymwelydd cyson ag Ynys Bŷr – ystyrir ei gerdd epig In Parenthesis ymhlith gweithiau llenyddol gorau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Llun o Ynys Bŷr – hawlfraint Colin Bell  / Geograph
Llun o Garreg Ogam Ynys Bŷr - hawlfraint Humphrey Bolton / Geograph

Ynys Bŷr

  • Gyda’i heglwysi hynafol, ei llwybrau cerdded a’i mannau picnic, mae cenedlaethau o ymwelwyr wedi mwynhau taith dros y tonnau o Ddinbych-y-Pysgod i Ynys Bŷr. Sefydlodd Sant Illtud a Sant Dyfrig fynachlog yma yn y chweched ganrif, ac mae Mynaich Sistersaidd yno heddiw, eu mynachlog hardd i’w gweld yn amlwg ar ganol yr ynys. Ewch am dro hefyd i’r hen briordy ac Eglwys Sant Illtud, un a’i thŵr siâp rhyfedd. Y tu mewn mae carreg ac arysgrif Ogam arni, yn dyddio o tua OC 500; un o’r enghreifftiau cynharaf o ysgrifennu yng Nghymru. Bu sawl ymgais ar gyfieithu'r geiriau a’r cynigion yn cynnwys 'Dyfrig', 'Illtud' a 'Iesu'. Roedd y bardd a'r arlunydd David Jones (1895-1974) yn ymwelydd cyson ag Ynys Bŷr – ystyrir ei gerdd epig In Parenthesis ymhlith gweithiau llenyddol gorau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

    Llun o Ynys Bŷr – hawlfraint Colin Bell  / Geograph
    Llun o Garreg Ogam Ynys Bŷr - hawlfraint Humphrey Bolton / Geograph

    More YR HUDOL A’R CYSEGREDIG locations