Capel Soar y Mynydd

YR HUDOL A’R CYSEGREDIG

... Paganiaid a phererinion
capel-soar-y-mynydd

Mae’r capel syml hwn ar lwybr y porthmyn, a godwyd ym 1822, yn hynod oherwydd ei leoliad a’i ddylanwad ar arlunwyr ac awduron. I’w gyrraedd, rhaid dilyn llwybrau cul a phasio milltiroedd o adfeilion, rhaeadrau, tir agored a choedwigoedd. Dywedir mai dyma gapel mwyaf anghysbell y wlad, ac yn y 1960au – fel sawl un arall – tybid y byddai Capel Soar y Mynydd yn gorfod cau wrth i’r gynulleidfa wanychu. Fodd bynnag, dros y deugain mlynedd diwethaf, daeth yn symbol eiconig yn ein diwylliant, gan ddod i gynrychioli hefyd oes goll y bugeiliaid ar y darn hwn o dir. Mae'n dal i gynnal gwasanaethau'n achlysurol. Ysgrifennodd Harri Webb ac Iwan Llwyd gerddi amdano, a soniodd Jim Perrin am fan hyn yn ei lyfrau teithio. Mae llwybr cylch yn arwain o’r capel tu’r de-orllewin i Ben y Gurnos, cyn dilyn yr afon i Gwm Doethie a dychwelyd i’r dwyrain ar hyd ffordd drol.

Capel Soar y Mynydd

  • Mae’r capel syml hwn ar lwybr y porthmyn, a godwyd ym 1822, yn hynod oherwydd ei leoliad a’i ddylanwad ar arlunwyr ac awduron. I’w gyrraedd, rhaid dilyn llwybrau cul a phasio milltiroedd o adfeilion, rhaeadrau, tir agored a choedwigoedd. Dywedir mai dyma gapel mwyaf anghysbell y wlad, ac yn y 1960au – fel sawl un arall – tybid y byddai Capel Soar y Mynydd yn gorfod cau wrth i’r gynulleidfa wanychu. Fodd bynnag, dros y deugain mlynedd diwethaf, daeth yn symbol eiconig yn ein diwylliant, gan ddod i gynrychioli hefyd oes goll y bugeiliaid ar y darn hwn o dir. Mae'n dal i gynnal gwasanaethau'n achlysurol. Ysgrifennodd Harri Webb ac Iwan Llwyd gerddi amdano, a soniodd Jim Perrin am fan hyn yn ei lyfrau teithio. Mae llwybr cylch yn arwain o’r capel tu’r de-orllewin i Ben y Gurnos, cyn dilyn yr afon i Gwm Doethie a dychwelyd i’r dwyrain ar hyd ffordd drol.

    More YR HUDOL A’R CYSEGREDIG locations