Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

ARTHUR A’I WYRTHIAU

... Myrddin, dreigiau a Chaledfwlch
carmarthenshire-county-museum

Mae Myrddin yn ymddangos yn aml yn llenyddiaeth gynnar y Celtiaid, a hynny ar ffurf gŵr gwyllt, rhyfedd o’r coed. Ond y clerigwr a’r awdur Sieffre o Fynwy (c. 1100-1155) a ddarluniodd y dewin yn un o gynghorwyr y Brenin Arthur. Fel y gwelwn yn yr enw, ceir cysylltiad cryf rhwng Myrddin a Chaerfyrddin. Efallai’n wir iddo gael ei eni mewn ogof gyfagos – ym Mryn Myrddin, o bosibl. Yn Llyfr Du Caerfyrddin o’r drydedd ganrif ar ddeg, ceir cerddi sy’n cyfeirio at Arthur, ac at Myrddin fel gŵr a allai ddarogan y dyfodol. Mae chwedl sy’n sôn am yr hen dderwen a arferai dyfu yn y dref: pan ddisgynnai honno, byddai Caerfyrddin hithau’n syrthio. Pan gafwyd gwared â gweddillion pwdr y goeden hynafol ym 1978, dioddefodd y dref y llifogydd gwaethaf ers cyn cof. Mae cangen o’r dderwen yn dal i’w gweld yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin.

Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

  • Mae Myrddin yn ymddangos yn aml yn llenyddiaeth gynnar y Celtiaid, a hynny ar ffurf gŵr gwyllt, rhyfedd o’r coed. Ond y clerigwr a’r awdur Sieffre o Fynwy (c. 1100-1155) a ddarluniodd y dewin yn un o gynghorwyr y Brenin Arthur. Fel y gwelwn yn yr enw, ceir cysylltiad cryf rhwng Myrddin a Chaerfyrddin. Efallai’n wir iddo gael ei eni mewn ogof gyfagos – ym Mryn Myrddin, o bosibl. Yn Llyfr Du Caerfyrddin o’r drydedd ganrif ar ddeg, ceir cerddi sy’n cyfeirio at Arthur, ac at Myrddin fel gŵr a allai ddarogan y dyfodol. Mae chwedl sy’n sôn am yr hen dderwen a arferai dyfu yn y dref: pan ddisgynnai honno, byddai Caerfyrddin hithau’n syrthio. Pan gafwyd gwared â gweddillion pwdr y goeden hynafol ym 1978, dioddefodd y dref y llifogydd gwaethaf ers cyn cof. Mae cangen o’r dderwen yn dal i’w gweld yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin.

    More ARTHUR A’I WYRTHIAU locations