Craig Rhos-y-felin, Ffynnon y Groes

YR HUDOL A’R CYSEGREDIG

... Paganiaid a phererinion
craig-rhos-y-felin-crosswell

Cafodd rhai o feini gleision Côr y Cewri eu cloddio yma. Cofadail leol oeddent tua 3400 CC, cyn eu symud i Wastadedd Caersallog 500 mlynedd wedyn. Buont yn sefyll yno ar sawl ffurf cyn i’r meini siâp pedol anferth gyrraedd tua 2500 CC. Mae hyn yn golygu mai safle Cymreig yw Côr y Cewri yn y bôn – rhywbeth y mae Saethyddion Boscombe hefyd wedi’i gadarnhau. Saith o unigolion oedd y rhain a gladdwyd mewn un bedd ger Côr y Cewri tua 2300 CC. Mae’n ymddangos i’r saith gael eu geni a’u magu yn ne-orllewin Cymru, cyn teithio i Wessex rywbryd yn ystod eu hoes. Mae’r cysylltiad hwn a’r daith o’r gorllewin i gyd yn cael sylw mewn chwedlau gwerin. Ceir hanes gan Sieffre o Fynwy (c. 1100-1155) sy’n sôn am y gred bod Myrddin wedi cludo Côr y Cewri o Iwerddon. Mae olion y pileri naturiol a dorrwyd o wyneb y graig i’w gweld hyd heddiw. Gallwch fwynhau picnic ble bu iddynt wersylla 5400 o flynyddoedd yn ôl, ond dangoswch barch tuag at y safle gan ei adael yn yr un cyflwr ac yr oedd pan gyrhaeddoch.

Lluniau - hawlfraint Adam Stanford / Aerial-Cam Ltd

Craig Rhos-y-felin, Ffynnon y Groes

  • Cafodd rhai o feini gleision Côr y Cewri eu cloddio yma. Cofadail leol oeddent tua 3400 CC, cyn eu symud i Wastadedd Caersallog 500 mlynedd wedyn. Buont yn sefyll yno ar sawl ffurf cyn i’r meini siâp pedol anferth gyrraedd tua 2500 CC. Mae hyn yn golygu mai safle Cymreig yw Côr y Cewri yn y bôn – rhywbeth y mae Saethyddion Boscombe hefyd wedi’i gadarnhau. Saith o unigolion oedd y rhain a gladdwyd mewn un bedd ger Côr y Cewri tua 2300 CC. Mae’n ymddangos i’r saith gael eu geni a’u magu yn ne-orllewin Cymru, cyn teithio i Wessex rywbryd yn ystod eu hoes. Mae’r cysylltiad hwn a’r daith o’r gorllewin i gyd yn cael sylw mewn chwedlau gwerin. Ceir hanes gan Sieffre o Fynwy (c. 1100-1155) sy’n sôn am y gred bod Myrddin wedi cludo Côr y Cewri o Iwerddon. Mae olion y pileri naturiol a dorrwyd o wyneb y graig i’w gweld hyd heddiw. Gallwch fwynhau picnic ble bu iddynt wersylla 5400 o flynyddoedd yn ôl, ond dangoswch barch tuag at y safle gan ei adael yn yr un cyflwr ac yr oedd pan gyrhaeddoch.

    Lluniau - hawlfraint Adam Stanford / Aerial-Cam Ltd

    More YR HUDOL A’R CYSEGREDIG locations