Y Croc yn y Doc, Morglawdd Bae Caerdydd

ANTUR BYD Y PLENTYN

... Straeon i ddiddanu’r teulu i gyd
croc-in-the-dock-cardiff-barrage

Yng Nghaerdydd y ganwyd Roald Dahl (1916-1990), a hynny i rieni o Norwy. Mae plant ac oedolion yn y pedwar ban wedi dotio arno. Mwynhewch daith seiclo i’r teulu ar hyd 5 milltir o lwybr gwastad rhwng Morglawdd Bae Caerdydd ac Eglwys Gadeiriol Llandaf. Byddwch yn mynd heibio i fannau a oedd yn gyfarwydd iawn i Dahl. Cychwynnwch eich taith wrth gerflun y Croc yn y Doc, sydd wedi'i seilio ar The Enormous Crocodile, cyn oedi am hoe yn yr Eglwys Norwyaidd, lle cafodd yr awdur ei fedyddio. Dafliad carreg o Blas Roald Dahl saif Canolfan Mileniwm Cymru, ac arni eiriau'r bardd Gwyneth Lewis (g. 1959), “Creu Gwir fel Gwydr o Ffwrnais Awen". Galwch heibio Sgwâr Mount Stuart sydd â nifer o gwmnïau animeiddio, ffilm a dylunio graffeg gan gynnwys Calon – y cwmni a fu’n gyfrifol am weithio ar gartwnau Super Ted ‘slawer dydd. O fanno, dilynwch Daith Taf heibio i’r siop losin a lleoliad The Great Mouse Plot 1924. Bydd eich tro yn dod i ben o flaen adeilad mawreddog Eglwys Gadeiriol Llandaf, sy'n agos i lle cafodd Dahl rywfaint o’i addysg.

Y Croc yn y Doc, Morglawdd Bae Caerdydd

  • Yng Nghaerdydd y ganwyd Roald Dahl (1916-1990), a hynny i rieni o Norwy. Mae plant ac oedolion yn y pedwar ban wedi dotio arno. Mwynhewch daith seiclo i’r teulu ar hyd 5 milltir o lwybr gwastad rhwng Morglawdd Bae Caerdydd ac Eglwys Gadeiriol Llandaf. Byddwch yn mynd heibio i fannau a oedd yn gyfarwydd iawn i Dahl. Cychwynnwch eich taith wrth gerflun y Croc yn y Doc, sydd wedi'i seilio ar The Enormous Crocodile, cyn oedi am hoe yn yr Eglwys Norwyaidd, lle cafodd yr awdur ei fedyddio. Dafliad carreg o Blas Roald Dahl saif Canolfan Mileniwm Cymru, ac arni eiriau'r bardd Gwyneth Lewis (g. 1959), “Creu Gwir fel Gwydr o Ffwrnais Awen". Galwch heibio Sgwâr Mount Stuart sydd â nifer o gwmnïau animeiddio, ffilm a dylunio graffeg gan gynnwys Calon – y cwmni a fu’n gyfrifol am weithio ar gartwnau Super Ted ‘slawer dydd. O fanno, dilynwch Daith Taf heibio i’r siop losin a lleoliad The Great Mouse Plot 1924. Bydd eich tro yn dod i ben o flaen adeilad mawreddog Eglwys Gadeiriol Llandaf, sy'n agos i lle cafodd Dahl rywfaint o’i addysg.

    More ANTUR BYD Y PLENTYN locations