Parc Gwledig Cwm Dâr

ANTUR BYD Y PLENTYN

... Straeon i ddiddanu’r teulu i gyd
dare-valley-country-park

Bu Nina Bawden (1925-2012) awdur Carrie's War yn faciwî yn Aberdâr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ysbrydolodd y profiad hwn ei nofel enwog am blentyndod mewn cymuned lofaol yng Nghymru. Addaswyd y nofel yn gyfres deledu boblogaidd ym 1974. Ganwyd a magwyd yr awdur toreithiog Mihangel Morgan (g. 1955) yn Aberdâr. Parc Gwledig Cwm Dâr oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru i gael ei greu ar dir a greithiwyd gan ddiwydiant. Roedd yma bedwar ar bymtheg o byllau glo, a’r tirlun a chefn gwlad yn ddu o’u herwydd. Heddiw, mae tramwyfeydd wedi’u harwyddo a llwybrau cyfeiriannu yn eich dwyn heibio i’r nentydd a’r llynnoedd cyn dringo i roi golygfeydd eang. O dro i dro bydd y Parc yn cynnal gweithgareddau a chwaraeon dŵr.

Parc Gwledig Cwm Dâr

  • Bu Nina Bawden (1925-2012) awdur Carrie's War yn faciwî yn Aberdâr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ysbrydolodd y profiad hwn ei nofel enwog am blentyndod mewn cymuned lofaol yng Nghymru. Addaswyd y nofel yn gyfres deledu boblogaidd ym 1974. Ganwyd a magwyd yr awdur toreithiog Mihangel Morgan (g. 1955) yn Aberdâr. Parc Gwledig Cwm Dâr oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru i gael ei greu ar dir a greithiwyd gan ddiwydiant. Roedd yma bedwar ar bymtheg o byllau glo, a’r tirlun a chefn gwlad yn ddu o’u herwydd. Heddiw, mae tramwyfeydd wedi’u harwyddo a llwybrau cyfeiriannu yn eich dwyn heibio i’r nentydd a’r llynnoedd cyn dringo i roi golygfeydd eang. O dro i dro bydd y Parc yn cynnal gweithgareddau a chwaraeon dŵr.

    More ANTUR BYD Y PLENTYN locations