Dinas Mawddwy

ANTUR BYD Y PLENTYN

... Straeon i ddiddanu’r teulu i gyd
dinas-mawddwy

Yn Ninas Mawddwy y lleolwyd yr addasiad teledu o The Owl Service, nofel lwyddiannus Alan Garner (g. 1934). Mae’n dehongli darnau o hanes Math fab Mathonwy yn y Mabinogi. Roedd yr addasiad grymus yn adrodd stori genfigen ymhlith pobl ifanc, a thorrai dir newydd drwy wthio’r ffiniau yn y byd teledu plant. Dyma hefyd ardal Gwylliaid Cochion Mawddwy, lladron pen ffordd gwalltgoch o’r unfed ganrif ar bymtheg a ddaeth yn arwyr gwerin drwgenwog. Dilynwch y trac a’r llwybr troed ar hyd Nant Maesglase fymryn i’r gogledd-orllewin o’r pentref, nepell o’r A470, i deimlo’r naws anghysbell sydd yng ngwaith Garner. Cewch yma olygfeydd o raeadrau gwyllt yn ogystal. Mae nofel arobryn Angharad Price (g. 1972) O! Tyn y Gorchudd! Wedi ei osod yn y cwm ac mae’n rhoi portread bywiog o fywyd yma yn yr ugeinfed ganrif. 

Dinas Mawddwy

  • Yn Ninas Mawddwy y lleolwyd yr addasiad teledu o The Owl Service, nofel lwyddiannus Alan Garner (g. 1934). Mae’n dehongli darnau o hanes Math fab Mathonwy yn y Mabinogi. Roedd yr addasiad grymus yn adrodd stori genfigen ymhlith pobl ifanc, a thorrai dir newydd drwy wthio’r ffiniau yn y byd teledu plant. Dyma hefyd ardal Gwylliaid Cochion Mawddwy, lladron pen ffordd gwalltgoch o’r unfed ganrif ar bymtheg a ddaeth yn arwyr gwerin drwgenwog. Dilynwch y trac a’r llwybr troed ar hyd Nant Maesglase fymryn i’r gogledd-orllewin o’r pentref, nepell o’r A470, i deimlo’r naws anghysbell sydd yng ngwaith Garner. Cewch yma olygfeydd o raeadrau gwyllt yn ogystal. Mae nofel arobryn Angharad Price (g. 1972) O! Tyn y Gorchudd! Wedi ei osod yn y cwm ac mae’n rhoi portread bywiog o fywyd yma yn yr ugeinfed ganrif. 

    More ANTUR BYD Y PLENTYN locations