Ffynnon Eilian, Amlwch

O DDIFEROL DDIFYRRWCH

...Rhaeadrau, ogofâu, llynnoedd a thonnau
ffynnon-eilian

Ar odre darn creigiog o dir, saif Ffynnon Eilian. Fel y rhan fwyaf o ffynhonnau sanctaidd, credid bod iddi rinweddau iachaol a byddai'n denu ymwelwyr ar ddiwrnod Sant Eilian. O’r ail ganrif ar bymtheg, dechreuodd Eglwys Sant Eilian gerllaw ledaenu’r chwedl bod y ffynnon wedi byrlymu mewn man a felltithiwyd gan y sant pan laddwyd ei garw dof gan filgi. Wedi hynny, magodd Ffynnon Eilian enw fel ffynnon felltith hefyd, un y gellid ei defnyddio i fwrw anlwc ar eraill. Byddai ymwelwyr yn talu yn yr eglwys am swyn y gellid ei daflu i’r dŵr. Yn ôl y sôn, daeth yr eglwys yn gyfoethog ar gorn hynny, a phrynodd ddwy fferm gan ddosbarthu’r elw i’r tlodion. O’r ddeunawfed ganrif, fel ffynnon felltithio y câi ei hadnabod, a disgrifiwyd hi yn British Goblins (1881) fel ffynnon fwyaf arswydus Cymru.

Lluniau o Ffynnon Eilian - hawlfraint Wellhopper

Ffynnon Eilian, Amlwch

  • Ar odre darn creigiog o dir, saif Ffynnon Eilian. Fel y rhan fwyaf o ffynhonnau sanctaidd, credid bod iddi rinweddau iachaol a byddai'n denu ymwelwyr ar ddiwrnod Sant Eilian. O’r ail ganrif ar bymtheg, dechreuodd Eglwys Sant Eilian gerllaw ledaenu’r chwedl bod y ffynnon wedi byrlymu mewn man a felltithiwyd gan y sant pan laddwyd ei garw dof gan filgi. Wedi hynny, magodd Ffynnon Eilian enw fel ffynnon felltith hefyd, un y gellid ei defnyddio i fwrw anlwc ar eraill. Byddai ymwelwyr yn talu yn yr eglwys am swyn y gellid ei daflu i’r dŵr. Yn ôl y sôn, daeth yr eglwys yn gyfoethog ar gorn hynny, a phrynodd ddwy fferm gan ddosbarthu’r elw i’r tlodion. O’r ddeunawfed ganrif, fel ffynnon felltithio y câi ei hadnabod, a disgrifiwyd hi yn British Goblins (1881) fel ffynnon fwyaf arswydus Cymru.

    Lluniau o Ffynnon Eilian - hawlfraint Wellhopper

    More O DDIFEROL DDIFYRRWCH locations