Daeth yr awdur Richard Llewellyn (1906-1983) i aros i Gilfach Goch ym 1939 ac yno yr ysgrifennodd ei nofel How Green Was My Valley. Nofel oedd hon yn bwrw golwg ar fywyd cymuned lofaol yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Troswyd y nofel yn ffilm yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac mae sôn fod Dylan Thomas wedi cyfrannu at y sgript. Addaswyd y nofel gan y BBC hefyd, a’i throi’n gynhyrchiad teledu ym 1974. Elaine Morgan (1920-2013) oedd awdur y sgript y tro hwn, un o ffeministiaid hynotaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Ysgrifennodd Morgan yn helaeth ym maes anthropoleg, yn ogystal ag i’r llwyfan a’r sgrin.