Parc Gwledig y Gogarth

ANTUR BYD Y PLENTYN

... Straeon i ddiddanu’r teulu i gyd
great-orme-country-park

Treuliodd Alice Liddell sawl gwyliau haf yn Llandudno a’r Gogarth, a hi oedd y ferch a ysbrydolodd Lewis Carroll (1832-1898) i ysgrifennu Alice in Wonderland. Ewch i grwydro’r dref hon ar lan y môr, gan sylwi ar y cerfluniau o gymeriadau’r nofel enwog sydd wedi’u gwasgaru yma ac acw hyd y lle. Mae ap ar gael i'w lawrlwytho sy'n adrodd yr hanes ac yn dod â byd synhwyrus Alice yn fyw, neu dringwch i Ben y Gogarth. Gallwch hefyd gyrraedd y copa ar y ceir codi, drwy ddal tram, neu drwy yrru yno. Ar y copa, mae llwybr cerdded yn cychwyn o’r ganolfan i ymwelwyr, ac mae'n lle perffaith i synfyfyrio yng nghanol cynefinoedd arbennig a chreaduriaid y penrhyn, y geifr Kashmir gwyllt yn eu plith. Difyr hefyd yw Mwyngloddiau’r Gogarth gerllaw.

Parc Gwledig y Gogarth

  • Treuliodd Alice Liddell sawl gwyliau haf yn Llandudno a’r Gogarth, a hi oedd y ferch a ysbrydolodd Lewis Carroll (1832-1898) i ysgrifennu Alice in Wonderland. Ewch i grwydro’r dref hon ar lan y môr, gan sylwi ar y cerfluniau o gymeriadau’r nofel enwog sydd wedi’u gwasgaru yma ac acw hyd y lle. Mae ap ar gael i'w lawrlwytho sy'n adrodd yr hanes ac yn dod â byd synhwyrus Alice yn fyw, neu dringwch i Ben y Gogarth. Gallwch hefyd gyrraedd y copa ar y ceir codi, drwy ddal tram, neu drwy yrru yno. Ar y copa, mae llwybr cerdded yn cychwyn o’r ganolfan i ymwelwyr, ac mae'n lle perffaith i synfyfyrio yng nghanol cynefinoedd arbennig a chreaduriaid y penrhyn, y geifr Kashmir gwyllt yn eu plith. Difyr hefyd yw Mwyngloddiau’r Gogarth gerllaw.

    More ANTUR BYD Y PLENTYN locations