Ynys Llanddwyn

YR HUDOL A’R CYSEGREDIG

... Paganiaid a phererinion
llanddwyn-island

Dwynwen (m. c. OC 460), merch Sant Brychan, yw nawddsantes ein cariadon. Ceir fersiwn o’i hanes gan Iolo Morganwg (1747-1826), sy’n honni iddi syrthio mewn cariad â Maelon Dafodrill, ond iddi dorri’i chalon pan ddaeth Maelon â’r dyweddïad i ben. Yn ei ddicter, trodd Duw Dafrodrill yn rhew a rhoddodd dri dymuniad i Dwynwen. Dymunodd honno ddadmer Dafodrill; y gallu i glywed gweddïau’r sawl a oedd yn glaf o gariad; a byw’n feudwy ar Ynys Llanddwyn. Yr ynys hudol hon yw un o’r llefydd mwyaf rhamantaidd yng Nghymru. Cerddwch drwy Warchodfa Natur Genedlaethol Coedwig Niwbwrch a dilyn ôl troed y pererinion a ddeuai yma a’u calonnau’n chwâl. Mae adfeilion a chroesau Eglwys y Santes Dwynwen i’w gweld o’ch blaen, lle bu’r pysgod yn y ffynnon sanctaidd yn darogan tynged cariadon. Ysbrydolodd Dwynwen farddoniaeth Dafydd Trefor a Dafydd ap Gwilym, a dethlir ei gŵyl ar 25 Ionawr bob blwyddyn.

Ynys Llanddwyn

  • Dwynwen (m. c. OC 460), merch Sant Brychan, yw nawddsantes ein cariadon. Ceir fersiwn o’i hanes gan Iolo Morganwg (1747-1826), sy’n honni iddi syrthio mewn cariad â Maelon Dafodrill, ond iddi dorri’i chalon pan ddaeth Maelon â’r dyweddïad i ben. Yn ei ddicter, trodd Duw Dafrodrill yn rhew a rhoddodd dri dymuniad i Dwynwen. Dymunodd honno ddadmer Dafodrill; y gallu i glywed gweddïau’r sawl a oedd yn glaf o gariad; a byw’n feudwy ar Ynys Llanddwyn. Yr ynys hudol hon yw un o’r llefydd mwyaf rhamantaidd yng Nghymru. Cerddwch drwy Warchodfa Natur Genedlaethol Coedwig Niwbwrch a dilyn ôl troed y pererinion a ddeuai yma a’u calonnau’n chwâl. Mae adfeilion a chroesau Eglwys y Santes Dwynwen i’w gweld o’ch blaen, lle bu’r pysgod yn y ffynnon sanctaidd yn darogan tynged cariadon. Ysbrydolodd Dwynwen farddoniaeth Dafydd Trefor a Dafydd ap Gwilym, a dethlir ei gŵyl ar 25 Ionawr bob blwyddyn.

    More YR HUDOL A’R CYSEGREDIG locations