Llanilltud FawrLlantwit Major

GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN

... Mythau i’ch synnu a’ch rhyfeddu
llantwit-major

Lle rhyfeddol, cyforiog o hanes yw Llanilltud Fawr – gallwch ddechrau yn neuadd y dref a dilyn trywydd o amgylch 13 o adeiladau â phlaciau glas arnynt. Dyma safle Cor Tewdws, coleg i fynachod a sefydlwyd gan Sant Illtud yn yr OC 500au ac mae'n debyg mai dyma ganolfan ddysgu gynharaf gwledydd Prydain. Mae'r canwyllbrennau yn Eglwys Sant Illtud wedi'u cyflwyno i awdures a fu'n ysgrifennu am rai o chwedlau cwlt Cymru, Marie Trevelyan (1853-1922). Ysgrifennai am straeon a oedd yn amrywio o chwedlau Arthuraidd i chwedlau Rhamantaidd y Crynwyr, gan gasglu a chofnodi chwedlau gwerin llafar. Un o draddodiadau rhyfeddaf Morgannwg a gofnodwyd oedd hwnnw am y cadeiriau brathu a ddyddiai o'r unfed ganrif ar bymtheg. Yn ôl y sôn, roedd y rhain yn brathu pawb a fyddai’n eistedd arnynt – gweinidogion yn enwedig. Dynion meirw anniddig oedd yn gyfrifol am y brathu, meddai’r chwedl – dynion oedd i fod i ymuno ag Arawn (Brenin Annwn yn y Mabinogi) ond a oedd yn gaeth i’w hen ddodrefn.

Llanilltud FawrLlantwit Major

  • Lle rhyfeddol, cyforiog o hanes yw Llanilltud Fawr – gallwch ddechrau yn neuadd y dref a dilyn trywydd o amgylch 13 o adeiladau â phlaciau glas arnynt. Dyma safle Cor Tewdws, coleg i fynachod a sefydlwyd gan Sant Illtud yn yr OC 500au ac mae'n debyg mai dyma ganolfan ddysgu gynharaf gwledydd Prydain. Mae'r canwyllbrennau yn Eglwys Sant Illtud wedi'u cyflwyno i awdures a fu'n ysgrifennu am rai o chwedlau cwlt Cymru, Marie Trevelyan (1853-1922). Ysgrifennai am straeon a oedd yn amrywio o chwedlau Arthuraidd i chwedlau Rhamantaidd y Crynwyr, gan gasglu a chofnodi chwedlau gwerin llafar. Un o draddodiadau rhyfeddaf Morgannwg a gofnodwyd oedd hwnnw am y cadeiriau brathu a ddyddiai o'r unfed ganrif ar bymtheg. Yn ôl y sôn, roedd y rhain yn brathu pawb a fyddai’n eistedd arnynt – gweinidogion yn enwedig. Dynion meirw anniddig oedd yn gyfrifol am y brathu, meddai’r chwedl – dynion oedd i fod i ymuno ag Arawn (Brenin Annwn yn y Mabinogi) ond a oedd yn gaeth i’w hen ddodrefn.

    More GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN locations