Caer Engan, Dyffryn Nantlle

GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN

... Mythau i’ch synnu a’ch rhyfeddu
llyn-nantlle

Mae Dyffryn Nantlle yn enwog am yr holl chwedlau sy'n gysylltiedig â'r Tylwyth Teg. Mae un hanes yn sôn am ynys a nofiai ar Lyn Nantlle. Dyma’r man lle byddai un o'r tylwyth teg a'i gŵr o gig a gwaed yn cyfarfod ar ôl iddi gael ei gwahardd rhag cerdded ar y tir. Dros y blynyddoedd, mae'r beirdd wedi canu i harddwch naturiol Dyffryn Nantlle ac yn fwy diweddar, am greithiau’r diwydiant llechi ar y tir. Mae R. Williams Parry (1884-1956), a anwyd yn Nhalysarn, yn crisialu'r gwrthgyferbyniadau hyn yn ei soned Ddoe a Heddiw – gwrthgyferbyniadau a ddaw’n amlwg wrth ichi ddilyn y llwybrau o amgylch y llyn. Mae Dyffryn Nantlle'n ymddangos hefyd ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi. Dyma lle mae Gwydion yn gweld Lleu wedi'i droi'n eryr ar y dderwen.

Caer Engan, Dyffryn Nantlle

  • Mae Dyffryn Nantlle yn enwog am yr holl chwedlau sy'n gysylltiedig â'r Tylwyth Teg. Mae un hanes yn sôn am ynys a nofiai ar Lyn Nantlle. Dyma’r man lle byddai un o'r tylwyth teg a'i gŵr o gig a gwaed yn cyfarfod ar ôl iddi gael ei gwahardd rhag cerdded ar y tir. Dros y blynyddoedd, mae'r beirdd wedi canu i harddwch naturiol Dyffryn Nantlle ac yn fwy diweddar, am greithiau’r diwydiant llechi ar y tir. Mae R. Williams Parry (1884-1956), a anwyd yn Nhalysarn, yn crisialu'r gwrthgyferbyniadau hyn yn ei soned Ddoe a Heddiw – gwrthgyferbyniadau a ddaw’n amlwg wrth ichi ddilyn y llwybrau o amgylch y llyn. Mae Dyffryn Nantlle'n ymddangos hefyd ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi. Dyma lle mae Gwydion yn gweld Lleu wedi'i droi'n eryr ar y dderwen.

    More GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN locations