Llyn yr Afanc, Betws-y-Coed

O DDIFEROL DDIFYRRWCH

...Rhaeadrau, ogofâu, llynnoedd a thonnau
llyn-yr-afanc-bettws-y-coed

Arferai Afanc cythreulig beri arswyd yn y llyn hardd hwn yn afon Conwy. Math o grocodeil oedd yr anghenfil yn ôl rhai; afanc anferth neu gorrach meddai eraill. Dywedid ei fod yn ymosod ar unrhyw un a fyddai’n ddigon gwirion i fentro i’r dŵr cyn eu llyncu’n fyw. Yn wir, roedd yr Afanc, drwy chwipio’i gynffon, wedi peri cymaint o lifogydd nes boddi holl bobl Prydain, gan adael dim ond dau ar ôl: Dwyfan a Dwyfach. Dywed traddodiad arall i’r bobl leol ddefnyddio ychen i lusgo’r Afanc i Lyn Glaslyn, ar ôl i ferch ifanc ganu i’w ddenu i’r lan. Perodd yr ymdrech honno i lygaid yr ychen lamu o’i ben, ac i’r dagrau a lifodd wedyn ffurfio Pwll Llygad yr Ych. Gan gymryd eich bod chi’n hyderus fod y cythraul wedi gadael, mae Llyn yr Afanc yn lecyn hyfryd i nofio ac mae wedi ei leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Lluniau - hawlfraint Vivienne Rickman-Poole

Llyn yr Afanc, Betws-y-Coed

  • Arferai Afanc cythreulig beri arswyd yn y llyn hardd hwn yn afon Conwy. Math o grocodeil oedd yr anghenfil yn ôl rhai; afanc anferth neu gorrach meddai eraill. Dywedid ei fod yn ymosod ar unrhyw un a fyddai’n ddigon gwirion i fentro i’r dŵr cyn eu llyncu’n fyw. Yn wir, roedd yr Afanc, drwy chwipio’i gynffon, wedi peri cymaint o lifogydd nes boddi holl bobl Prydain, gan adael dim ond dau ar ôl: Dwyfan a Dwyfach. Dywed traddodiad arall i’r bobl leol ddefnyddio ychen i lusgo’r Afanc i Lyn Glaslyn, ar ôl i ferch ifanc ganu i’w ddenu i’r lan. Perodd yr ymdrech honno i lygaid yr ychen lamu o’i ben, ac i’r dagrau a lifodd wedyn ffurfio Pwll Llygad yr Ych. Gan gymryd eich bod chi’n hyderus fod y cythraul wedi gadael, mae Llyn yr Afanc yn lecyn hyfryd i nofio ac mae wedi ei leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

    Lluniau - hawlfraint Vivienne Rickman-Poole

    More O DDIFEROL DDIFYRRWCH locations