Nant Gwrtheyrn

GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN

... Mythau i’ch synnu a’ch rhyfeddu
nant-gwrtheyrn

Yma, dan glogwyni unig yr arfordir, mae lleoliad un o straeon caru mwyaf torcalonnus Cymru. Roedd Rhys a Meinir wedi'u magu yn y Nant ac yn gariadon ers dyddiau mebyd. Ar fore eu priodas yn Eglwys Clynnog, dilynodd Meinir yr hen draddodiad, ac aeth i guddio rhag y gwesteion. Serch hynny, trodd chwarae'n chwerw, wrth i’w ffrindiau, ei theulu a Rhys chwilio'n wyllt amdani ond roedd y cyfan yn ofer. Bu Rhys yn chwilio'n ddyfal am fisoedd, nes i fellten un noson stormus hollti'r dderwen yr eisteddai dani a datgelu sgerbwd Meinir yn ei ffrog briodas. Bu farw Rhys o dorcalon. Erbyn heddiw, canolfan iaith a threftadaeth sydd yn hen bentref y chwarelwyr yn Nant Gwrtheyrn. Mae croeso ichi daro heibio am y diwrnod i fwynhau'r arddangosfa a'r caffi sy'n cynnig golygfeydd ysblennydd o'r môr, neu fe gewch ymuno â chwrs preswyl i ddysgu Cymraeg.

Nant Gwrtheyrn

  • Yma, dan glogwyni unig yr arfordir, mae lleoliad un o straeon caru mwyaf torcalonnus Cymru. Roedd Rhys a Meinir wedi'u magu yn y Nant ac yn gariadon ers dyddiau mebyd. Ar fore eu priodas yn Eglwys Clynnog, dilynodd Meinir yr hen draddodiad, ac aeth i guddio rhag y gwesteion. Serch hynny, trodd chwarae'n chwerw, wrth i’w ffrindiau, ei theulu a Rhys chwilio'n wyllt amdani ond roedd y cyfan yn ofer. Bu Rhys yn chwilio'n ddyfal am fisoedd, nes i fellten un noson stormus hollti'r dderwen yr eisteddai dani a datgelu sgerbwd Meinir yn ei ffrog briodas. Bu farw Rhys o dorcalon. Erbyn heddiw, canolfan iaith a threftadaeth sydd yn hen bentref y chwarelwyr yn Nant Gwrtheyrn. Mae croeso ichi daro heibio am y diwrnod i fwynhau'r arddangosfa a'r caffi sy'n cynnig golygfeydd ysblennydd o'r môr, neu fe gewch ymuno â chwrs preswyl i ddysgu Cymraeg.

    More GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN locations