Dyffryn Olchon

BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD

... Rhyfelwyr, milwyr, cestyll a theyrnasoedd
olchon-valley

Dewch am dro i realiti arall Resistance, nofel a ffilm Owen Sheers (g. 1974). Stori yw hon wedi’i gosod yn nhirwedd anghysbell Dyffryn Olchon ar ôl goresgyniad y Natsïaid ym 1944. Gan groesi’n fwriadol i ochr ‘draw’ Clawdd Offa, mae Dyffryn Olchon yn drothwy mewn mwy nag un ystyr, o ran amser a lle. Yn y nofel, mae’r gaeaf trwm ar warthaf y menywod lleol sy’n dechrau derbyn colli eu gwŷr a dyfodiad y Natsïaid. Rhaid derbyn hefyd mor fregus yw eu bywydau bellach. Mae’r cwm hefyd yn enwog fel man cyfarfod cudd i Anghydffurfwyr yn yr 16eg a’r 17eg ganrif. Parciwch wrth y Bryn Du i weld y golygfeydd o Grib y Gath, cyn crwydro godre'r dyffryn serth hwn, dyffryn sy'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Dilynwch y lôn a'r llwybrau troed i weld adfeilion y tyddynnod a’r ffermdai a ysbrydolodd Sheers, ynghyd â thoreth o adar, anifeiliaid a phlanhigion.

Dyffryn Olchon

  • Dewch am dro i realiti arall Resistance, nofel a ffilm Owen Sheers (g. 1974). Stori yw hon wedi’i gosod yn nhirwedd anghysbell Dyffryn Olchon ar ôl goresgyniad y Natsïaid ym 1944. Gan groesi’n fwriadol i ochr ‘draw’ Clawdd Offa, mae Dyffryn Olchon yn drothwy mewn mwy nag un ystyr, o ran amser a lle. Yn y nofel, mae’r gaeaf trwm ar warthaf y menywod lleol sy’n dechrau derbyn colli eu gwŷr a dyfodiad y Natsïaid. Rhaid derbyn hefyd mor fregus yw eu bywydau bellach. Mae’r cwm hefyd yn enwog fel man cyfarfod cudd i Anghydffurfwyr yn yr 16eg a’r 17eg ganrif. Parciwch wrth y Bryn Du i weld y golygfeydd o Grib y Gath, cyn crwydro godre'r dyffryn serth hwn, dyffryn sy'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Dilynwch y lôn a'r llwybrau troed i weld adfeilion y tyddynnod a’r ffermdai a ysbrydolodd Sheers, ynghyd â thoreth o adar, anifeiliaid a phlanhigion.

    More BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD locations