Castell Oxwich

Cymru Ryfedd a Chyfareddol

oxwich-castle

Plasty Tuduraidd caerog yw Castell Oxwich, a godwyd ar safle castell cynharach. Gerllaw, dywedir i Gastell Pennard gael ei godi dros nos gan ddewin a oedd yn wynebu ymosodiad gan y Normaniaid. Bu’r tenant, yr Arglwydd Rhys ap Iestyn, yn bygwth tylwyth teg a fu’n dawnsio ar noson ei briodas. Wedi’u cynddeiriogi, codwyd mynydd o dywod ganddynt yn Iwerddon a gorchuddio’r castell â’r twyni sy’n dal o'i amgylch heddiw. Roedd yr arfordir o’r Mwmbwls i Gŵyr yn arfer bod dair i bum milltir allan yn y môr. Yn y tir gwyrdd rhwng y ddau yr oedd Coed Arian, a hen lwybr meirch anghofiedig yn arwain o Gastell Pen-rhys i Abaty Margam. Gorchuddiwyd hwn gan sawl storm ffyrnig, ac mae pysgotwyr yn sôn am weld adeiladau o dan y dŵr ac am ddod o hyd i weddillion ceirw, baeddod a hyddod. Mae mythau eraill o’r sir yn cynnwys Coeten Arthur ger Reynoldston: carreg fechan a dyfodd drwy hud a lledrith pan daflwyd hi gan y Brenin Arthur. Dywedir bod y garreg yn sychedig a'i bod yn yfed o dro i dro o nant leol. Yn ôl yr hanes, sefydlwyd Abertawe gan y Brenin Llychlynnaidd, Sweyn Forkbeard (OC 960 – 1016) a dywedir mai oddi yno y daw’r enw ‘Swansea’ ('Sweyn's Island’). Mae hwnnw wedi’i gladdu rhwng y ddwy feddrod a gaiff eu hadnabod fel 'Sweyn Howes’.

Darlun - hawlfraint Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru
Darn ysgrifenedig - hawlfraint Rhys Milsom / Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru

Castell Oxwich

  • Plasty Tuduraidd caerog yw Castell Oxwich, a godwyd ar safle castell cynharach. Gerllaw, dywedir i Gastell Pennard gael ei godi dros nos gan ddewin a oedd yn wynebu ymosodiad gan y Normaniaid. Bu’r tenant, yr Arglwydd Rhys ap Iestyn, yn bygwth tylwyth teg a fu’n dawnsio ar noson ei briodas. Wedi’u cynddeiriogi, codwyd mynydd o dywod ganddynt yn Iwerddon a gorchuddio’r castell â’r twyni sy’n dal o'i amgylch heddiw. Roedd yr arfordir o’r Mwmbwls i Gŵyr yn arfer bod dair i bum milltir allan yn y môr. Yn y tir gwyrdd rhwng y ddau yr oedd Coed Arian, a hen lwybr meirch anghofiedig yn arwain o Gastell Pen-rhys i Abaty Margam. Gorchuddiwyd hwn gan sawl storm ffyrnig, ac mae pysgotwyr yn sôn am weld adeiladau o dan y dŵr ac am ddod o hyd i weddillion ceirw, baeddod a hyddod. Mae mythau eraill o’r sir yn cynnwys Coeten Arthur ger Reynoldston: carreg fechan a dyfodd drwy hud a lledrith pan daflwyd hi gan y Brenin Arthur. Dywedir bod y garreg yn sychedig a'i bod yn yfed o dro i dro o nant leol. Yn ôl yr hanes, sefydlwyd Abertawe gan y Brenin Llychlynnaidd, Sweyn Forkbeard (OC 960 – 1016) a dywedir mai oddi yno y daw’r enw ‘Swansea’ ('Sweyn's Island’). Mae hwnnw wedi’i gladdu rhwng y ddwy feddrod a gaiff eu hadnabod fel 'Sweyn Howes’.

    Darlun - hawlfraint Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru
    Darn ysgrifenedig - hawlfraint Rhys Milsom / Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru

    More Cymru Ryfedd a Chyfareddol locations