Pennant Melangell

GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN

... Mythau i’ch synnu a’ch rhyfeddu
pennant-melangell

Yn y seithfed ganrif, dihangodd y Santes Melangell, merch i un o Frenhinoedd Iwerddon, rhag priodas a oedd wedi'i threfnu ar ei chyfer yn groes i'w hewyllys, ac aeth i fyw ymhell o bob man yng Nghwm Pennant. Bu'n byw yno'n feudwy am bymtheng mlynedd, ac un diwrnod, fe roddodd noddfa i ysgyfarnog rhag cŵn hela Brochwel Ysgithrog, Tywysog Powys. Ciliodd y cŵn, ac wrth weld harddwch a duwioldeb Melangell, syfrdanwyd Brochwel a rhoddodd y dyffryn iddi'n lloches am byth. Sefydlodd cymuned o leianod yma, ac yn yr eglwys a godwyd ym 1160, mae ei chreiriau i'w gweld o hyd. Erbyn heddiw, mae'r lle'n ffynnu fel canolfan iachau a chwnsela. Cewch grwydro o amgylch yr eglwys a'r ganolfan a dilyn trywydd y llwybrau drwy’r coed heibio i’r nentydd a oedd mor gyfarwydd i’r Santes Melangell.

Pennant Melangell

  • Yn y seithfed ganrif, dihangodd y Santes Melangell, merch i un o Frenhinoedd Iwerddon, rhag priodas a oedd wedi'i threfnu ar ei chyfer yn groes i'w hewyllys, ac aeth i fyw ymhell o bob man yng Nghwm Pennant. Bu'n byw yno'n feudwy am bymtheng mlynedd, ac un diwrnod, fe roddodd noddfa i ysgyfarnog rhag cŵn hela Brochwel Ysgithrog, Tywysog Powys. Ciliodd y cŵn, ac wrth weld harddwch a duwioldeb Melangell, syfrdanwyd Brochwel a rhoddodd y dyffryn iddi'n lloches am byth. Sefydlodd cymuned o leianod yma, ac yn yr eglwys a godwyd ym 1160, mae ei chreiriau i'w gweld o hyd. Erbyn heddiw, mae'r lle'n ffynnu fel canolfan iachau a chwnsela. Cewch grwydro o amgylch yr eglwys a'r ganolfan a dilyn trywydd y llwybrau drwy’r coed heibio i’r nentydd a oedd mor gyfarwydd i’r Santes Melangell.

    More GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN locations