Adeilad neo-Normanaidd anferth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yw Castell Penrhyn, yn sefyll mewn llecyn ysblennydd. Gwnaeth yr ystâd ei ffortiwn drwy gaethwasiaeth yn y planhigfeydd siwgr yn y Caribî, cyn ymelwa ar lafur y chwarelwyr llechi yng Ngwynedd. Un gwael am drin ei weithwyr oedd yr Arglwydd Penrhyn (1836-1907), ac arweiniodd hynny at sawl anghydfod a gyrhaeddodd benllanw yn ystod Streic Fawr 1900-1901. Ysbrydolodd y digwyddiadau hyn sawl gwaith dehongliadol, gan gynnwys Chwalfa gan T. Rowland Hughes (1903-1949). Troswyd y nofel honno yn gynhyrchiad llwyfan llwyddiannus gan y Theatr Genedlaethol yn ddiweddar. Mae nifer o bobl leol yn dal i wrthod ymweld â'r castell, sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r Ymddiriedolaeth wrthi’n gweithio ar brosiect celfyddydol mawr a fydd yn rhoi sylw i hanes cymhleth ac anodd y lle. Yn wir, mae ymgyfoethogi ar draul y gweithwyr a chaethwasiaeth wedi bod yn destun gweithiau llenyddol di-ben-draw yng Nghymru. Yn eu plith mae’r nofel ysbryd ddiweddar Sugar Hall gan Tiffany Murray (g. 1971) yn ogystal â Sugar and Slate gan Charlotte Williams, sy'n archwilio'r themâu hyn a gwrthdrawiadau diweddar o hunaniaeth mewn siwrne hunangofiannol o Affrica i Guyana a Gogledd Cymru.