Plas Glandenys, Silian

GWRTHRYFEL A REBELIAID

... Dihirod, terfysgwyr, taranwyr
plas-glandenys-silian

Ym Mhlas Glandenys y ganwyd un o sylfaenwyr ac arweinydd Byddin Rhyddid Cymru, William Julian Cayo-Evans (1937-1995). Byddai’n bridio ceffylau yma. Roedd “Cayo”, fel y gelwid ef, yn fab i un a fu’n Uwch Siryf Sir Aberteifi, ac fe’i haddysgwyd mewn ysgol fonedd yn Lloegr lle datblygodd ei genedlaetholdeb Cymreig. Ac yntau wedi’i gynddeiriogi gan foddi Capel Celyn, roedd yn ganolog i’r ymgyrch ‘gweithredu uniongyrchol’ a ddilynodd yn ystod y 1960au a’r 1970au. Roedd yn ŵr dymunol, huawdl a golygus, ac yn wyneb cyhoeddus gwych i’r fyddin. Byddai’n gwahodd newyddiadurwyr i ymarferion saethu gan ddefnyddio gynnau ffug, a gorymdeithiodd yn Nulyn i nodi hanner canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg ym 1966. Fe’i dedfrydwyd i 15 mis yng ngharchar ym 1969 am gynllwynio i achosi ffrwydradau yn ystod cyfnod arwisgo'r Tywysog Siarl. Bu Cayo yn ysbrydoliaeth i lyfrau a chaneuon o bob math, yn ogystal ag i dŷ tafarn: y Cayo Arms ar Heol y Gadeirlan yng Nghaerdydd. Mae Plas Glandenys hefyd yn lleoliad ar gyfer y stori fer The Lovers’ Graves gan Bethan Phillips, sydd wedi ei hysbrydoli gan scandal rhamantaidd rhwng y perchennog diwethaf, William Jones, a’i wraig ifanc. Nid yw Plas Glandenys ar agor i'r cyhoedd, ond mae fflat gwyliau yno sydd ar gael i’w logi. Ewch i archwilio'r llwybrau i'r gogledd o Silian sydd yn arwain at y meysydd lle bu Byddin Rhyddid Cymru yn hyfforddi.

Lluniau - hawlfraint Helen Cayo-Evans

Plas Glandenys, Silian

  • Ym Mhlas Glandenys y ganwyd un o sylfaenwyr ac arweinydd Byddin Rhyddid Cymru, William Julian Cayo-Evans (1937-1995). Byddai’n bridio ceffylau yma. Roedd “Cayo”, fel y gelwid ef, yn fab i un a fu’n Uwch Siryf Sir Aberteifi, ac fe’i haddysgwyd mewn ysgol fonedd yn Lloegr lle datblygodd ei genedlaetholdeb Cymreig. Ac yntau wedi’i gynddeiriogi gan foddi Capel Celyn, roedd yn ganolog i’r ymgyrch ‘gweithredu uniongyrchol’ a ddilynodd yn ystod y 1960au a’r 1970au. Roedd yn ŵr dymunol, huawdl a golygus, ac yn wyneb cyhoeddus gwych i’r fyddin. Byddai’n gwahodd newyddiadurwyr i ymarferion saethu gan ddefnyddio gynnau ffug, a gorymdeithiodd yn Nulyn i nodi hanner canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg ym 1966. Fe’i dedfrydwyd i 15 mis yng ngharchar ym 1969 am gynllwynio i achosi ffrwydradau yn ystod cyfnod arwisgo'r Tywysog Siarl. Bu Cayo yn ysbrydoliaeth i lyfrau a chaneuon o bob math, yn ogystal ag i dŷ tafarn: y Cayo Arms ar Heol y Gadeirlan yng Nghaerdydd. Mae Plas Glandenys hefyd yn lleoliad ar gyfer y stori fer The Lovers’ Graves gan Bethan Phillips, sydd wedi ei hysbrydoli gan scandal rhamantaidd rhwng y perchennog diwethaf, William Jones, a’i wraig ifanc. Nid yw Plas Glandenys ar agor i'r cyhoedd, ond mae fflat gwyliau yno sydd ar gael i’w logi. Ewch i archwilio'r llwybrau i'r gogledd o Silian sydd yn arwain at y meysydd lle bu Byddin Rhyddid Cymru yn hyfforddi.

    Lluniau - hawlfraint Helen Cayo-Evans

    More GWRTHRYFEL A REBELIAID locations