Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN

... Mythau i’ch synnu a’ch rhyfeddu
st-fagans-national-history-museum

Cewch ddysgu am chwedlau di-ri Cymru yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a llyncu miloedd o flynyddoedd o hanes Cymru wrth ichi grwydro o amgylch yr adeiladau ar y tir. Maent i gyd wedi'u hadfer gyda gofal mawr ac wedi'u symud yno o'u lleoliad gwreiddiol. Un o'r chwedlau mwyaf adnabyddus ac anghyffredin sy'n dod yn fyw yma yw hanes y Fari Lwyd, sydd hefyd yn cael ei galw'n Wasail ac yn Gynfas-farch. Mae'n bosibl bod y traddodiad hwn o’r de’n dyddio yn ôl i'r ddeunawfed ganrif. Cymeriad ar ffurf march sydd yma, a hwnnw’n gwisgo penglog ceffyl ac addurniadau. Bydd yn crwydro o dŷ i dŷ gefn gaeaf yn cyfnewid penillion ysgafn sarhaus â'r trigolion cyn cael ei wahodd at yr aelwyd i gael tamaid o fwyd a diod. Y traddodiad hwn oedd yr hyn a ysbrydolodd y bardd Vernon Watkins (1906-1967) i gyfansoddi’r Ballad of Mari Lwyd.

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

  • Cewch ddysgu am chwedlau di-ri Cymru yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a llyncu miloedd o flynyddoedd o hanes Cymru wrth ichi grwydro o amgylch yr adeiladau ar y tir. Maent i gyd wedi'u hadfer gyda gofal mawr ac wedi'u symud yno o'u lleoliad gwreiddiol. Un o'r chwedlau mwyaf adnabyddus ac anghyffredin sy'n dod yn fyw yma yw hanes y Fari Lwyd, sydd hefyd yn cael ei galw'n Wasail ac yn Gynfas-farch. Mae'n bosibl bod y traddodiad hwn o’r de’n dyddio yn ôl i'r ddeunawfed ganrif. Cymeriad ar ffurf march sydd yma, a hwnnw’n gwisgo penglog ceffyl ac addurniadau. Bydd yn crwydro o dŷ i dŷ gefn gaeaf yn cyfnewid penillion ysgafn sarhaus â'r trigolion cyn cael ei wahodd at yr aelwyd i gael tamaid o fwyd a diod. Y traddodiad hwn oedd yr hyn a ysbrydolodd y bardd Vernon Watkins (1906-1967) i gyfansoddi’r Ballad of Mari Lwyd.

    More GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN locations