Castell Sycharth

GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN

... Mythau i’ch synnu a’ch rhyfeddu
sycharth-castle

Un o gartrefi Owain Glyndŵr (1359-c.1416) yw Sycharth. Un o arwyr eiconig hanes Cymru yw Owain a'r Cymro olaf i ddal teitl Tywysog Cymru. Ac yntau'n un o ddisgynyddion Llywelyn Fawr ac yn gyn-filwr dan Goron Lloegr, arweiniodd Glyndŵr wrthryfel 1400-1410 yn erbyn teyrnasiad Lloegr ar ôl anghydfodau am golli tir a grym. Ymhlith yr hanesion am y Tywysog, mae sôn am ymddangosiad comed enfawr ym 1402. Tybiwyd bod hwn yn darogan buddugoliaeth i Glyndŵr maes o law. Yn anffodus, ni wireddwyd y broffwydoliaeth. Llwyddodd i ddianc rhag y Saeson, ond nid oes neb yn gwybod ymhle y cafodd ei gladdu. Serch hynny, mae un chwedl yn dweud y bydd yn atgyfodi ryw ddydd, pan fydd Cymru'n wynebu bygythiad mawr arall. Mae Sycharth yn enghraifft wych o gastell mwnt a beili ac fe ganodd Iolo Goch (1320-1398) fawl iddo cyn dechrau gwrthryfel Glyndŵr. Mae Owain Glyndŵr yn dal i ysbrydoli llawer o awduron cyfoes yng Nghymru.

Castell Sycharth

  • Un o gartrefi Owain Glyndŵr (1359-c.1416) yw Sycharth. Un o arwyr eiconig hanes Cymru yw Owain a'r Cymro olaf i ddal teitl Tywysog Cymru. Ac yntau'n un o ddisgynyddion Llywelyn Fawr ac yn gyn-filwr dan Goron Lloegr, arweiniodd Glyndŵr wrthryfel 1400-1410 yn erbyn teyrnasiad Lloegr ar ôl anghydfodau am golli tir a grym. Ymhlith yr hanesion am y Tywysog, mae sôn am ymddangosiad comed enfawr ym 1402. Tybiwyd bod hwn yn darogan buddugoliaeth i Glyndŵr maes o law. Yn anffodus, ni wireddwyd y broffwydoliaeth. Llwyddodd i ddianc rhag y Saeson, ond nid oes neb yn gwybod ymhle y cafodd ei gladdu. Serch hynny, mae un chwedl yn dweud y bydd yn atgyfodi ryw ddydd, pan fydd Cymru'n wynebu bygythiad mawr arall. Mae Sycharth yn enghraifft wych o gastell mwnt a beili ac fe ganodd Iolo Goch (1320-1398) fawl iddo cyn dechrau gwrthryfel Glyndŵr. Mae Owain Glyndŵr yn dal i ysbrydoli llawer o awduron cyfoes yng Nghymru.

    More GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN locations