Twmbarlwm

GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN

... Mythau i’ch synnu a’ch rhyfeddu
twmbarlwm

Mae Twmbarlwm (neu'r Twmp) ger Cwmcarn 500 metr uwchben lefel y môr ac oddi yno cewch olygfeydd ysblennydd o Aber Hafren. Mae'n gyforiog o hanes a chwedlau. Ym mhen draw crib Mynydd Henllys y mae Twmbarlwm ac mae'r elfen 'llys' yn yr enw mae'n debyg yn cyfeirio at y llys a oedd yn y gaer yn ystod Oes yr Haearn – caer a oedd yno cyn codi'r castell mwnt a beili Normanaidd. Wrth ichi hel eich traed at y garnedd a godwyd ddechrau Oes yr Efydd, ger y brig a'r mwnt, efallai y gwelwch chi'r fan lle y claddwyd cawr (corff Bendigeidfran o'r Mabinogi efallai) a rhywfaint o drysor. Yn ôl pob sôn, mae’r rhain yn cael eu gwarchod gan haid o wenyn. Ac yn wir, yn ystod y 1860au, gwelwyd haid enfawr o wenyn a chacwn yn ymaflyd â’i gilydd uwchben Twmbarlwm. Weithiau, maen nhw’n dweud bod cerddoriaeth danddaearol, ryfedd a hudolus yn dod o’r bryn. Mae gwybodaeth am daith gerdded i'r Twmp ar gael yng Nghanolfan Ymwelwyr Coedwig Cwmcarn.

Twmbarlwm

  • Mae Twmbarlwm (neu'r Twmp) ger Cwmcarn 500 metr uwchben lefel y môr ac oddi yno cewch olygfeydd ysblennydd o Aber Hafren. Mae'n gyforiog o hanes a chwedlau. Ym mhen draw crib Mynydd Henllys y mae Twmbarlwm ac mae'r elfen 'llys' yn yr enw mae'n debyg yn cyfeirio at y llys a oedd yn y gaer yn ystod Oes yr Haearn – caer a oedd yno cyn codi'r castell mwnt a beili Normanaidd. Wrth ichi hel eich traed at y garnedd a godwyd ddechrau Oes yr Efydd, ger y brig a'r mwnt, efallai y gwelwch chi'r fan lle y claddwyd cawr (corff Bendigeidfran o'r Mabinogi efallai) a rhywfaint o drysor. Yn ôl pob sôn, mae’r rhain yn cael eu gwarchod gan haid o wenyn. Ac yn wir, yn ystod y 1860au, gwelwyd haid enfawr o wenyn a chacwn yn ymaflyd â’i gilydd uwchben Twmbarlwm. Weithiau, maen nhw’n dweud bod cerddoriaeth danddaearol, ryfedd a hudolus yn dod o’r bryn. Mae gwybodaeth am daith gerdded i'r Twmp ar gael yng Nghanolfan Ymwelwyr Coedwig Cwmcarn.

    More GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN locations