Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy

BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD

... Rhyfelwyr, milwyr, cestyll a theyrnasoedd
ty-newydd-writing-centre-llanystumdwy

Mewn llecyn hudolus sy'n edrych draw dros Fae Ceredigion, Tŷ Newydd oedd cartref olaf y Prif Weinidog David Lloyd George (1863-1945). Yn Llanystumdwy hefyd, wrth gwrs, y magwyd ef a pha ryfedd iddo ddychwelyd yma ar ôl ymddeol. Lloyd George oedd Prif Weinidog Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a chomisiynodd y pensaer enwog, Clough Williams-Ellis (1883-1978), i ailwampio’r tŷ. Erbyn hyn, Llenyddiaeth Cymru sy’n gyfrifol am y lle gan mai dyma Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Mae croeso i ymwelwyr ddod i ddarllen am hanes y tŷ yn y fynedfa, tra bo modd ymweld â bedd ac Amgueddfa Lloyd George hefyd. Williams-Ellis a adeiladodd y pentref cyfagos ym Mhortmeirion, pentref a ddaeth yn enwog yn sgil cyfres boblogaidd The Prisoner yn y 1960au. Daw artistiaid yma’n eu heidiau, ac anodd peidio â rhyfeddu at y bensaernïaeth Eidalaidd hynod. Mae awduron o fri fel H G Wells, George Bernard Shaw a Noël Coward ymhlith y rheini sydd wedi’u denu drwy’r pyrth.

Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy

  • Mewn llecyn hudolus sy'n edrych draw dros Fae Ceredigion, Tŷ Newydd oedd cartref olaf y Prif Weinidog David Lloyd George (1863-1945). Yn Llanystumdwy hefyd, wrth gwrs, y magwyd ef a pha ryfedd iddo ddychwelyd yma ar ôl ymddeol. Lloyd George oedd Prif Weinidog Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a chomisiynodd y pensaer enwog, Clough Williams-Ellis (1883-1978), i ailwampio’r tŷ. Erbyn hyn, Llenyddiaeth Cymru sy’n gyfrifol am y lle gan mai dyma Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Mae croeso i ymwelwyr ddod i ddarllen am hanes y tŷ yn y fynedfa, tra bo modd ymweld â bedd ac Amgueddfa Lloyd George hefyd. Williams-Ellis a adeiladodd y pentref cyfagos ym Mhortmeirion, pentref a ddaeth yn enwog yn sgil cyfres boblogaidd The Prisoner yn y 1960au. Daw artistiaid yma’n eu heidiau, ac anodd peidio â rhyfeddu at y bensaernïaeth Eidalaidd hynod. Mae awduron o fri fel H G Wells, George Bernard Shaw a Noël Coward ymhlith y rheini sydd wedi’u denu drwy’r pyrth.

    More BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD locations