Ffynnon y Santes Ann, Tryleg

O DDIFEROL DDIFYRRWCH

...Rhaeadrau, ogofâu, llynnoedd a thonnau
virtuous-well-trellech

I’n hynafiaid, pwy a ŵyr nad oedd mannau dyfriog yn byrth i fydoedd eraill, ac mae’n bosibl iawn bod y ffynnon hon yn sanctaidd iddynt. Dywedir bod ei llwybr yn llifo o dan Gerrig Harold, y meini hirion cyfagos. Mae'r ffynnon yn enwog am ei rhinweddau iachaol, ac ymwelai pererinion â hi tan yr ail ganrif ar bymtheg. Yn draddodiadol, mae’n un o naw ffynnon sy’n tarddu o bedair nant, a’r rheini’n gyforiog o haearn. Byddai pob ffynnon yn gallu trin gwahanol afiechydon. Rhoddid cerrig mân yn y dŵr, a byddai nifer y swigod dilynol yn dangos a oedd iachâd i fod. Mae stori gan y trigolion lleol am ffermwr a gaeodd y ffynhonnau ond a’u hagorodd mewn dim wedyn ar ôl cael bygythiadau gan “hen ŵr bach rhyfedd”. Dywedir bod y tylwyth teg yn dawnsio ger y ffynnon ar nos Gŵyl Ifan, ac yn yfed dŵr o’r blodau sydd i’w canfod wedi’u gwasgaru yno bob bore’r ŵyl. Ym mhentref prydferth Tryleg yn Nyffryn Gwy hefyd y ganwyd yr athronydd Bertrand Russell (1872-1970).

 

Ffynnon y Santes Ann, Tryleg

  • I’n hynafiaid, pwy a ŵyr nad oedd mannau dyfriog yn byrth i fydoedd eraill, ac mae’n bosibl iawn bod y ffynnon hon yn sanctaidd iddynt. Dywedir bod ei llwybr yn llifo o dan Gerrig Harold, y meini hirion cyfagos. Mae'r ffynnon yn enwog am ei rhinweddau iachaol, ac ymwelai pererinion â hi tan yr ail ganrif ar bymtheg. Yn draddodiadol, mae’n un o naw ffynnon sy’n tarddu o bedair nant, a’r rheini’n gyforiog o haearn. Byddai pob ffynnon yn gallu trin gwahanol afiechydon. Rhoddid cerrig mân yn y dŵr, a byddai nifer y swigod dilynol yn dangos a oedd iachâd i fod. Mae stori gan y trigolion lleol am ffermwr a gaeodd y ffynhonnau ond a’u hagorodd mewn dim wedyn ar ôl cael bygythiadau gan “hen ŵr bach rhyfedd”. Dywedir bod y tylwyth teg yn dawnsio ger y ffynnon ar nos Gŵyl Ifan, ac yn yfed dŵr o’r blodau sydd i’w canfod wedi’u gwasgaru yno bob bore’r ŵyl. Ym mhentref prydferth Tryleg yn Nyffryn Gwy hefyd y ganwyd yr athronydd Bertrand Russell (1872-1970).

     

    More O DDIFEROL DDIFYRRWCH locations