BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD

BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD

... Rhyfelwyr, milwyr, cestyll a theyrnasoedd

Mannau o ddiddordeb

  • Parc Coed Nercwys, Yr Wyddgrug

    Arweiniodd Sant Garmon (OC 378-448) y Prydeinwyr mewn brwydr yn erbyn Pelagiaeth ger yr Wyddgrug. Math o ddiwinyddiaeth oedd Pelagiaeth a wadai’r pechod gwreiddiol. Ysgrifennodd Saunders Lewis (1893-1985) y ddrama radio, Buchedd Garmon, amdano. Mae’n ymddangos hefyd yn nwy nofel Jack Whyte, A Dream of Eagles a The Golden Eagle. Enwyd ysgol uwchradd yr Wyddgrug yn Ysgol Maes Garmon ar ei ôl. Ewch i Barc Coed Nercwys i ymdeimlo â naws lleoliad y frwydr. Mae digon i’w weld yn y coed, sydd yng ngofal Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys claddfa o Oes yr Efydd, hen ffermydd, adeiladau mwyngloddio ac olion chwareli. Mae’r Wyddgrug hefyd yn enwog am ei mantell aur o ddiwedd Oes yr Efydd. Mantell oedd hon a daflwyd i’r corsydd lleol ac mae bellach i’w gweld yn yr Amgueddfa Brydeinig. Ganwyd yr awdur enwog Daniel Owen (1836-1895) yn yr Wyddgrug yn ogystal.

  • Abaty Glyn y Groes

    Bardd a milwr oedd Guto'r Glyn (1435-1493). Mae'n cael ei ystyried yn un o feistri traddodiad y canu mawl neu'r canu cyfarch. Brwydrau fydd yn aml wedi ysbrydoli’r canu hwnnw, wrth i’r bardd gyfarch yr uchelwyr sy’n ei noddi. Mae cerddi Guto’r Glyn yn arbennig o nodedig am eu ffraethineb, eu dychan a’u hiwmor. Treuliodd Guto ei flynyddoedd olaf yn Abaty Glyn y Groes, gan farddoni am yr adeiladau a’i fywyd yno. Gofalodd y mynachod amdano pan aeth yn ddall. Bu farw yn yr Abaty, ac yno y claddwyd ef. Mae’r safle rhyfeddol hwn mewn cyflwr gyda’r gorau yng Nghymru: mae hyd yn oed llyn pysgod y mynachod yn llawn dŵr o hyd. Cadw sy’n gofalu am Abaty Glyn y Groes. Mae Eurig Salisbury, y bardd a’r academydd cyfoes, wedi cyfrannu at wefan Guto’r Glyn.

  • Llwybr Cerfluniau Coetir Cwmaman

    Lle bychan yw hen bentref glofaol Cwmaman, ond mae’n fan sydd wedi meithrin cryn dalent. Ymhlith yr enwogion mae’r band roc Stereophonics ac Alun Lewis (1915-1944), sy’n cael ei gydnabod yn un o feirdd gorau Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ganwyd Lewis yn nyddiau du'r Rhyfel Byd Cyntaf. Fe'i magwyd yng nghanol cythrwfl cymdeithasol ac economaidd y 1920au a'r 1930au, ac ysgrifennai am helyntion y byd a welodd yn ei ieuenctid, ynghyd â’r rhyfel. Ewch i weld y plac ar fur ei gartref yn blentyn, neu i eglwys St. Joseph sy’n ymddangos yn ei gerdd, The Mountain Over Aberdare. Gerllaw’r eglwys, ar safle pwll glo Shepard, mae Llwybr Cerfluniau Coetir Cwmaman. Fan hyn mae cyfres o gerfluniau pren godidog yn coffáu’r modd y cyfrannodd y diwydiant glo at fywyd y cymoedd.

  • Llwybr Clawdd Offa, Llandysilio

    Ger y darn hwn o Lwybr Clawdd Offa mae Pengwern, llys brenhinoedd hen deyrnas Powys yn y canol oesoedd. Cwympodd Pengwern ar ôl marwolaeth Cynddylan ap Cyndrwyn (m. OC 655/6), Tywysog Powys, mewn brwydr. Adroddir yr hanes yn gofiadwy yn y gyfres o englynion marwnad, Canu Heledd. Heledd oedd chwaer Cynddylan. Mae’n anarferol bod y gwaith hwn wedi'i gyfansoddi o safbwynt y ferch, a bu'n ysbrydoliaeth i sawl darn o gelfyddyd, gan gynnwys nofel Rhiannon Davies Jones (1921-2014), Eryr Pengwern. Mae’r Dref Wen, gerllaw Croesoswallt, hefyd yn ymddangos yng Nghanu Heledd. Ysbrydolodd y fan hon gân enwog Tecwyn Ifan o’r un enw. Dilynwch y llwybr i Fryn Llanymynech, hen fwynglawdd copr yn Oes yr Efydd a chaer fryniog yn Oes yr Haearn.

  • Amgueddfa a Chaer Rufeinig Segontium

    Ar gopa bryn i’r dwyrain o Gastell Caernarfon saif olion Segontium, caer Rufeinig a sefydlwyd tua OC 77. Caer oedd hon a fu’n brysur am ryw dair canrif. Mae’r Ymerawdwr Rhufeinig, Magnus Maximus (OC 335-388) yn ymddangos yn y Mabinogi yn chwedl Breuddwyd Macsen Wledig. Yn yr hanes hwnnw, mae Macsen yn breuddwydio am forwyn deg mewn tir pellennig, ac ar ôl danfon ei wŷr i bedwar ban yr Ymerodraeth, cânt hyd iddi yng Nghaernarfon. Mae Elen, merch y Brenin lleol, yn syrthio mewn cariad â Macsen. Mae yntau yn ei dro yn rhoi sofraniaeth i'w thad dros Brydain ac yn codi tri chastell er anrhydedd iddi. Er mai chwedl yw hon, mae seiliau hanesyddol i rywfaint ohoni. Mae Segontium yng ngofal Cadw.

  • Castell Harlech

    Saif Castell Harlech ar safle’r hen lys yn y Mabinogi lle cyrhaeddodd Matholwch, Brenin Iwerddon, i briodi Branwen, chwaer Bendigeidfran y cawr. Arweiniodd y briodas aflwyddiannus at ryfel rhwng y ddwy wlad, a thorrwyd calon Branwen gan y dinistr a achosodd hynny. Codwyd y castell presennol ym 1283. Bryd hynny, safai ar glogwyni serth uwch y môr. Mae twyni tywod bellach yn ymestyn dros yr arfordir am bron i filltir, ac mae’n lle da i fynd am dro. Dyma’r castell hefyd a ysbrydolodd y gân ‘Gwŷr Harlech’ ar ôl un o gyrchoedd Rhyfeloedd y Rhosynnau. Cadw sy’n gofalu am y lle erbyn hyn.

  • Castell Cilgerran

    Caer odidog o’r drydedd ganrif ar ddeg yw Castell Cilgerran, yn sefyll ar drwyn o graig uwch afon Teifi. Mae rhywbeth rhamantus neilltuol am y castell hynafol hwn a’i leoliad arbennig. Mae’n gweddu rywsut y bydd cysylltiad am byth rhwng Cilgerran â’r hanes am gipio'r Dywysoges Nest (1085- <1135) gan Owain ap Cadwgan, mab Tywysog Powys, a oedd yn elyn i’w gŵr. Arweiniodd hyn at ryfel cartref ledled Cymru. Yn ôl rhai, Nest oedd fersiwn Cymru o Elen o Gaerdroea. Cafodd blentyn gordderch â Harri I cyn priodi â sawl arglwydd Normanaidd. Mae’r castell bellach yng ngofal Cadw.

  • Bedd Branwen, Llanddeusant

    Claddfa o Oes yr Efydd ar Ynys Môn yw Bedd Branwen. Yn ôl y sôn, yma y claddwyd Branwen ferch Llŷr o Ail Gainc y Mabinogi. Branwen, wrth gwrs, oedd chwaer Bendigeidfran y cawr, Brenin Ynys Prydain, a drefnodd iddi briodi Matholwch, Brenin Iwerddon. Diwedd trist sydd i’r stori. Ar ôl cyfres o ddigwyddiadau gwaedlyd, digwyddiadau sy’n cynnwys anffurfio ceffylau, torri pennau a chyflafan y pair dadeni, dychwela Branwen i Gymru a marw o dor-calon ger aber afon Alaw. O gloddio'r safle – sydd bellach heb y domen bridd wreiddiol – canfuwyd yrnau amlosgi, cadwyn a thri llestr ac ynddynt esgyrn clustiau plant: rhyfeddod o’r cyfnod cynhanesyddol sy’n go unigryw i Gymru.

    Llun o esgyrn clust o Fedd Branwen - hawlfraint @Storiel 

  • Castell Penfro

    Seiliodd y nofelydd byd-enwog Philippa Gregory (g. 1954) nifer o’i chyfrolau ffuglen hanesyddol yn fan hyn. Yng Nghastell Penfro y ganwyd Harri Tudur (1457-1509), un o linach Tywysogion Cymru a thad Harri VIII. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau, bu Harri Tudur yn alltud yn Llydaw, cyn dychwelyd â byddin fechan a laniodd ger Aberdaugleddau. Casglodd ynghyd 5,000 yn rhagor o filwyr ar ei ymdaith drwy Gymru, cyn gorchfygu Richard III ym Mrwydr Bosworth a dod yn Harri VII. Bu’r Tuduriaid yn teyrnasu am 120 o flynyddoedd eto. Mae digwyddiadau, arddangosfeydd a theithiau tywys yn cael eu cynnal yng Nghastell Penfro sy’n eich cyflwyno i wreiddiau’r llinach enwog hon.

  • Dyffryn Olchon

    Dewch am dro i realiti arall Resistance, nofel a ffilm Owen Sheers (g. 1974). Stori yw hon wedi’i gosod yn nhirwedd anghysbell Dyffryn Olchon ar ôl goresgyniad y Natsïaid ym 1944. Gan groesi’n fwriadol i ochr ‘draw’ Clawdd Offa, mae Dyffryn Olchon yn drothwy mewn mwy nag un ystyr, o ran amser a lle. Yn y nofel, mae’r gaeaf trwm ar warthaf y menywod lleol sy’n dechrau derbyn colli eu gwŷr a dyfodiad y Natsïaid. Rhaid derbyn hefyd mor fregus yw eu bywydau bellach. Mae’r cwm hefyd yn enwog fel man cyfarfod cudd i Anghydffurfwyr yn yr 16eg a’r 17eg ganrif. Parciwch wrth y Bryn Du i weld y golygfeydd o Grib y Gath, cyn crwydro godre'r dyffryn serth hwn, dyffryn sy'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Dilynwch y lôn a'r llwybrau troed i weld adfeilion y tyddynnod a’r ffermdai a ysbrydolodd Sheers, ynghyd â thoreth o adar, anifeiliaid a phlanhigion.

  • Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy

    Mewn llecyn hudolus sy'n edrych draw dros Fae Ceredigion, Tŷ Newydd oedd cartref olaf y Prif Weinidog David Lloyd George (1863-1945). Yn Llanystumdwy hefyd, wrth gwrs, y magwyd ef a pha ryfedd iddo ddychwelyd yma ar ôl ymddeol. Lloyd George oedd Prif Weinidog Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a chomisiynodd y pensaer enwog, Clough Williams-Ellis (1883-1978), i ailwampio’r tŷ. Erbyn hyn, Llenyddiaeth Cymru sy’n gyfrifol am y lle gan mai dyma Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Mae croeso i ymwelwyr ddod i ddarllen am hanes y tŷ yn y fynedfa, tra bo modd ymweld â bedd ac Amgueddfa Lloyd George hefyd. Williams-Ellis a adeiladodd y pentref cyfagos ym Mhortmeirion, pentref a ddaeth yn enwog yn sgil cyfres boblogaidd The Prisoner yn y 1960au. Daw artistiaid yma’n eu heidiau, ac anodd peidio â rhyfeddu at y bensaernïaeth Eidalaidd hynod. Mae awduron o fri fel H G Wells, George Bernard Shaw a Noël Coward ymhlith y rheini sydd wedi’u denu drwy’r pyrth.

  • Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Trefdraeth

    Fan hyn, ar y clogwyni uwch ceg afon Nyfer, gyrrodd Pwyll Pendefig Dyfed ei gŵn hela i loddesta ar garw a laddwyd gan Arawn, Brenin Annwn. Ar ôl marwolaeth Pwyll, dyma weld y frenhines Rhiannon ar farch gwyn ysblennydd. Yn gwmni iddi mae adar hud, adar y dywedir bod eu cân "yn dihuno'r marw ac yn huno'r byw". Mae gan Fleetwod Mac gân amdani, ac mae’n gymeriad chwedlonol poblogaidd o hyd yn y rhan hon o Sir Benfro. Yn y Ganolfan Ymwelwyr yn Nhrefdraeth, sydd yng ngofal Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae arddangosfeydd am y diwylliant a’r dreftadaeth leol, ynghyd â gwybodaeth am deithiau cerdded ac atyniadau.

  • Maen Coffa Llywelyn Ein Llyw Olaf, Cilmeri

    Mewn llecyn cysegredig ym mhentref Cilmeri saif maen hir a godwyd i goffáu Llywelyn ap Gruffudd (1223-1282) – tywysog olaf y Gymru annibynnol cyn concwest Edward I. Cynhelir seremoni yma’n flynyddol i gofio’i farwolaeth. Llywelyn Ein Llyw Olaf oedd ysbrydoliaeth marwnad enwog Gruffudd ab yr Ynad Coch (1277-1282) a’r awdl ysgubol Cilmeri gan Gerallt Lloyd Owen (1944-2014). Mae merch Llywelyn, Gwenllian (1282-1337), hefyd yn gymeriad trasig yn niwylliant Cymru. Cipiwyd Gwenllian gan Edward I a’i charcharu ym Mhriordy Gilbertine yn Swydd Lincoln tan ei marwolaeth. Mae hi wedi ysbrydoli sawl cerdd o bwys gan gynnwys Gwenllian gan T. James Jones (g. 1934) ac In Sempringham gan Mererid Hopwood (g. 1964).

  • Bedd Gelert

    Beddgelert yw un o bentrefi prydferthaf Eryri. Enwyd y lle ar ôl Gelert, ci ffyddlon Llywelyn Fawr (1172-1240), Tywysog Gwynedd. Achubodd Gelert fab bychan Llywelyn wrth i flaidd geisio ymosod arno. Ond wrth gyrraedd adref a gweld y ci’n diferu o waed, collodd Llywelyn ei dymer a’i ladd. Dim ond bryd hynny y clywodd lefain y babi a sylwi ar y blaidd yn gelain gerllaw. Sylweddolodd ei gamgymeriad dybryd. Claddodd y tywysog edifar y ci y tu allan i waliau’r castell, mewn llecyn cysgodol lle mae carreg goffa erbyn hyn. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnig taith gerdded fer ar hyd Afon Glaslyn sy’n olrhain chwedl Gelert a’i heffaith ar arlunwyr fel JMW Turner a’r awdur teithio, Thomas Pennant.

  • Yr Ysgwrn, Trawsfynydd

    Dyma gartref y bugail o fardd a ddaeth i gynrychioli’r genhedlaeth a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw Ellis Humphrey Evans (1887-1917), sy’n fwy cyfarwydd inni wrth ei enw barddol, Hedd Wyn, yn ystod Brwydr Passchendaele. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 am ei awdl Yr Arwr, a hynny wythnosau’n unig wedi ei farwolaeth ar faes y gad. Yn ddramatig, gorchuddiwyd y gadair â lliain du wrth gyhoeddi’r newyddion trist yn y seremoni. Mae’r Gadair Ddu i’w gweld yn ei gartref teuluol, Yr Ysgwrn, sydd bellach yn ganolfan i ymwelwyr yng ngofal Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.