Y WLAD A’I CHALEDI

Y WLAD A’I CHALEDI

… Treftadaeth ddiwydiannol a chwys llafur
boots-and-bread

Mannau o ddiddordeb

  • Dyfrbont Pontcysyllte

    Rhyfeddod peirianyddol yn wir yw Dyfrbont Pontcysyllte ar Gamlas Llangollen. Fe’i codwyd ym 1805 gan y penseiri Thomas Telford a William Jessop. Haearn bwrw yw’r ffrâm, a honno’n gorwedd ar 19 o bileri 100 troedfedd uwch afon Dyfrdwy ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Dynodwyd y lle yn Safle Treftadaeth y Byd yn ddiweddar. Bu’r bardd R.S. Thomas (1913-2000) yn giwrad yn y Waun gerllaw rhwng 1936 ac 1941, ac wedi hynny yn Hanmer rai milltiroedd i’r dwyrain. Byddai Thomas wedi bod yn gyfarwydd iawn â’r ddyfrbont, ac yn ystod ei gyfnod yn yr ardal hon y cyfarfu ac y priododd â’i wraig, yr arlunydd Elsi Eldridge.

  • Trefin

    Cyfansoddodd William Williams (1875-1968), sy’n fwy adnabyddus wrth yr enw barddol, Crwys, y gerdd enwog Melin Trefin wrth weld cau’r hen felin 500 oed a safai yma. Mae’r gwaith yn symbol o ddirywiad y bywyd gwledig yn y rhan hon o’r gorllewin. Dyfynnir y llinell agoriadol, “…Nid yw’r Felin heno’n malu yn Nhrefin ym min y môr...” yn aml i gyfleu hiraeth. Trefin hefyd oedd cartref plentyndod Cerys Matthews (g. 1969), prif gantores Catatonia gynt. Yma y deuai'n blentyn at y tywod a’r cerrig mân, a’r llanw'n isel yng nghysgod yr hen felin uwchben.

    Llun o Felin Trefin - hawlfraint geograph.co.uk / Pauline E

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae sawl darn o lenyddiaeth yn cyfeirio at Gymru fel gwlad ddiwydiannol gyntaf y byd. Amgueddfa arloesol yw hon ar lannau’r dŵr yn Abertawe, a hithau'n adrodd peth o hanes ein gorffennol diwydiannol a'r talcen caled a ddaeth yn sgil hynny. Mae Oriel Cyflawnwyr yr Amgueddfa yn canolbwyntio ar awduron ac artistiaid sydd â chefndir diwydiannol a’r dylanwad a gafodd hyn ar eu bywydau. O’r amgueddfa, gallwch gerdded ar hyd y Prom i weld cofeb Jac Abertawe, neu ‘Swansea Jack’. Achubodd y ci hynod hwn 27 o bobl rhag boddi yn nociau Abertawe yn y 1930au.

  • Gilfach Goch

    Daeth yr awdur Richard Llewellyn (1906-1983) i aros i Gilfach Goch ym 1939 ac yno yr ysgrifennodd ei nofel How Green Was My Valley. Nofel oedd hon yn bwrw golwg ar fywyd cymuned lofaol yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Troswyd y nofel yn ffilm yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac mae sôn fod Dylan Thomas wedi cyfrannu at y sgript. Addaswyd y nofel gan y BBC hefyd, a’i throi’n gynhyrchiad teledu ym 1974. Elaine Morgan (1920-2013) oedd awdur y sgript y tro hwn, un o ffeministiaid hynotaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Ysgrifennodd Morgan yn helaeth ym maes anthropoleg, yn ogystal ag i’r llwyfan a’r sgrin.  

  • Gwarcheidwad y Cymoedd – Cerflun Glowyr Six Bells, Glyn Ebwy

    Crëwyd y cerflun dyfeisgar, anarferol hwn o löwr yn 2010 i goffáu trychineb pwll glo Six Bells ym 1960, pan laddwyd 45 o ddynion. Mae’r cerflun dur 20m yn sefyll uwchlaw Parc Arael Griffin, safle Pwll Glo Six Bells. Mae’r darlun o’r glöwr – un a’i freichiau ar led ac ôl caledi ar ei groen garw – yn cyd-fynd â llethrau’r bryniau o’i amgylch, gan ddwyn atgofion yn ôl am realiti trasig yr ardal hon yn ei gorffennol diwydiannol. Darllenwch enwau’r glowyr a fu farw yn y ddamwain a cherdd i'r diwrnod hwnnw gerllaw'r cerflun gan Gillian Clarke (g. 1937), a fu’n Fardd Cenedlaethol Cymru.

    Cerdd - hawlfraint Gillian Clarke

  • Parc Treftadaeth y Rhondda

    Mae gan nifer o lenorion Cymraeg gysylltiadau cryf â’r Rhondda, gan gynnwys y bardd a’r dramodydd amlwg, James Kitchener Davies (g. 1902). Roedd yn aelod o Gylch Cadwgan, ynghyd ag awdurdon eraill yr ardal, Rhydwen Williams, Pennar Davies a Gareth Alban Davies. Ganwyd yr awdures Rachel Trezise (g. 1978) yng Nghwm-parc yng Nghwm Rhondda ac mae ei gwaith yn trafod bywyd ôl-ddiwydiannol yn y cymoedd. Yn ei nofel gyntaf, In and Out of the Goldfish Bowl, nofel sy’n lled hunangofiannol, mae’n darlunio creulondeb a chaledi plentyndod yn yr ardal. Mae Dial M for Merthyr a Tonypandemonium, ei drama i National Theatre Wales, hefyd wedi’u lleoli yn yma. Ewch i Barc Treftadaeth y Rhondda i gael cipolwg ar fywyd yn y fro.

  • Aber-fan

    Pentref glofaol bychan yn y de yw Aber-fan. Ym 1966, ar ôl glaw trwm, cwympodd tomen lo mewn tirlithriad. Llifodd y domen laid dros yr ysgol gynradd leol, gan ladd 144, a’r rhan fwyaf o’r rheini’n blant. Bu cryn helynt ar ôl y drychineb, wrth i rywfaint o'r arian a gyfrannwyd at y gronfa gymorth gael ei ddefnyddio i glirio’r difrod corfforaethol. Wedi’i digio gan hyn, helpodd Byddin Rhyddid Cymru (yr FWA) y bobl leol i wneud cais am iawndal. Ymwelodd Laurie Lee (1914-1997) ag Aberfan yn hydref 1967, ac yn fuan wedyn lluniodd yr ysgrif The Village that Lost its Children. Mae nifer o feirdd blaenllaw Cymru, gan gynnwys T. Llew Jones, Iwan Llwyd ac Ifor ap Glyn, wedi ysgrifennu am y drychineb. I goffáu hanner canmlwyddiant y drychineb, aeth y bardd a’r dramodydd Owen Sheers (g. 1974) ati i ysgrifennu The Green Hollow, ‘cerdd ffilm’ wedi’i seilio ar leisiau ac atgofion y rheini a brofodd yr erchyllter. 

  • Sgwâr Loudoun, Tiger Bay

    Yng nghanol milltir o dai yn ardal y dociau yng Nghaerdydd – Tiger Bay ar lafar gwlad – saif Sgwâr Loudoun. Yma y ceir un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf y Deyrnas Unedig. Yn y bedwaredd ganrif a’r bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, Caerdydd am gyfnodau helaeth oedd metropolis glo’r byd. Does ryfedd felly i fewnfudwyr o’r pedwar ban gael eu denu yma i weithio ar y llongau ac i adeiladu a chynnal a chadw’r dociau. Mae byd cwlt tanddaearol Tiger Bay yn ymddangos yng ngweithiau rhai o awduron cyfoes y brifddinas. Yn eu plith mae The Hiding Place gan Trezza Azzopardi (g. 1961), nofel sy’n darlunio bywyd anodd teulu o fewnfudwyr o Falta, a bywgraffiad John L Williams (g. 1961) o’r ferch leol, y Fonesig Shirley Bassey. Un o’r lleisiau llenyddol pwysicaf yr ardal hon yw Leonora Brito, sy’n taflu goleuni ar ddiwylliant du cynhenid Bae Caerdydd. Bu farw yn 2007, ac fe ail-gyhoeddwyd ei chasgliad o straeon, Dat’s Love and Other Stories, gan The Library of Wales yn 2017. Mae'r ffilm Tiger Bay (1959) gyda'r actorion John a Hayley Mills yn cynnwys sawl golygfa a ffilmiwyd yn ardal y dociau. Ym Mae Caerdydd heddiw, mae mwy na digon at ddant yr anturiaethwyr modern. Ymgollwch mewn llyfr a thamaid i’w fwyta yn yr Octavo Bookshop Cafe & Wine-bar.

  • Bryn Crug Hywel

    O Gruchywel, dringwch fryn Crug Hywel; bryn ac iddo gopa gwastad yn y Mynyddoedd Duon, a golygfeydd godidog oddi yno. Ardal yw hon sydd wedi ysbrydoli llu o awduron gan gynnwys y bardd Chris Meredith (g. 1955). Mae Border Country gan Raymond Williams (1921-1988) yn nofel sydd wedi’i lleoli yn yr ardal, a honno’n bwrw trem yn ôl i’r 1920au a’r 1930au a chyfnod y streic gyffredinol a’r dirwasgiad mawr. Fan hyn hefyd yw lleoliad nofel epig Williams, People of the Black Mountains. Yn y 1940au, bu JRR Tolkien (1892-1973) yn aros gerllaw yng Ngwaun y Geifr, a bu’n gweithio ar ddarnau o The Lord of the Rings yno. Ac yntau’n ysgrifennu ar adeg pan oedd diwydiant wedi gweddnewid cefn gwlad, yr ardal hon oedd yr ysbrydoliaeth i’w ddisgrifiadau hiraethus o’r ‘Shire’. Mae Crickhollow (Crughywel), Brandywine Bridge a Buckland, sef rhai o dreflannau’r hobitiaid yn y llyfr, i gyd yn llefydd cyfagos. Magwyd Owen Sheers (g. 1974) yn y dref gyfagos, Y Fenni, ac mae’n gerddwr brwd. Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu am Fryn Crug Hywel.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae gan Kate Roberts (1891-1985) le annwyl iawn yng nghalonnau’r Cymry, ac nid ar chwarae bach y gelwir hi yn "Frenhines ein Llên". Fe’i ganwyd yng Nghae’r Gors, tyddyn bychan yn Rhosgadfan, lle gwelodd ei theulu o chwarelwyr yn ymlafnio i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae ei nofelau a’i straeon byrion amlhaenog yn agor cil y drws ar fywydau’r bobl a frwydrai yn erbyn tlodi yn yr ardal hon. Dyma un o themâu canolog Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard (1904-1980), a fagwyd ym Methesda heb fod nepell i ffwrdd. Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn lle gwych i ganfod mwy am y cymunedau hyn a’u hanesion. Cafodd yr atyniad ei ailwampio’n ddiweddar gyda nawdd o £1.6 miliwn gan y Loteri Genedlaethol. Mae’n sefyll mewn parc gwledig ar odre’r Wyddfa, ac ynddo un o olwynion dŵr mwya’r byd

  • Castell Penrhyn

    Adeilad neo-Normanaidd anferth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yw Castell Penrhyn, yn sefyll mewn llecyn ysblennydd. Gwnaeth yr ystâd ei ffortiwn drwy gaethwasiaeth yn y planhigfeydd siwgr yn y Caribî, cyn ymelwa ar lafur y chwarelwyr llechi yng Ngwynedd. Un gwael am drin ei weithwyr oedd yr Arglwydd Penrhyn (1836-1907), ac arweiniodd hynny at sawl anghydfod a gyrhaeddodd benllanw yn ystod Streic Fawr 1900-1901. Ysbrydolodd y digwyddiadau hyn sawl gwaith dehongliadol, gan gynnwys Chwalfa gan T. Rowland Hughes (1903-1949). Troswyd y nofel honno yn gynhyrchiad llwyfan llwyddiannus gan y Theatr Genedlaethol yn ddiweddar. Mae nifer o bobl leol yn dal i wrthod ymweld â'r castell, sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r Ymddiriedolaeth wrthi’n gweithio ar brosiect celfyddydol mawr a fydd yn rhoi sylw i hanes cymhleth ac anodd y lle. Yn wir, mae ymgyfoethogi ar draul y gweithwyr a chaethwasiaeth wedi bod yn destun gweithiau llenyddol di-ben-draw yng Nghymru. Yn eu plith mae’r nofel ysbryd ddiweddar Sugar Hall gan Tiffany Murray (g. 1971) yn ogystal â Sugar and Slate gan Charlotte Williams, sy'n archwilio'r themâu hyn a gwrthdrawiadau diweddar o hunaniaeth mewn siwrne hunangofiannol o Affrica i Guyana a Gogledd Cymru.

  • Cerflun Stand and Stare, Casnewydd

    Cerflun efydd uchel yw ‘Stand and Stare’, yn darlunio enaid y tu mewn i goeden bywyd. Mae’n gofeb drawiadol i W.H. Davies (1871-1940) o Gasnewydd, y bardd o grwydryn a ysgrifennodd y gerdd Leisure ac ynddi’r cwpled enwog: "What is this life if, full of care, we have no time to stand and stare". Ac yntau wedi cael llond bol ar ei fywyd yn brentis yng Nghasnewydd, gadawodd Davies i deithio’r byd fel gweithiwr ysbeidiol. Roedd yn un o feirdd mwyaf poblogaidd ei genhedlaeth, a’i waith yn trafod caledi, y berthynas rhwng pobl a byd natur, ei anturiaethau ei hun, a’r sefyllfaoedd a’r cymeriadau y daeth ar eu traws.

    Llun o blac WH Davies - hawlfraint John Grayson / Geograph

  • Cerflun ‘Clychau Rhymni’, Rhymni

    Rhoddodd cymoedd y de – a’r rheini’n gyforiog o wythiennau glo – hwb mawr i’r chwyldro diwydiannol gan ysbrydoli cenedlaethau o artistiaid ac ymgyrchwyr cymdeithasol. Yn eu plith mae Patrick Jones (g. 1965), bardd a dramodydd sydd wedi cyflwyno hynt a helynt bywyd yn fan hyn i gynulleidfa newydd. Ganwyd Idris Davies (1905-1953), glöwr a ddaeth maes o law yn athro ac yn fardd, yn Rhymni. Roedd yn llais i’w genhedlaeth, a’i waith yn adlewyrchu delfrydiaeth a phrotestiadau'r bobl a oedd yn byw yma yn y 1920au a’r 1930au. Rhoddwyd alaw i’w gerdd The Bells of Rhymney o'i gasgliad cyntaf, a daeth y gân yn glasur gwerin maes o law. Achosodd tlodi a diweithdra’r Dirwasgiad Mawr yng Nghymru donnau tu hwnt i’n ffiniau, gan gynnwys twf y Blaid Lafur a’r Blaid Gomiwnyddol, ac ymadawiad 200 o lowyr i ymladd yn erbyn Cadfridog Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen. Mae dau gerflun sydd wedi’u hysbrydoli gan waith Davies i’w gweld yn Rhymni, ynghyd â phlac iddo yn y llyfrgell. Ewch heibio i gartref Davies pan oedd yn blentyn ar Victoria Road cyn dringo’r gweundir i weld golygfeydd o’r dre a chreithiau’r pyllau glo oddi tanoch.

  • Glanfa Llan-ffwyst

    Mae tirwedd Blaenafon yn tystio’n fyw iawn i’r cyfnod pan oedd glo a haearn Cymru yn pweru diwydiannau’r byd. Yn fan hyn y cafodd Alexander Cordell (1914-1997) ysbrydoliaeth i’w nofel lwyddiannus, Rape of the Fair Country, sef y gyntaf mewn cyfres o nofelau yn edrych ar hanes cythryblus Cymru a helyntion y dosbarth gweithiol yn y cyfnod diwydiannol cynnar. Mae Blaenafon wedi adfywio yn ddiweddar, wrth i fuddsoddiad yn nhreftadaeth y fro arwain at gydnabod y lle yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2000. Ewch i’r Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru, a Gwaith Haearn Blaenafon i ganfod mwy. Mae Cordell wedi’i gladdu yn Llan-ffwys. Dilynwch y llwybr troed i Dŷ Cychod Glanfa Llan-ffwyst, a dringwch y grisiau tuag at lwybr y gamlas. Adeilad rhestredig Gradd II yw hwn ac mae modd ei logi fel llety gwyliau. O fan hyn, gallwch gerdded neu neidio ar fad a dilyn trywydd Camlas Mynwy a Brycheiniog.

  • Distyllfa Penderyn

    Roedd Richard Lewis (1808-1831), neu Dic Penderyn ar lafar gwlad, yn rhan o Wrthryfel Merthyr 1831. Protest oedd hon yn erbyn y cyflogau, yr hawliau a’r amgylchiadau gweithio echrydus a wynebai’r rheini a gyflogid gan y cwmnïau diwydiannol cynnar. Cyhuddwyd Dic ar gam o drywanu milwr â bidog, ac fe’i crogwyd yn Heol y Santes Fair, Caerdydd. “O Arglwydd, dyma gamwedd” llefodd ar y grocbren, a dyna’i eiriau olaf. Ym 1874, cyfaddefodd gŵr arall – Ianto Parker – mai ef oedd yn gyfrifol am y drosedd. Ysbrydolodd merthyrdod Dic genhedlaeth o brotestiadau sosialaidd, gan gryfhau'r undebau llafur a’r mudiad Siartiaeth ac ysgogi gweithiau llenyddol gan Harri Webb (1920-1994) ac Alexander Cordell (1914-1997) ymhlith eraill. Mae Distyllfa Penderyn yn rhannu ei enw â Dic Penderyn ac mae modd i ymwelwyr daro heibio. Os ydych yn yr ardal yn barod, beth am fanteisio ar lwybrau cerdded godidog heibio rhaeadrau Pontneddfechan, neu gerdded draw heibio’r Ddistyllfa ar hyd hen linell gloddio Penderyn draw at Hirwaun – mae darluniau hyfryd o’r ddwy daith yma.