ANTUR BYD Y PLENTYN

ANTUR BYD Y PLENTYN

... Straeon i ddiddanu’r teulu i gyd
childhood

Places Of Interest

  • Cwmtydu

    Un o hoff awduron plant Cymru erioed yw T. Llew Jones (1915-2009), y bardd, y llenor, a’r chwaraewr gwyddbwyll o fri. Mae ei straeon am deithwyr Roma, lladron pen ffordd a môr-ladron yn dal i ysbrydoli darllenwyr o bob oed hyd heddiw. Er mai am ei nofelau i blant y mae’n fwyaf enwog, cyfansoddai gerddi chwareus hefyd, yn ogystal ag ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Ymhlith ei gerddi mwyaf poblogaidd y mae Traeth y Pigyn (wedi’i hysbrydoli gan draethau euraidd y gorllewin), Y Lleidr Pen-ffordd a Cwm Alltcafan. Ewch am dro i lan môr cuddiedig Cwmtydu a tharo i mewn i Dafarn Tydu am hufen ia. Dyma’r ‘Glandon’ yn Dirgelwch yr Ogof. Dethlir Diwrnod T. Llew Jones bob blwyddyn ar 11 Hydref mewn ysgolion a llyfrgelloedd ledled y wlad.

  • Rhosili

    Mae’r nofel Miss Peregrine's Home for Peculiar Children gan Ransom Riggs (g. 1979), yr awdur o’r Unol Daleithiau, wedi’i lleoli ar ynys ffuglennol Cairnholm yng Nghymru, a hynny yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Addaswyd y llyfr yn ffilm boblogaidd gan Tim Burton. Er nad yw’r ynys yn bodoli go iawn, mae pentref Rhosili ac ynys lanw Pen Pyrod ar y pentir yn ymdebygu’n fawr i leoliad y nofel. Dilynwch daith gerdded yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar hyd pentir Rhosili, codwch gestyll tywod ar y traeth eang, neu dringwch i Gefnen Rhosili, lle mae siambrau claddu, llongddrylliadau a golygfeydd syfrdanol o Fae Rhosili i'w gweld. Cofiwch fwynhau hufen ia yn Rhosili cyn ffarwelio.

  • Pentre Bach, Blaenpennal

    Cymeriad poblogaidd yw Sali Mali o lyfrau a rhaglenni teledu i blant. Fe’i crëwyd yn wreiddiol gan yr awdures Mary Vaughan Jones (1918-1983) yn y 1960au. Mae nifer o blant wedi dysgu darllen Cymraeg yng nghwmni Sali Mali. Yn yr atyniad braf hwn, mae modd gweld lle mae cymeriadau Pentre Bach yn byw ac yn gweithio, a Sali Mali yn eu plith. Profiad diwylliannol ac addysgol llawn hwyl yw hwn i’r teulu i gyd – cystal profiad yn wir fel na chaiff oedolion ddod i mewn oni bai eu bod yng nghwmni plant!  

  • Parc Gwledig Cwm Dâr

    Bu Nina Bawden (1925-2012) awdur Carrie's War yn faciwî yn Aberdâr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ysbrydolodd y profiad hwn ei nofel enwog am blentyndod mewn cymuned lofaol yng Nghymru. Addaswyd y nofel yn gyfres deledu boblogaidd ym 1974. Ganwyd a magwyd yr awdur toreithiog Mihangel Morgan (g. 1955) yn Aberdâr. Parc Gwledig Cwm Dâr oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru i gael ei greu ar dir a greithiwyd gan ddiwydiant. Roedd yma bedwar ar bymtheg o byllau glo, a’r tirlun a chefn gwlad yn ddu o’u herwydd. Heddiw, mae tramwyfeydd wedi’u harwyddo a llwybrau cyfeiriannu yn eich dwyn heibio i’r nentydd a’r llynnoedd cyn dringo i roi golygfeydd eang. O dro i dro bydd y Parc yn cynnal gweithgareddau a chwaraeon dŵr.

  • Dinas Mawddwy

    Yn Ninas Mawddwy y lleolwyd yr addasiad teledu o The Owl Service, nofel lwyddiannus Alan Garner (g. 1934). Mae’n dehongli darnau o hanes Math fab Mathonwy yn y Mabinogi. Roedd yr addasiad grymus yn adrodd stori genfigen ymhlith pobl ifanc, a thorrai dir newydd drwy wthio’r ffiniau yn y byd teledu plant. Dyma hefyd ardal Gwylliaid Cochion Mawddwy, lladron pen ffordd gwalltgoch o’r unfed ganrif ar bymtheg a ddaeth yn arwyr gwerin drwgenwog. Dilynwch y trac a’r llwybr troed ar hyd Nant Maesglase fymryn i’r gogledd-orllewin o’r pentref, nepell o’r A470, i deimlo’r naws anghysbell sydd yng ngwaith Garner. Cewch yma olygfeydd o raeadrau gwyllt yn ogystal. Mae nofel arobryn Angharad Price (g. 1972) O! Tyn y Gorchudd! Wedi ei osod yn y cwm ac mae’n rhoi portread bywiog o fywyd yma yn yr ugeinfed ganrif. 

  • Llansteffan

    Roedd Fern Hill, fferm modryb Dylan Thomas (1914-1953), yn lleoliad gwyliau gwych. Yn blentyn, deuai'r bardd yma i grwydro morfeydd ac arfordir tawel yr ardal brydferth hon. Mae ei gerdd o’r un enw yn darlunio’r rhyddid gwerthfawr hwn, rhyddid na all dim ond ieuenctid ei roi. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, arferai Thomas rwyfo ar draws aber afon Taf i gwrdd â’i dad am beint yn yr Edwinsford Arms, Llansteffan. Mae gan yr ardal gysylltiadau llenyddol hefyd â’r beirdd Glyn Jones (1905-1995), sydd wedi’i gladdu yma, Raymond Garlick (1926-2011), Vernon Watkins (1906-1967), Keidrych Rhys (1915-1987) a Lynette Roberts (1909-1995) – a briododd yn Eglwys Llansteffan. Thomas oedd y gwas. Ar ôl diosg eich esgidiau, ewch am dro ar hyd y traeth agored i'r pen deheuol, lle bydd dau lwybr yn arwain at Gastell Llansteffan. Mae'r golygfeydd yn odidog, a’r ddringfa'n talu ar ei chanfed.

  • Siambr Gladdu Dyffryn Ardudwy

    Treuliodd yr awdur ffantasi Phillip Pullman (g. 1946) ei flynyddoedd ffurfiannol yn y darn hwn o Feirionnydd, lle’r oedd mynyddoedd, cestyll, rhostiroedd a thwyni tywod ar bob tu. Dywed mai'r cyfnod hwn, a chwedlau a chymeriadau'r llefydd hyn, oedd yr ysbrydoliaeth i rai o'i straeon gorau. Mae Siambr Gladdu Dyffryn Ardudwy, sydd yng ngofal Cadw, yn fan arbennig ac roedd Pullman yn gyfarwydd â'r lle. Cromlech borth o’r cyfnod Neolithig cynnar oedd yma’n wreiddiol, yn dyddio’n ôl i tua 3800 CC. Seliwyd y siambr honno a chreu carnedd newydd ac ail siambr gladdu o’r cyfnod Neolithig hwyr. Canfuwyd crochenwaith, tlws crog a dau dablet gloyw o garreg Mynydd Rhiw yma. Mae cafn-nod ar y cerrig sy’n cau’r siambr gynharach – symbol siâp cylch wedi’i gerfio, a hwnnw'n gyffredin yn y cyfnod cynhanesyddol, er na ŵyr neb mo'i ystyr bellach.

  • Stemar Olwyn Waverley, Pier Penarth

    Croeswch Aber Afon Hafren tuag at Weston-super-Mare – yr union daith a wnâi Roald Dahl (1916-1990) wrth i fynd i’r ysgol o Gaerdydd. Mordaith yw hon heibio i Ynys Echni ac Ynys Ronech, lle byddai Sant Gildas (OC 500-570) yn ymneilltuo dros y Grawys. Yn ei waith Dinistr a Choncwest Prydain, c. OC 520, Sant Gildas oedd y cyntaf i gyfeirio at Myrddin a hanes Gwrtheyrn. Yn dra trychinebus, gwahoddodd Gwrtheyrn y Sacsoniaid i Brydain a bu'n rhaid iddo ffoi i Ddinas Emrys. Cewch weld fywyd gwyllt y môr ar eich taith, cyn mwynhau pryd o fwyd yn un o lolfeydd hen ffasiwn

  • Boathouse Dylan Thomas, Talacharn

    Pan alwodd Dylan Thomas (1914-1953) Dalacharn yn dref fwyaf rhyfedd Cymru, mewn ffordd hoffus y gwnaeth hynny. Mae naws arallfydol bron i’r lle, ar aber afon Taf, a phrin ei fod wedi newid mewn hanner can mlynedd. Dewisodd Thomas fan hyn yn lloches, a châi heddwch yma wrth i’w blant chwarae criced ar y gors a nofio yn y môr. Crwydrwch ar hyd y llwybrau sy’n olrhain hanes Dylan, cyn taro i mewn i Brown's Hotel am ddiferyn (fel y gwnaeth y Dylan ei hun ar fwy nag un achlysur). Ym mlynyddoedd olaf ei fywyd, bu Thomas yn byw yn y Boathouse. Fan hyn yr ysgrifennodd ei ddrama radio Under Milk Wood a pheth o’i farddoniaeth orau, gan gynnwys Over Sir John’s Hill. Mae’r Boathouse bellach wedi’i adfer yn ganolfan dreftadaeth ac ynddi’r dodrefn gwreiddiol, mân drugareddau difyr ac arddangosfeydd, gan gynnwys sied ysgrifennu’r bardd ar erchwyn y clogwyn uwch y dŵr.

  • Amgueddfa Arberth

    Dyma’r lle i gyflwyno’ch plant i rai o straeon gorau’r Mabinogi. Mae’n amgueddfa hudolus a chanddi lannerch goediog lle mae posau i’w cwblhau a chadair i adrodd straeon gwerin Cymru. Yng nghainc gyntaf y Mabinogi, yn Arberth y mae llys Pwyll, Brenin Dyfed. Ar ôl anghydfod wrth hela, mae Arawn (Brenin Annwn) yn cyfnewid ei bryd a’i wedd â Pwyll ac yn rheoli’r llys am flwyddyn a diwrnod. Mae adfeilion Castell Arberth yn lle gwych am bicnic, tra bo detholiad da o fwyd a chrefftau lleol ar gael yn y siopau. Mae Folly Farm, lle poblogaidd iawn i’r teulu, hefyd gerllaw.

  • Parc Gwledig y Gogarth

    Treuliodd Alice Liddell sawl gwyliau haf yn Llandudno a’r Gogarth, a hi oedd y ferch a ysbrydolodd Lewis Carroll (1832-1898) i ysgrifennu Alice in Wonderland. Ewch i grwydro’r dref hon ar lan y môr, gan sylwi ar y cerfluniau o gymeriadau’r nofel enwog sydd wedi’u gwasgaru yma ac acw hyd y lle. Mae ap ar gael i'w lawrlwytho sy'n adrodd yr hanes ac yn dod â byd synhwyrus Alice yn fyw, neu dringwch i Ben y Gogarth. Gallwch hefyd gyrraedd y copa ar y ceir codi, drwy ddal tram, neu drwy yrru yno. Ar y copa, mae llwybr cerdded yn cychwyn o’r ganolfan i ymwelwyr, ac mae'n lle perffaith i synfyfyrio yng nghanol cynefinoedd arbennig a chreaduriaid y penrhyn, y geifr Kashmir gwyllt yn eu plith. Difyr hefyd yw Mwyngloddiau’r Gogarth gerllaw.

  • Dinbych-y-pysgod

    Nid yw’n syndod yn y byd fod gan yr awduron plant Beatrix Potter (1866 - 1943) a Roald Dahl (1916-1990) ill dau dai haf yn Ninbych-y-pysgod, y dref Sioraidd brydferth ryfeddol honno ger y môr. Ysgrifennodd Dahl am ei gariad at y lle, am farchogaeth asynnod ar y traeth, ac am gerdded y cŵn ar hyd y clogwyni gyferbyn ag Ynys Bŷr. Byddai’n dod yma’n aml i dreulio gwyliau’r Pasg. Mae’n dref fechan dlos, ei thraethau’n ysblennydd a’i thai'n lliwgar a chrand. Os gallwch droi’ch golygon o'r môr, mae yma daith gerdded drwy fyd yr ysbrydion, lle dewch chi ar draws ofergoelion lleol, hud a lledrith y tylwyth teg, a hanes gwrachod.

  • Aberdyfi

    Treuliodd y nofelydd Susan Cooper (g. 1935) lawer o’i phlentyndod ym mhentref glan môr prydferth Aberdyfi. Mae’n adnabyddus yn bennaf am The Dark is Rising, cyfres o nofelau sy’n ein cyflwyno i chwedlau ac arwyr gwerin Cymru, a’r cyfrolau hynny’n cael eu hystyried ymhlith y ffantasïau mwyaf poblogaidd a ysgrifennwyd erioed i blant. Mae The Grey King a Silver on the Tree ill dau wedi’u lleoli yn uwch i fyny’r afon yn Nyffryn Dyfi. Mae Aberdyfi hefyd yn enwog am y gân Clychau Aberdyfi, sy'n adrodd chwedl Cantre'r Gwaelod ac yn honni bod modd clywed clychau'r deyrnas honno yn canu o dan y môr ar nosweithiau braf o haf. Ar draws yr aber, mae’n werth galw heibio i Warchodfa Natur Ynys-hir yr RPSB. Roedd y bardd RS Thomas (1913-2000) yn hoff iawn o ddod i fan hyn pan oedd yn giwrad yn Eglwys-bach.

  • Castell Llwchwr

    Nofel ffantasi yw Howl's Moving Castle gan Diana Wynne Jones (1934-2011), awdures a ddaeth i Gymru yn faciwî yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Addaswyd y nofel yn ffilm gartŵn yn 2014 gan Studio Ghibli, ac fe’i henwebwyd ar gyfer Oscar am y ffilm orau wedi’i hanimeiddio. Byd hynod yw mamwlad ryfedd Wizard Howl, un llawn tai melyn a drysau glas. Credir bod y castell wedi’i seilio ar Gastell Llwchwr, sy’n adfail o dŵr o’r drydedd ganrif ar ddeg yng nghornel caer Rufeinig. Cadw sy’n gofalu am y safle.

  • Y Croc yn y Doc, Morglawdd Bae Caerdydd

    Yng Nghaerdydd y ganwyd Roald Dahl (1916-1990), a hynny i rieni o Norwy. Mae plant ac oedolion yn y pedwar ban wedi dotio arno. Mwynhewch daith seiclo i’r teulu ar hyd 5 milltir o lwybr gwastad rhwng Morglawdd Bae Caerdydd ac Eglwys Gadeiriol Llandaf. Byddwch yn mynd heibio i fannau a oedd yn gyfarwydd iawn i Dahl. Cychwynnwch eich taith wrth gerflun y Croc yn y Doc, sydd wedi'i seilio ar The Enormous Crocodile, cyn oedi am hoe yn yr Eglwys Norwyaidd, lle cafodd yr awdur ei fedyddio. Dafliad carreg o Blas Roald Dahl saif Canolfan Mileniwm Cymru, ac arni eiriau'r bardd Gwyneth Lewis (g. 1959), “Creu Gwir fel Gwydr o Ffwrnais Awen". Galwch heibio Sgwâr Mount Stuart sydd â nifer o gwmnïau animeiddio, ffilm a dylunio graffeg gan gynnwys Calon – y cwmni a fu’n gyfrifol am weithio ar gartwnau Super Ted ‘slawer dydd. O fanno, dilynwch Daith Taf heibio i’r siop losin a lleoliad The Great Mouse Plot 1924. Bydd eich tro yn dod i ben o flaen adeilad mawreddog Eglwys Gadeiriol Llandaf, sy'n agos i lle cafodd Dahl rywfaint o’i addysg.