SŴN Y MARW’N YMYRRYD

SŴN Y MARW’N YMYRRYD

... Arswyd, ysbrydion ac Annwn
ghosts

Places Of Interest

  • Waterston Road, Llanstadwell

    Mae ffyrdd, a chroesffyrdd yn enwedig, yn ymddangos yn aml yn straeon ysbryd Cymru. Mae Hen Fenyw Waterston yn enghraifft berffaith a dyma’r ysbryd sydd wedi’i weld amlaf erioed yn Sir Benfro. Ers degawdau, dywedir bod hen fenyw mewn gwisg garpiog yn cerdded ar hyd Waterston Road rhwng Llanstadwell a Waterston, a bod rhyw wawl glas iasol o'i hamgylch. Weithiau, bydd hi’n gafael mewn bwndel o glytiau, ac fe’i gwelir fel rheol rhwng deg a hanner nos ar nosweithiau Sadwrn. Mae drychiolaethau o geffyl a chert hefyd wedi’u gweld yn yr un lle, ymhellach i’r gorllewin i gyfeiriad Blackbridge. Feiddiech chi gerdded ar hyd y darn hwn o ffordd yng nghanol nos, gyda dim ond y coed a’r caeau’n gwmni? Ewch â fflachlamp gyda chi, ac esgidiau rhedeg hefyd.

    Llun y groesffyrdd - hawlfraint Martyn Harries

  • Castell Pennard

    Mae sawl chwedl ynghlwm wrth adfeilion y castell hwn o'r ddeuddegfed ganrif, castell sy'n edrych draw dros Fae'r Tri Chlogwyn. Yn ôl yr hanes, fe’i codwyd dros nos gan ddewin i’w achub ei hun rhag cael ei ladd gan y Normaniaid. Mae enaid Gwrach-y-rhibyn wedyn yn dal i aflonyddu ar unrhyw un sy’n meiddio treulio noson yng nghanol yr adfeilion, tra bo stori leol arall yn sôn am y Tylwyth Teg yn dod o’r twyni tywod i felltithio’r castell wedi i Arglwydd Castell Pennard eu bygwth â chleddyfau. Hanes arall eto yw hwnnw am forwyn yn ei thaflu’i hun oddi ar Fryn Penrice ar ôl dial am farwolaeth ei chariad. Mae’n lle digon iasol, ond mae’r golygfeydd o Gastell Pennard yn wych.

  • Castell Maenorbŷr

    Castell Normanaidd trawiadol yw hwn yn edrych dros lendid traeth Maenorbŷr. Yma y ganwyd Gerallt Gymro (1146-1223), a dywedir bod ei ysbryd yn dal i grwydro’i hen gartref. Mae’r lleoliad dramatig wedi ysbrydoli mawrion llenyddol fel Virginia Woolf, a gafodd y syniad am ei nofel gyntaf, The Voyage Out, yng Nghastell Maenorbŷr ym 1908. Bu George Bernard Shaw yn aros yma’n aml wrth gyfansoddi ei ddramâu, a lluniodd Siegfried Sassoon ei gerdd am Faenorbŷr ym 1924 ar ôl dod i’r fro am wyliau gyda’i gyfeillion, y de la Mares. Mae’r castell ar agor i’r cyhoedd ac mae yma gaffi, clochdyrau, gardd furiog, a dwnsiwn i'w gweld.

  • Plas Newydd, Llangollen

    Gan ymgartrefu â'i gilydd ym 1778, efallai'n wir mai'r Fonesig Eleanor Butler (1739-1829) a Miss Sarah Ponsonby (1755-1831) – ‘Merched Llangollen’ – oedd y cwpl lesbaidd cyntaf yn y Deyrnas Unedig i fod yn agored ynghylch hynny. Ond nid troi cefn arnynt wnaeth cymdeithas. Yn hytrach, daethant yn enwog iawn a bu beirdd fel William Wordsworth, Percy Bysshe Shelley, Syr Walter Scott a'r Arglwydd Byron yn ymweld â hwy. Yn ei llyfr The Flight of the Wild Goose, soniodd Dr Mary Gordon am y sgwrs ddrychiolaethol a gafodd â’r merched pan arhosodd ym Mhlas Newydd yn y 1930au. Dywedir bod y merched yn dychwelyd i’w plasty hoff bob noswyl Nadolig – ac mai dim ond dynion a all weld eu hysbrydion.

  • Coed-y-Brenin, Neuadd Lwyd

    Y Gannwyll Gorff a’r Toili neu’r Crefishgyn yw’r arwyddion enwocaf o farwolaeth yn y gorllewin. Un enghraifft o’r fath yw hanes John Jones o Goed-y-Brenin, ger Neuadd Lwyd, a oedd yn cerdded adref un noson o’r Dderwen Gam. Wrth gyrraedd croesffordd, cafodd ei hun yng nghanol toili, neu ddrychiolaeth o angladd, ac roedd y dyrfa o eneidiau’n pwyso mor drwm arno nes y daeth o fewn dim i lewygu. Yn y diwedd, llwyddodd i ddianc i gae wrth i’r galarwyr ymdeithio yn eu blaenau i gyfeiriad Neuadd Lwyd. Rai wythnosau’n ddiweddarach, gwelodd Jones yr angladd go iawn. Ewch am dro ar y llwybrau o amgylch Neuadd Lwyd, lawr i ddyffryn cul a choediog afon Mydr. Ar eich ffordd yn ôl, galwch heibio i Lanerchaeron, sef fila Georgaidd sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

    Llun o lôn Neuadd Lwyd - hawlfraint Nigel Brown

  • Castell Gwydir

    Ar ôl cael ei restru’n ddiweddar yn wythfed o blith deg gwesty mwyaf brawychus y byd, mae ysbrydion wedi'u gweld yng Nghastell Gwydir ers y 1800au. Ond efallai nad yw hynny’n syndod, gan fod yr adeilad yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn ôl y sôn, bu’r pumed Barwnig, Syr John Wynn (1628-1719), yn caru â morwyn a weithiai yn y Castell, a phan gymhlethodd y berthynas, fe’i llofruddiodd cyn cau ei chorff mewn gwagle yn un o'r simneiau. Dywedir bod ysbryd y Barwnig cyntaf, Syr John Wynn arall (1553-1627), hefyd yn crwydro’r lle, fel y mae ysbrydion ci a phlant sy’n llefain. Mae gwaith adnewyddu wedi bod yn mynd rhagddo ar y castell, sydd bellach yn lle Gwely a Brecwast moethus. Lleolir Gwasg Gwydyr yn un o adeiladau allanol y castell. Mae’r wasg yn defnyddio dulliau argraffu traddodiadol, ac yn cynhyrchu argraffiadau cyfyngedig.

  • Castell Craig-y-nos

    Bu’r gantores opera enwog Adelina Patti (1843-1919) yn berchen ar Gastell Craig-y-nos ar droad yr ugeinfed ganrif, a chododd theatr ar dir yr ystâd. Mae sawl cyfeiriad at ysbrydion yma, a dywedir bod eneidiau lawer yn aflonyddu ar y castell. Cyn gorffwyso dros nos, mae modd cael taith o gwmpas a gweld lle cafodd Patti ei phêr-eneinio, ynghyd â’r ystafell lle câi'r rheini a ddioddefai o’r diciâu eu trin yn nechrau’r 1920au. Mae’r teithiau ysbrydion yn cynnwys sesiwn séance. Gallwch hefyd ymweld ag ogofau iasol Dan-yr-Ogof gerllaw. 

  • Y Captain's Wife, Sili

    Mae tafarn y Captain’s Wife, sy'n sefyll ar ddarn creigiog o'r arfordir lle mae samplau paleontolegol o bwys i’w cael, yn llawn swyn gwledig. Byddai môr-ladron a smyglwyr yn aml yn ymweld ag Ynys Sili, ac mae modd croesi yno (â gofal) o’r dafarn pan fydd y llanw’n isel. Mae sôn bod drychiolaethau niferus yn crwydro’r dafarn, gan gynnwys ysbryd gwraig y Capten sy’n aml yn ymddangos ar ffurf cysgod tywyll, dryslyd. Mae’r stori honno’n dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg, os nad cynt, pan syrthiodd gwraig y Cyrnol Rhys mewn cariad â morwr ifanc. Trefnodd y cariadon y byddent yn dianc gyda’i gilydd ond daeth y Cyrnol Rhys o hyd iddynt a herio’r morwr i ymladd. Y morwr orchfygodd a dihangodd y cariadon i’r môr, lle boddodd Mrs Rhys.

  • 33 Y Stryd Fawr, Caerllion

    Ganwyd Arthur Machen (1863-1947), awdur llyfrau ffantasi ac arswyd, yng Nghaerllion. Tref fechan iawn yw hon, ond un ag iddi gryn arwyddocâd hanesyddol. Mae plac glas ar flaen y tŷ lle daeth Machen i’r byd. Mae’n gyfarwydd yn bennaf am ei gyfrol ffantasi oruwchnaturiol, The Great God Pan, nofel a ddisgrifiwyd gan Stephen King fel un o’r straeon arswyd gorau a ysgrifennwyd yn Saesneg erioed. Aeth Guillermo del Toro ati i’w haddasu yn ffilm, sef ‘Pan’s Labryinth’ a enillodd Oscar. Yn ei waith, darluniodd Machen ran o Went lle mae mwy nag sydd ar y wyneb. Roedd y bryngaerau o Oes yr Haearn, a Thwmbarlwm yn enwedig, ynghyd â Choed Gwent a choedwigoedd Dyffryn Wysg yn llefydd hudolus iddo. Maent wedi ysbrydoli awduron ffantasi dirifedi eraill hefyd, gan gynnwys HP Lovecraft.

  • Castell Powis

    Yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg, nid yw’n syndod yn y byd bod sawl chwedl ynghlwm wrth un o gestyll mwyaf Cymru. Efallai mai’r straeon ysbrydion yw’r enwocaf o’r rhain, gan fod mwy nag un wedi gweld bwganod yma dros y canrifoedd. Ym 1780, dywedodd hen fenyw a arhosai yno fod gŵr mewn siwt â les aur wedi dod i’w hystafell a’i harwain drwy’r castell lle daeth o hyd i allwedd a chist oedd wedi'i chuddio. Ymhlith y straeon eraill mae’r rheini am bianos yn chwarae ar eu pennau’u hunain, sŵn cnocio ar ddrysau a neb yno, a dwylo anweledig yn crafangu amdanoch wrth ichi gamu ar y grisiau. Oes, mae gan Gastell Powis enw am fod yn lle brawychus ar y naw. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gofalu am y safle.

    Llun o du mewn y tŷ - hawlfraint Paul Highnam / Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

  • Skirrid Mountain Inn, Llanfihangel

    Tafarn yw’r Skirrid Mountain Inn ac ynddi, medden nhw, ysbrydion ym mhob man. Nepell i'r gogledd o'r Fenni, arferai fod yn llys barn ac yn garchar. Y tu ôl i’r bar, mae’r traws yn dal i’w weld lle crogwyd cannoedd o garcharorion. Dywed ymwelwyr eu bod wedi clywed lleisiau tawel, drysau’n clepian a sŵn traed annifyr. Ar ôl cinio, ewch am dro drwy Goed y Cerrig, y warchodfa natur sydd mor guddiedig yng ngodre’r dyffryn serth nes na wyddech, bron, ei bod yno. Mae llwybr estyll yn ymdroelli drwy’r coetir ac yn ymuno â llwybrau pridd cywasg, a’r cyfan yn ddigon rhwydd i’w gerdded.

  • Plasty Llancaiach Fawr

    Mae cred bod mwy o fwganod yn Llancaiach Fawr, sy’n dyddio’n ôl i 1530, nag yn yr un tŷ arall yng Nghymru. Heddiw mae’r plasty wedi’i adfer i sut y byddai ym 1645, a dywedir bod pethau rhyfedd wedi’u gweld yn y rhan fwyaf o’i ystafelloedd. Wrth ichi gerdded yng ngolau cannwyll, efallai’n wir y gwelwch ysbryd ‘Mattie’, y forwyn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, neu y byddwch yn ddigon lwcus i gael cipolwg o’r Cyrnol Edward Prichard (c.1610-1655), meistr Llancaiach Fawr yn ystod y Rhyfel Cartref. Cefnogi’r Brenhinwyr wnaeth Prichard tan 1645 cyn newid ochr a chroesi at y Seneddwyr. Amddiffynnodd Gastell Caerdydd rhag cyrch ym 1646, cyn ymladd ym Mrwydr San Ffagan ym 1648.

  • Castell Conwy

    Codwyd Castell Conwy gan Edward I dros 700 mlynedd yn ôl i roi ffrwyn ar y Cymry, ac mae’n lle llawn cyfrinachau o bob math. Efallai mai’r hanes mwyaf brawychus yw stori’r ddau fynach sydd wedi aflonyddu ar y castell ers canrifoedd. Y gred yw bod mynachlog gerllaw’r castell ac nad yw’r ddau hyn erioed wedi'n gadael. Gan ymddangos yn eu mentyll o dan gwfl, dywedir bod y mynachod yn hofran yn yr aer heb symud, gan ddychryn y bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Yn ôl y sôn, mae eu presenoldeb mor amlwg, bydd cŵn yn gwrthod mynd i rai rhannau o’r castell. Cadw sy’n gofalu am Gastell Conwy.

  • Plas Mawr o Oes Elisabeth

    Tŷ a godwyd rhwng 1577 a 1580 yw Plas Mawr. Mae’n llawn addurniadau crand, a’r llefydd tân a’u gwaith plastr lliwgar yn werth eu gweld. Yn ôl y sôn, mae ysbryd Robert Wynn (1520-1598), y perchennog cyntaf a fu farw o dorcalon, yn dal i grwydro’r ystafelloedd. Dal i chwilio y mae – medden nhw – am feddyg ifanc yr oedd arno ormod o ofn trin gwraig a mab ifanc Wynn. Cymaint o ofn yn wir nes dianc i fyny’r simne, a cheisio dial arno y mae Wynn hyd heddiw. Bu farw’r wraig a’r plentyn maes o law, ac ar ôl mynd yn sownd, marw wnaeth y meddyg yntau. Yn ystod rhai cyfnodau o'r flwyddyn, mae teithiau tywys fin nos ar gael ym Mhlas Mawr. Bydd eich tywysydd yn adrodd hanes y tŷ ac yn ailadrodd hen goelion i'ch dychryn. Wrth i chi gerdded drwy'r hen goridorau fe welwch ystafelloedd wedi eu haddurno gyda phatrymau pentagram er mwyn dychryn eneidiau drwg - digon i godi gwrychyn. Cynhelir y tŷ gan Cadw.