ARTHUR A’I WYRTHIAU

ARTHUR A’I WYRTHIAU

... Myrddin, dreigiau a Chaledfwlch

Mannau o ddiddordeb

  • Dinas Emrys

    Mae sôn mai’r mynydd sy'n edrych draw dros ben deheuol Llyn Dinas yn Eryri oedd gwir gartref ein draig goch. Yn ôl Nennius (g. OC 769), ceisiodd y Brenin Gwrtheyrn godi castell yn Ninas Emrys, ond gyda’r nos, byddai’r muriau’n dymchwel, a hynny heb esboniad. Daeth y dewin Myrddin, ac yntau’n fachgen ar y pryd, o hyd i’r rheswm pam: roedd dwy ddraig, y naill yn goch a’r llall yn wen, yn ymladd mewn pwll o dan y castell. Y ddraig goch a orfu a dod yn symbol o'r frwydr yn erbyn y gelynion Sacsonaidd. Magodd y chwedl gryn fri, a daeth Myrddin yn gynghorwr doeth i’r Brenin Arthur ac yn ddewin yn ei lys. Yn ddiweddar, daeth archeolegwyr o hyd i amddiffynfeydd o gyfnod Gwrtheyrn a ailgodwyd sawl tro. Gallwch gerdded i Ddinas Emrys o Fferm Craflwyn, sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

    Llun o Neuadd Craflwyn - hawlfraint Mark Percy / Geograph

  • Llyn Barfog

    Mae'n debyg i Lyn Barfog gael ei enwi ar ôl y brwyn sydd ym mhobman hyd ei lannau. Yn ôl y traddodiad, fan hyn oedd yr Afanc yn byw, anghenfil dŵr a wnâi fywyd trigolion Aberdyfi yn boen. Byddai’r bwystfil yn lladd pawb a phopeth a ddeuai’n rhy agos at y llyn, ac ar brydiau byddai’n creu llifogydd drwy chwipio’i gynffon neu’n ysbeilio’r ffermdir lleol. Galwyd ar y Brenin Arthur i helpu, a llusgodd hwnnw’r Afanc o’r llyn gan ddefnyddio cadwyn hudol a glymwyd i’w farch, Llamrai. Yn y frwydr ddilynol ar y lan, gadawodd Llamrai ôl ei garn ar y creigiau, ac mae hwnnw'n dal i'w weld heddiw. Carn March Arthur yw'r enw lleol arno. Os yr hoffech chi archwilio cysylltiadau Arthuraidd lleol ymhellach, gallwch ymweld â Labrinth y Brenin Arthur ger Corris.

    Llun o Garn March Arthur - hawlfraint David Given

  • Mynydd Helygain

    Yn eu cyfrol ddiweddar, The Keys to Avalon, dywed Steve Blake a Scott Lloyd mai Mynydd Helygain yw lleoliad ynys hudol Afallon. Mae’n llyfr sydd hefyd yn honni mai yn y gogledd ddwyrain yr oedd y Brenin Arthur yn byw. Dewch i grwydro tirlun gwyllt ac agored Mynydd Helygain; ar ôl dwy ganrif o chwarela yma am blwm a cherrig, mae hwnnw bellach wedi’i adfer i’w hen ffurf. Ni fydd y blodau gwyllt na’r bwncathod yn tarfu ar y golygfeydd dros y darn arbennig hwn o’r byd. Bellach, Prifysgol Bangor yw cartref casgliad Llyfrgell Sir y Fflint o dros 2,000 o eitemau am y Brenin Arthur. Gallwch drefnu apwyntiad i weld yr eitemau. 

  • Capel Sant Gofan

    Nid yw Cymru’n brin o gapeli hynod, capeli bychan iawn, a chapeli anghysbell. Mewn bwlch yng nghesail clogwyni Penfro, mae capel Sant Gofan o’r drydedd ganrif ar ddeg yn gyfuniad o’r tri. Fe’i sefydlwyd yn y chweched ganrif, ac efallai’n wir mai Syr Gwalchmai oedd Sant Gofan, sef nai i’r Brenin Arthur ac un o farchogion y Ford Gron. Dywedir ei fod wedi dod yma i ymddeol wedi marwolaeth Arthur, a byw fel meudwy ar ôl hynny. Ysbrydolodd ei fywyd sawl darn o waith celfyddydol, gan gynnwys Sir Gawain and the Green Knight, cerdd naratif o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, a The Buried Giant gan Kazuo Ishiguro. Yn ôl y chwedl, waeth pa mor ofalus y cyfrwch chi’r grisiau sy’n arwain i lawr o'r llwybr uwchlaw, wnewch chi byth lwyddo i gyfri'r un nifer wrth ddringo'n ôl drachefn.

  • Cylch cerrig Bedd Arthur, Mynachlog-ddu

    Mewn man anghysbell, llawn dirgelwch yn y Preseli, fe ddewch o hyd i gylch o feini o ddiwedd Oes Newydd y Cerrig. Dyma Fedd Arthur, a gwir fan ei gladdu yn ôl y traddodiad lleol. Daeth meini gleision Côr y Cewri o’r un ardal â’r meini hyn, ac maent yn deillio o’r un cyfnod. Mae’r siâp pedol a welir yno heddiw hefyd yn edrych yn debyg i fedd. Mewn gwirionedd, nid yw’r safle yn debyg i gylch cerrig traddodiadol, ac efallai mai beddrod oedd yma’n wreiddiol a bod y twmpath wedi diflannu yn ystod y 4800 o flynyddoedd ers ei greu.

  • Porthmadog

    Ym 1995, dangoswyd y ffilm First Knight am y tro cyntaf, a hynny ym Mhorthmadog. Mae’r ffilm, a Sean Connory a Richard Gere yn serennu ynddi, yn sôn am gariad Gwenhwyfawr at y Brenin Arthur a Lawnslot ill dau. Codwyd y Camelot chwedlonol ar lan Llyn Trawsfynydd, a ffilmiwyd golygfeydd hefyd yn y bryniau o amgylch Blaenau Ffestiniog, ger aber Mawddach, ym Morfa Bychan ac yn Chwarel Hen Llanfair. Mae modd mwynhau’r tirlun cyfrin hwn ar reilffordd stêm Ffestiniog sy’n troelli o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog, gan ryfeddu at gopaon Parc Cenedlaethol Eryri ar bob tu.

  • Yr Wyddfa

    Mae cysylltiad amlwg rhwng y Brenin Arthur ac Eryri. Mae Ffynnon Cegin Arthur a Ffynnon Arthur ill dwy wedi’u henwi ar ei ôl, a dywedir bod gan y naill a’r llall rinweddau iachaol. Yn Eryri y mae rhai o lwybrau mynydda gorau Ewrop, yn ogystal â rhai o’r peryclaf. Yn ôl y sôn, ger safle’r garnedd ar gopa’r Wyddfa y syrthiodd y brenin ffyrnig, Rhita Gawr, ac yno o dan y cerrig y claddwyd ef. Mae’r chwedl yn honni i'r Brenin Arthur ddringo’r Wyddfa i ladd Rhita Gawr – gŵr a wisgai fantell o farfau’i elynion – a hynny am ei fradychu a ffoi gyda’i feistres. Ceir chwe llwybr troed sy’n arwain at y copa – mae pob un yn dipyn o her – neu neidiwch ar Drên Bach yr Wyddfa o Lanberis. Ar ôl cyrraedd Hafod Eryri, y ganolfan ymwelwyr, fe welwch y gerdd uchaf yng Nghymru, sef geiriau Gwyn Thomas, ail Fardd Cenedlaethol Cymru.

  • Craig y Ddinas, Pontneddfechan

    Yng Nghraig y Ddinas, meddai rhai, y mae'r Brenin Arthur yn gorffwyso bellach. Clogwyn calchfaen 45m yw hwn, ac arno fryngaer o Oes yr Haearn ar ei gopa. Yn ôl un chwedl, mae ogof danddaearol o dan y gaer. Dywedir bod y Brenin Arthur a byddin fawr o'i wŷr ynghwsg yno, yn aros i godi drachefn ac ailgipio ynys Prydain. Maent yn amddiffyn twmpath o arian ac aur, a chlychau o’u cylch i’w deffro o’u trwmgwsg os daw unrhyw ladron yno. Fe ddewch o hyd i’r rhyfeddod daearegol hwn yng nghanol ardal y rhaeadrau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae sawl llwybr yn arwain o Graig y Ddinas, gan gynnwys un i Sgwd yr Eira, a hwnnw'n consurio’r rhamant Arthuraidd i’r dim wrth ichi gerdded ar y silff y tu ôl i'r rhaeadr byrlymus.

  • Mwyngloddiau Aur Dolaucothi

    Glywsoch chi erioed am hanes Smaug y ddraig a’i chelc mawr o aur yn The Hobbit gan JRR Tolkien (1892-1973)? Yn Nolaucothi, mae taith danddaearol yn dangos sut y câi aur ei gloddio yng Nghymru go iawn. Echdynnwyd aur fan hyn o’r cyfnod Rhufeinig tan 1938, y flwyddyn ar ôl cyhoeddi’r gyfrol. Ar ôl bod yma, ewch i fwynhau peint o’r Double Dragon, cwrw lleol o Sir Gâr, yn y Dolaucothi Arms gerllaw. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gofalu am Fwyngloddiau Aur Dolaucothi.

  • Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

    Mae Myrddin yn ymddangos yn aml yn llenyddiaeth gynnar y Celtiaid, a hynny ar ffurf gŵr gwyllt, rhyfedd o’r coed. Ond y clerigwr a’r awdur Sieffre o Fynwy (c. 1100-1155) a ddarluniodd y dewin yn un o gynghorwyr y Brenin Arthur. Fel y gwelwn yn yr enw, ceir cysylltiad cryf rhwng Myrddin a Chaerfyrddin. Efallai’n wir iddo gael ei eni mewn ogof gyfagos – ym Mryn Myrddin, o bosibl. Yn Llyfr Du Caerfyrddin o’r drydedd ganrif ar ddeg, ceir cerddi sy’n cyfeirio at Arthur, ac at Myrddin fel gŵr a allai ddarogan y dyfodol. Mae chwedl sy’n sôn am yr hen dderwen a arferai dyfu yn y dref: pan ddisgynnai honno, byddai Caerfyrddin hithau’n syrthio. Pan gafwyd gwared â gweddillion pwdr y goeden hynafol ym 1978, dioddefodd y dref y llifogydd gwaethaf ers cyn cof. Mae cangen o’r dderwen yn dal i’w gweld yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin.

  • Gwesty’r King Arthur, Reynoldston

    Dyma westy a thŷ tafarn penigamp o fewn tafliad carreg i Garreg Arthur: beddrod o ddechrau Oes Newydd y Cerrig. Fe ddewch o hyd iddynt ar gefnffordd Cefn Bryn yng nghanol prydferthwch Gŵyr. Yn ôl y chwedl, mae’r beddrod wedi’i greu o garreg fechan a ddisgynnodd o esgid y Brenin Arthur, a honno wedi tyfu drwy hud a lledrith ar ôl i Arthur ei thaflu hi yno o Sir Gâr. Dywedir bod y garreg yn un sychedig, a’i bod yn hoff o grwydro draw at y nant gerllaw i dorri’r syched hwnnw. Mae sôn hefyd bod Dylan Thomas (1914-1953) wedi cynnal sesiwn séance yma ar ôl perfformio yng nghwmni’r gymdeithas ddrama amatur leol un tro. Cyn gadael y fro, mae’n sicr yn werth taro heibio i Ganolfan Saethyddiaeth a Hebogyddiaeth Perriswood a Chanolfan Dreftadaeth Gŵyr.

    Llun - hawlfraint Stella Elphick

  • Llyn Llydaw

    Mae sôn am o leiaf dri llyn yng Nghymru lle gall Caledfwlch, cleddyf hudol y Brenin Arthur, fod yn gorwedd. Mae llynnoedd Llydaw, Dinas ac Ogwen cyn brydferthed â’i gilydd, a’r tri hefyd o fewn tafliad carreg i’w gilydd yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Efallai’n wir fod Syr Bedwyr wedi dringo i ardal anghysbell a gwyllt Llyn Llydaw, a bod Arthur wedi hwylio dros y llyn hwn ar ei ffordd i Ynys Afallon. O Faes Parcio Pen-y-Pas ym Mharc Cenedlaethol Eryri, mae’n bosibl dilyn Llwybr y Mwynwyr i gael golygfeydd gwych o’r llyn. Llwybr yw hwn sydd yn mynd yn ei flaen yn serth wedyn i ddringo’r Wyddfa ei hun.

  • Theatr Gron Rufeinig Caerllion

    Yn ôl Sieffre o Fynwy (c. 1100-1155) yn ei Historia Regum Britanniae (‘Hanes Brenhinoedd Prydain’), Caerllion yw lleoliad Camelot, llys chwedlonol y Brenin Arthur. Mae hon yn gaer Rufeinig o bwys ac ynddi theatr gron fwyaf cyflawn Prydain, baddondy a barics. Cadw sy’n gofalu am y lle erbyn hyn, ac mae’n rhoi i ymwelwyr ddarlun byw o fywyd yn y Brydain Rufeinig. Gerllaw mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru lle gallwch weld sut fywyd oedd gan bobl yma bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl. Arhosodd y bardd, yr Arglwydd Alfred Tennyson, yn yr Hanbury Arms yng Nghaerllion wrth ysgrifennu Idylls of the King ym 1856. Mae’r gerdd epig hon yn adrodd hanes y Brenin Arthur, ei farchogion, ei gariad at Gwenhwyfar, a brad honno.

  • Carreg Carn March Arthur

    Dyma'r ail safle ym Mryniau Clwyd a gysylltir â'r Brenin Arthur. Mae’n bosibl mai maen hir o Oes yr Efydd oedd Carreg Carn March Arthur yn wreiddiol, a’i bod yn dynodi ffin. Mae wedi’i gosod yn fflat, a bwa trawiadol drosti. Yn ôl y plac sydd yno, ar 10 Tachwedd 1763, penderfynodd Cwrt y Siecr yn San Steffan mai fan hyn oedd y ffin rhwng plwyf ac arglwyddiaeth Rhuthun yn sir y Fflint a Llanferres yn sir Ddinbych. Mae siâp carn i’w weld ar y garreg, ac yn ôl y chwedl, gadawyd hwnnw yma gan Llamrai, march y Brenin Arthur, wrth iddynt lamu o glogwyn cyfagos i ffoi rhag y Sacsoniaid. Mae’r garreg yn gorwedd ger llwybr troed sy’n arwain at Barc Gwledig Loggerheads.

    Llun o Garreg Carn March Arthur - hawlfraint Eirian Evans / Geograph

  • Maen Huail, Rhuthun

    Dyma un o ddau safle ym Mryniau Clwyd a gysylltir â'r Brenin Arthur. Carreg galch yng nghanol Rhuthun yw Maen Huail. Yn ôl Elis Gruffydd (1490-1552), ar y garreg hon y dienyddiodd y Brenin Arthur y rhyfelwr ifanc Huail. Gŵr oedd hwn a wnaeth gamgymeriad dybryd yn ysbeilio tir Arthur, yn dwyn ei feistres, ac yn tynnu’i goes am gloffni yr oedd Huail ei hun wedi’i achosi. Mae’n debygol bod y garreg yn cael ei defnyddio i nodi achlysuron cyhoeddus neu i bregethu, a'i bod yn wreiddiol yng nghanol y stryd i ddangos ymhle’r oedd hawl i fasnachu. Tref farchnad brydferth yw Rhuthun ac mae yno garchar Fictoraidd ynghyd â chanolfan grefftau ragorol.