YN GYMRAEG MAE’I MORIO HI

YN GYMRAEG MAE’I MORIO HI

... Ein hiaith a’n hunaniaeth
living-language

Mannau o ddiddordeb

  • Storiel, Bangor

    Ym 1847, cyflwynwyd adroddiad am addysg yng Nghymru (y ‘Llyfrau Gleision’) i lywodraeth Prydain. Comisiynwyr o Loegr oedd wedi cynnal yr arolwg a’r rheini heb air o’r Gymraeg. Dibynnent felly ar dystiolaeth clerigwyr Anglicanaidd mewn cyfnod pan oedd y rhan fwyaf o bobl yn mynd i’r Capel. Casgliad y comisiynwyr oedd bod plant yng Nghymru (a merched yn enwedig) yn ddwl, yn ddiog, yn llac eu moesau ac yn ddigrefydd, gan feio’r cyfan ar Anghydffurfiaeth a’r Gymraeg. Er i’r adroddiad led-feirniadu addysg uniaith Saesneg a’r defnydd o’r Welsh Not, roedd yr agwedd gyffredinol yn nodweddiadol o fydolwg y rheini a oedd mewn grym yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y bardd Robert Jones Derfel (1824-1905) ar flaen y gad yn yr ymateb chwyrn i’r adroddiad, ac ef a fathodd y geiriau Brad y Llyfrau Gleision yn ei ddrama o’r un enw. Daethpwyd o hyd i enghraifft o’r Welsh Not yn Ysgol y Garth, Bangor, wrth ei dymchwel. Yn Storiel – Amgueddfa ac Oriel Gwynedd – fe gewch weld casgliad gwych o dreftadaeth y Gymru Gymraeg.  

    Llun o Welsh Not Ysgol Garth - hawlfraint @Storiel

  • Neuadd y Dref, Caerfyrddin

    Dilynodd Gwynfor Evans (1912-2005), Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, ei fuddugoliaeth yn etholiad 1966 gydag araith yn Neuadd y Dref, Caerfyrddin. Mae plac yno bellach i gofnodi’r achlysur. Bu’n rhaid galw'r isetholiad hwnnw wedi marwolaeth Megan Lloyd George AS, ac fe’i gwelir yn aml yn foment dyngedfennol yn hanes datganoli ym Mhrydain yn ogystal ag yn sbardun hollbwysig ym mrwydr yr iaith. Defnyddid Neuadd y Dref hefyd yn llys barn ar un adeg. Yma y daeth Ronald Harries, un o Ferched Beca, o flaen ei well am lofruddio, ac fe'i dedfrydwyd i farwolaeth ar ôl ei ganfod yn euog. Wedi ichi fynd heibio i Neuadd y Dref, cerddwch i lawr Stryd y Brenin i Oriel Myrddin, lle mae arddangosfeydd celf a chrefft a siop yn gwerthu gweithiau lleol.

    Llun o Neuadd y Dref - hawlfraint Ruth Sharville

  • Siambr Gladdu Tinkinswood

    Hynafiaethydd, bardd a ffugiwr heb ei ail oedd Iolo Morganwg (1747-1826), gŵr a ddaeth yn arbenigwr ar lenyddiaeth a threftadaeth Cymru yn yr oesoedd canol cynnar. Ei brif genhadaeth oedd cynnal a meithrin traddodiadau llenyddol Cymru a sicrhau bod arferion y diwylliant Brythonaidd Cymreig yn parhau hyd y dydd heddiw. Ond fe ddyfeisiodd lawer o hyn hefyd o'i ben a’i bastwn ei hun, gan ffugio sawl dogfen i roi sail i’w honiadau. Serch hynny, cafodd Iolo effaith fawr ar yr adfywiad Celtaidd yn niwylliant a hunaniaeth Cymru, fel y gwelwyd wrth sefydlu’r Orsedd, yn y diddordeb newydd a ysgogodd yn llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol cynnar, ac yn y dderwyddiaeth newydd gynnar. Cyflwynodd Gruff Rhys, prif leisydd y Super Furry Animals, gân iddo ar ei albwm American Interior yn 2014. Cadw sy’n gofalu am Siambr Gladdu Tinkinswood, a byddai Iolo heb os wedi bod yn gyfarwydd â hi. Yn wir, mae’n symbol o’r union dreftadaeth yr oedd yn ceisio’i hadfywio.

    Llun o ddefod farddonol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar, 1946, gan Geoff Charles – trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Traeth Morfa Nefyn

    Bae cysgodol a harbwr naturiol ar Benrhyn Llŷn yw Morfa Nefyn, a’i draeth hir yn ymestyn am ddwy filltir. Ar y glannau hyn ym 1979 y gwelwyd y cyntaf o bedwar ymosodiad gan Feibion Glyndŵr yn yr ardal. Dyma’r mudiad cenedlaetholgar dirgel a wrthwynebai’r ffaith bod Saeson yn prynu tai lleol i’w defnyddio yn dai haf. Roedd hynny’n codi prisiau tai nes eu bod y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl leol, gan orfodi pobl iau i adael yr ardal. Bu Meibion Glyndŵr yn gyfrifol am losgi tai haf a oedd yn eiddo i Saeson yng Nghymru tan ganol y 1990au. Yn dra dadleuol, roedd y bardd RS Thomas yn llafar o blaid y mudiad. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol daith gerdded o’r maes parcio ar hyd y traeth ac yn ôl dros frig y clogwyn. Gallwch oedi am lymaid neu bryd bach yn nhafarn enwog y Tŷ Coch ar lan y môr ym Mhorthdinllaen.

  • Llangennech

    Llangennech oedd cartref Eileen a Trefor Beasley (1921-2012; 1918-1994), dau ymgyrchydd arloesol a brotestiodd yn y 1950au yn erbyn diffyg defnydd o’r Gymraeg mewn gweinyddiaeth gyhoeddus. Ar ôl gwrthod talu’r dreth gyngor nes bod modd gwneud hynny yn Gymraeg, collodd y ddau y rhan fwyaf o’u heiddo yn y frwydr. Canmolwyd hwy gan Saunders Lewis yn Tynged yr Iaith, ei ddarlith radio dyngedfennol. Mae’r pentref wedi cael sylw yn y newyddion eto yn ddiweddar mewn ffrae ynghylch addysg Gymraeg – ffrae y mae Huw Edwards, newyddiadurwr y BBC, wedi’i thrafod yn fanwl. O Langennech y deuai ei dad, Hywel Teifi Edwards (1934-2010), hanesydd o fri. Sefydlwyd Academi Hywel Teifi yn 2010 i feithrin rhagoriaeth mewn astudiaethau iaith a llenyddiaeth Gymraeg. Ar ôl crwydro Llangennech, ewch draw i fwyty’r Sosban yn Llanelli, sy’n gweini cynnyrch lleol o’r radd flaenaf.

    Llun - hawlfraint Stephen Lyons

  • Pont Trefechan, Aberystwyth

    Yn Tynged yr Iaith, ei ddarlith radio ym 1962, dadleuodd Saunders Lewis (1893-1985) fod angen ‘dulliau chwyldro’ er mwyn i’r Gymraeg fyw. Un o sgil effeithiau’r ddarlith oedd sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a Phont Trefechan oedd safle’i phrotest gyntaf. Ymatebodd miloedd o bobl ifanc i’r alwad gan greu rhwystr ar y bont ym 1963. Aeth y Gymdeithas yn ei blaen i gynnal ymgyrch dros roi statws cyfartal i’r Gymraeg, a hynny mewn sawl maes gwahanol, gan gynnwys arwyddion ffyrdd dwyieithog. Arweiniodd hyn at Ddeddf yr Iaith Gymraeg (1993) a Mesur y Gymraeg (2011). Yn 2013, ailgreodd y Theatr Genedlaethol y brotest ar y bont i nodi hanner canmlwyddiant y digwyddiad. Yn Aberystwyth, cerddwch ar hyd y Prom heibio i’r Hen Goleg, a sefydlodd ei Adran Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym 1875.

    Llun o Bont Trefechan - hawlfraint Ian Capper / Geograph

  • Penyberth

    Un weithredoedd amlwg cyntaf cenedlaetholwyr Cymru yn yr ugeinfed ganrif oedd y Tân yn Llŷn, ac mae i’r hanes statws chwedlonol. Ffermdy ac iddo gryn arwyddocâd diwylliannol oedd Penyberth, a chysylltiad rhyngddo a chanrifoedd o noddwyr barddoniaeth Gymraeg. Roedd llywodraeth Prydain wedi bod yn chwilio am safle i’r Llu Awyr ymarfer bomio, ond wedi wynebu gwrthwynebiad wrth edrych ar safleoedd posibl yn Lloegr. Er gwaethaf protestiadau di-ben-draw yng Nghymru, dymchwelwyd y ffermdy ym 1936. Rhoddodd tri awdur canol oed, parchus – Lewis Valentine, Saunders Lewis a DJ Williams – yr ysgol fomio a ddaeth yn ei le ar dân, cyn mynd i orsaf heddlu Pwllheli i gydnabod y weithred. Symudwyd yr achos llys i Lundain, a charcharwyd hwy am naw mis. Dilynwch ôl eu traed ar y llwybrau o amgylch hen safle’r maes awyr.

  • Tŷ Mawr Wybrnant

    Yn y ffermdy traddodiadol hwn o’r unfed ganrif ar ddeg y ganwyd yr Esgob William Morgan (c. 1545-1604). Ar gyfarwyddyd Elizabeth I, Morgan oedd y cyntaf i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Wedi Deddfau Uno 1536, gwrthodwyd statws swyddogol i’r Gymraeg a gwaharddwyd yr iaith o fyd gweinyddiaeth a chyfraith. Tyb llawer fod cyfieithiad 1588 yn un o’r prif resymau pam y goroesodd yr iaith a pham ei bod yn dal i ffynnu heddiw. Arddull gain tu hwnt oedd i’r cyfieithiad hwnnw, ond roedd mewn iaith hynod ddealladwy. Yn y ganrif ar ôl cyhoeddi’r Beibl, Cymru oedd un o wledydd mwyaf llythrennog Ewrop, a defnyddid cyfieithiad Morgan mewn eglwysi tan 1988. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gofalu am Tŷ Mawr Wybrnant heddiw; saif mewn llecyn godidog a cheir llwybrau cerdded braf o amgylch y tir. Mae yma hefyd amgueddfa fechan, ac ar y tu mewn mae’r tŷ wedi’i adfer i adlewyrchu’r cyfnod pan oedd Morgan yn byw yno. Dim ond tuag 20 o’r argraffiadau cyntaf o Feibl Morgan sy’n dal i fodoli, ac mae 2 o’r rhain i’w gweld fan hyn. 

  • Castell Aberteifi

    Mae’r castell Normanaidd hwn o gryn bwys yn niwylliant Cymru. Wedi i’r Tywysog Rhys ap Gruffydd (c. 1132-1197), neu’r Arglwydd Rhys, ei gipio, symudodd ei lys yma ym 1171 a disodli'r strwythur mwnt a'r beili â chastell cerrig. Er mwyn dathlu cwblhau’r gwaith ym 1176, cynhaliodd yr Arglwydd Rhys ymrysonau rhwng beirdd a cherddorion yng Nghastell Aberteifi – a derbynnir ar lawr gwlad mai dyma oedd Eisteddfod genedlaethol gyntaf Cymru. Heddiw, rhoddir y Gadair i’r bardd caeth gorau yn y gystadleuaeth, gan ddilyn traddodiad Beirdd y Tywysogion. Mae’r Castell wedi agor i’r cyhoedd yn ddiweddar ar ôl gwario £12 miliwn yn ei adfer. Yn ogystal â bod yn atyniad treftadaeth, mae yno fwyty a llety, a cherflun o’r gadair Eisteddfodol gyntaf.

  • Llyn Celyn

    Er y gwrthwynebiad chwyrn, rhwng 1960 a 1965, codwyd argae ar afon Tryweryn, gan foddi Capel Celyn a'r tir ffermio cyfagos i greu cronfa ddŵr i bobl Lerpwl. Roedd y pentref yn gymuned Gymraeg ddiwylliedig, ond cydsyniodd San Steffan i’r cynllun heb ymgynghori â neb yng Nghymru. Wrth brotestio yn erbyn hyn y daeth Byddin Rhyddid Cymru (yr FWA) i’r amlwg gyntaf, gan dorri gwifrau’r meicroffonau a boddi lleisiau’r siaradwyr yn y seremoni agoriadol. Gyferbyn â Llyn Celyn saif Fron-goch, gwersyll lle carcharwyd cenedlaetholwyr Gwyddelig ar ôl Gwrthryfel y Pasg 1916. Bu Michael Collins yn garcharor yno, ac ar ôl Tryweryn, ffurfiwyd perthynas rhwng yr FWA a’r IRA. Roedd awduron fel RS Thomas a Saunders Lewis yn agored wleidyddol ar yr adeg hon – yn cefnogi’r mudiad ac yn llafar eu llais yn y dadleuon cyhoeddus yn ogystal ag yn eu gwaith llenyddol. Mae’r Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol yn cynnig gweithgareddau chwaraeon dŵr ar afon Tryweryn.

    Llun o Gapel Celyn gan Geoff Charles yn hydref 1963, adeg gwasanaeth datgorffori’r capel - trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru 

  • Buckland Hall

    Dywedodd JRR Tolkien (1892-1973) fod y Gymraeg yn hollbwysig er mwyn deall hanes Prydain. Yn ôl y sôn, arhosodd mewn bwthyn nid nepell o Buckland Hall un haf ac yntau wrthi’n cyfansoddi darnau o The Lord of the Rings. Defnyddiodd Tolkien yr ardal leol yn helaeth wrth enwi cymeriadau a llefydd.  Ei gyfaill Fred o Dredegar yw Fredegar; Cruchywel yw Crick Hollow ac mae Brandywine Bridge yn adlais amlwg o Bont Llangynidr, sy’n dyddio yn ôl i 1700. Ac ai Merthyr oedd ardal lofaol Mordor, tybed? I Buckland, sydd yn ôl y gyfrol ar ochr ddwyreiniol yr afon, y daeth Hobitiaid Brandybuck i fyw. Lleoliad preifat sydd ar gael i’w logi yw Buckland Hall erbyn hyn, ond gallwch ddilyn nifer o lwybrau troed drwy’r ystâd at y bryn cyfagos, sy'n rhoi golygfeydd ysblennydd dros ardal y Shire y sonnir amdani yn y llyfr.

    Lluniau - hawlfraint John Briggs / Llenyddiaeth Cymru

  • Castell Dinefwr

    Roedd Castell Dinefwr yn gadarnle i’r Deheubarth, teyrnas ganoloesol yn y de-orllewin. Dyma lys chwedlonol Hywel ap Cadell (c. OC 880-950), neu Hywel Dda, y gŵr cyntaf i roi trefn ar ein cyfreithiau traddodiadol a’u cyflwyno ar ffurf Cyfreithiau Hywel Dda. Y Tywysog Rhys ap Gruffydd (c. 1132-1197) a gododd rywfaint o’r castell. Mae’n fwy enwog am noddi Eisteddfod 1176 – yr Eisteddfod gyntaf y gwyddom amdani. Cadw sy’n gofalu am y castell heddiw, er ei fod yn sefyll ar dir Parc Dinefwr sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yma y mae cartref Gwartheg Gwynion y Parc. O Lyn y Fan Fach, meddai’r chwedl, y daeth y gwartheg hynafol hyn, ac ysbrydolwyd Gillian Clarke (g. 1937) i ysgrifennu cerdd amdanynt. Cyn gadael yr ardal, ewch heibio i siop Danteithion Wright’s yn Llanarthne, sy’n llawn dop o’r cynnyrch lleol gorau.

  • Graffiti Cofiwch Dryweryn, Llanrhystud

    Ger priffordd yr A487, nid nepell o Lanrhystud, mae graffiti enwog a beintiwyd i dynnu sylw at un o’r achosion gwaethaf erioed o ormes llywodraeth Prydain dros Gymru. Mae ‘Cofiwch Dryweryn’ bellach yn ddelwedd eiconig o’r Gymru gyfoes. Mae’n cyfeirio, wrth gwrs, at yrru trigolion Capel Celyn o'u cartrefi er mwyn creu cronfa i gyflenwi dŵr i Lerpwl. Peintiwyd y graffiti gwreiddiol yn wyn ym 1963, a’i ailbeintio wedyn sawl tro dros y blynyddoedd. Heddiw, mae’r geiriau’n wyn ar gefndir coch, ynghyd â logo tafod y ddraig Cymdeithas yr Iaith oddi tanynt.

    Llun o Graffiti Cofiwch Dryweryn - hawlfraint Yvonne Evans

  • Tafarn y Black Boy, Caernarfon

    Dyma dref Gymreiciaf y byd, ond o bosibl un o’r trefi mwyaf llenyddol hefyd – mae awduron yn llercian rownd pob cornel. Tarwch i mewn i dafarn hynafol y Black Boy ac efallai’n wir y gwelwch y prifeirdd Rhys Iorwerth (g.1983) neu Ifor Ap Glyn (g.1961), Bardd Cenedlaethol Cymru, yn mwynhau peint. Yn ôl y sôn, y cysylltiad rhwng ystâd gyfagos y Penrhyn a chaethwasiaeth a roddodd i’r dafarn ei henw, a hithau’n dyddio i’r unfed ganrif ar bymtheg. Yng Nghaernarfon y mae Palas Print, un o siopau llyfrau gorau’r wlad, ac mae’r cei enwog ar hyn o bryd wrthi'n cael ei weddnewid yn ganolfan i gynhyrchwyr bwyd a diod, cwmnïau bragu bychain, pobwyr gwlad ac artistiaid lleol. 

  • Parc Coffa Ynysangharad

    Dafliad carreg o’r bandstand, mae’r parc hwn yn gofeb i Evan James (1809-1878) a James James (1833-1902), y tad a’r mab o Bontypridd a gyfansoddodd anthem genedlaethol Cymru. I’w coffáu, ceir yma gerfluniau o gymeriadau efydd mewn mentyll Celtaidd – gŵr yn dal telyn yn cynrychioli’r gerddoriaeth, a menyw yn cynrychioli’r farddoniaeth. Dewch i ddarganfod mwy amdanynt ac am hanes y dref ei hun drwy ddilyn y Llwybr Treftadaeth sy’n cychwyn o Amgueddfa Pontypridd. Mae canllaw clywedol ar gael yma. Cyn gadael Parc Coffa Ynysangharad, sy’n lle penigamp i’r teulu, mwynhewch y maes chwarae newydd sbon a’r Lido gwych o’r 1920au sydd wedi’i ailddatblygu’n ddiweddar.