GWRTHRYFEL A REBELIAID

GWRTHRYFEL A REBELIAID

... Dihirod, terfysgwyr, taranwyr
rebels

Places Of Interest

  • Rhydlewis

    Mae’n werth galw heibio i’r pentref bychan, gwledig hwn, i weld y siop bren o oes Fictoria sy’n dal i fasnachu, neu Gapel yr Annibynwyr, Hawen, sy’n dyddio yn ôl i 1747. Yn Rhydlewis y magwyd yr awdur Caradoc Evans (1878-1945), gŵr a gynddeiriogodd siaradwyr Cymraeg drwy gyhoeddi cyfres o weithiau ffuglen Saesneg yn ymosod ar yr hyn a welai yn rhagrith duwioldeb capelaidd. Ymddangosodd Rhydlewis fel parodi yn My People a Capel Sion, a thynnwyd yr olaf oddi ar silffoedd y siopau yn sgil y tramgwydd a achosodd. Er mai’r Gymraeg oedd ei famiaith, disgrifiwyd Evans gan y wasg am gryn amser fel y gŵr a ffieiddid fwyaf yng Nghymru. Mae saernïaeth a natur delynegol y Gymraeg yn dylanwadu ar ei arddull, sy’n aml yn dywyll, yn llwm ac yn swreal. Dylanwadodd ei waith yn ei dro ar Dylan Thomas, ac mae diddordeb o’r newydd ynddo’n ddiweddar. Yn ddiweddar fe ysbrydolodd My People gynhyrchiad dawns gan y coreograffydd Gwyn Emberton, a hynny o dan yr un teitl. Enillodd y cynhyrchiad wobrau.

    Llun - hawlfraint Janet Baxter

  • Plas Glandenys, Silian

    Ym Mhlas Glandenys y ganwyd un o sylfaenwyr ac arweinydd Byddin Rhyddid Cymru, William Julian Cayo-Evans (1937-1995). Byddai’n bridio ceffylau yma. Roedd “Cayo”, fel y gelwid ef, yn fab i un a fu’n Uwch Siryf Sir Aberteifi, ac fe’i haddysgwyd mewn ysgol fonedd yn Lloegr lle datblygodd ei genedlaetholdeb Cymreig. Ac yntau wedi’i gynddeiriogi gan foddi Capel Celyn, roedd yn ganolog i’r ymgyrch ‘gweithredu uniongyrchol’ a ddilynodd yn ystod y 1960au a’r 1970au. Roedd yn ŵr dymunol, huawdl a golygus, ac yn wyneb cyhoeddus gwych i’r fyddin. Byddai’n gwahodd newyddiadurwyr i ymarferion saethu gan ddefnyddio gynnau ffug, a gorymdeithiodd yn Nulyn i nodi hanner canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg ym 1966. Fe’i dedfrydwyd i 15 mis yng ngharchar ym 1969 am gynllwynio i achosi ffrwydradau yn ystod cyfnod arwisgo'r Tywysog Siarl. Bu Cayo yn ysbrydoliaeth i lyfrau a chaneuon o bob math, yn ogystal ag i dŷ tafarn: y Cayo Arms ar Heol y Gadeirlan yng Nghaerdydd. Mae Plas Glandenys hefyd yn lleoliad ar gyfer y stori fer The Lovers’ Graves gan Bethan Phillips, sydd wedi ei hysbrydoli gan scandal rhamantaidd rhwng y perchennog diwethaf, William Jones, a’i wraig ifanc. Nid yw Plas Glandenys ar agor i'r cyhoedd, ond mae fflat gwyliau yno sydd ar gael i’w logi. Ewch i archwilio'r llwybrau i'r gogledd o Silian sydd yn arwain at y meysydd lle bu Byddin Rhyddid Cymru yn hyfforddi.

    Lluniau - hawlfraint Helen Cayo-Evans

  • Llangrannog

    Yn Llangrannog y ganwyd Sarah Jane Rees (1839-1916), y bardd hynod a phenstiff sy’n fwy cyfarwydd wrth yr enw Cranogwen. Gwrthryfelai yn erbyn yr hyn a ddisgwylid yn draddodiadol gan ferch yn oes Fictoria, ac yn hytrach daeth yn gapten llong, yn athrawes, yn arholwraig cerdd, yn ddarlithydd, yn lladmerydd i’r mudiad dirwest, yn olygydd ac yn bregethwraig. Hi hefyd oedd y ferch gyntaf i ennill rhai o’r prif wobrau barddonol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Teithiodd drwy’r Unol Daleithiau ym 1869 a 1870, gan ddarlithio i gymunedau a fudodd yno o Gymru. A hithau mewn perthynas lesbaidd agored hyd ei hoes, roedd hi’n frwd dros annog merched eraill i ddilyn eu trywydd eu hunain mewn bywyd, yn hytrach na llithro i fagl priodas, magu teulu a chaethiwed y cartref. Pentref cuddiedig uwch hen borthladd bychan oedd Llangrannog yn wreiddiol, ond mae bellach yn draeth poblogaidd. Crwydrwch i’r ogof ar y tywod a dringo’r bwlch bychan heibio i’r rhaeadr at Eglwys Crannog, lle mae Cranogwen wedi’i chladdu.

  • Cofeb Glofa’r Cambrian, Tonypandy

    Cyfres o frwydrau mewn gwrthdaro treisgar rhwng glowyr, yr heddlu a’r fyddin oedd Terfysgoedd Tonypandy ym 1910 a 1911. Dyma benllanw anghydfod diwydiannol rhwng y gweithwyr a pherchnogion y glofeydd a fu’n cydweithio i reoli cyflogau, gan bennu incwm yn ôl yr hyn a gynhyrchid yn hytrach nag fesul awr. Golygai hyn mai'r gweithwyr a oedd yn gorfod ysgwyddo'r gost o weithio gwythiennau glo mwy anodd. Mae’r nofelau Cwmardy ac We Live gan Lewis Jones (1897-1939) yn darlunio’n egr y modd y manteisiwyd ar gymunedau lleol, ac yn rhoi cip inni o’r tlodi, y trasiedi, y gobaith a’r dyngarwch a welid yn y cymunedau hynny. Magwyd Jones yng Nghwm Clydach, nid nepell i’r gorllewin o Donypandy. Yng ngwaelod y cwm hwn yr oedd Glofa'r Cambrian, lle gweithiai’r rhan fwyaf o brotestwyr Tonypandy. Mae Cofeb Glofa’r Cambrian wedi ei leoli oddi fewn i Barc Gwledig Cwm Clydach. Dilynwch y llwybrau troed i’r mynydd gan ddefnyddio’r llwybrau sydd ar gael yma. Dyma lle byddai Jones yn crwydro yn blentyn, a cheir golygfeydd gwych yma o greithiau'r glo ac o Donypandy ei hun.

    Llun 1910 - hawlfraint Amgueddfa Pontypridd
    Lluniau o Barc Gwledig Cwm Clydach - hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

  • Cerflun Dr William Price, Llantrisant

    Yn Llantrisant ceir cerflun i’r Dr William Price (1800-1893)un o’r cymeriadau mwyaf lliwgar, rhamantaidd a chwyldroadol yn hanes Cymru erioed. Roedd Price yn ysgolhaig heb ei ail, yn llawfeddyg rhagorol, yn radical ac yn arloeswr ym maes gofal iechyd, ac mae'n bosibl iawn ei fod wedi dylanwadu ar Aneurin Bevan pan aeth hwnnw ati i sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol maes o law. Roedd ganddo ddiddordeb yng nghrefyddau’r dwyrain, yn llenyddiaeth ganoloesol Cymru, ym mytholeg Groeg ac mewn Eifftoleg; ar ben hyn oll roedd yn Siartydd gweithgar, yn ffeminydd, yn ddyngarwr ac yn frwd dros dderwyddiaeth newydd a hunaniaeth Frythonig Gymreig. Datblygodd Price ddefodau paganaidd, gan wisgo fel derwydd ac annerch cynulleidfaoedd wrth fynd ati i’w cynnal. Mae stori fer Dylan Thomas, The Baby Burning Case, wedi’i seilio ar yr achlysur pan amlosgodd Price ei fab bychan, a enwyd yn Iesu Grist, yn yr awyr agored ym 1884. Gadawodd capelwyr eu gwasanaeth un nos Sul i weld Price, a oedd yn 84 oed, wedi’i wisgo mewn mantell wen yn dawnsio o amgylch casged a losgai ar ben bryn Caeau’r Llan. Gallwch ddarganfod mwy am y stori ar droed trwy ddilyn y daith gerdded hardd yma neu’r llwybr clywedol yma

  • Tŷ Glyn, Y Mwmbwls

    A hithau’n wraig ddosbarth canol ddeallus ac uchelgeisiol, treuliodd Amy Dillwyn (1845-1935) ei hoes yn brwydro yn erbyn patriarchaeth Fictoraidd. Yn sgil ei gwleidyddiaeth sosialaidd, ei dull anghyffredin o wisgo a’i harfer o smocio sigârs, heb sôn am y posibilrwydd ei bod yn lesbiad ac yn dioddef o iselder, does ryfedd fod ganddi enw am fod yn wahanol. Roedd Dillwyn yn arloeswraig: bu’n rhedeg busnes Dillwyn Spelter Works yn llwyddiannus ac yn foesegol ar ôl marwolaeth ei thad; brwydrai hefyd dros gyfiawnder cymdeithasol a chefnogodd, ymhlith eraill, streic y gwniadwragedd a mudiad y Suffragette. At hynny, roedd yn awdur pwysig a chynhyrchiol, a’i saith nofel yn darlunio tensiynau rhwng dosbarthiadau a’r angen am ddiwygio cymdeithasol. Cyfieithwyd The Rebecca Rioter i’r Rwsieg yn ystod dechrau’r chwyldro yno. Seiclwch neu ewch am dro ar hyd y llwybr glan môr ym Mae Abertawe i weld y plac i Amy Dillwyn gyferbyn â’i chartref, Tŷ Glyn yn y Mwmbwls.

  • Priordy Llanddewi Nant Hodni

    Bydd cysylltiad am byth rhwng Priordy Llanddewi Nant Hodni a Walter Savage Landor (1775-1864), yr awdur tanllyd a’r rebel cymdeithasol. Fe’i ganwyd i deulu cefnog, ond golygai ei dymer wyllt a’i styfnigrwydd mul iddo wynebu sawl argyfwng ar hyd ei oes: o gael ei ddiarddel o'r teulu i achosion llys am enllib; o wneud ffŵl ohono'i hun yn gyhoeddus i sawl ffrwgwd a chweryl. Cyhoeddodd ryddiaith, barddoniaeth a gweithiau gwleidyddol, gan brynu’r Priordy gyda golwg ar sefydlu ystâd wledig yno. Ar ôl pum mlynedd o ffraeo â’r bobl leol ac Esgob Tyddewi, ni chwblhawyd y gwaith erioed, ac mae adfeilion ei blasty Sioraidd yn dal i’w gweld gerllaw’r coed castan a llarwydd a blannodd. Bywyd Landor oedd ysbrydoliaeth yr awdur Iain Sinclair (g. 1943) wrth lunio'i ‘archeoleg lenyddol’, Landors' Tower. Cadw sy’n gofalu am Briordy Llanddewi Nant Hodni erbyn hyn ac mae yno lety preifat a bwyty a bar yn y seler. Ceir sawl llwybr yn arwain i Glawdd Offa o Landdewi Nant Hodni ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

  • Eglwys Hywyn Sant, Aberdaron

    RS Thomas (1913-2000) yw un o lenorion amlycaf Cymru erioed. Cyhoeddodd dros 20 cyfrol o farddoniaeth Saesneg, a’r cerddi hynny’n adleisio saernïaeth a natur delynegol barddoniaeth Gymraeg. Gŵr yn llawn gwrthgyferbyniadau oedd Thomas: dysgodd Gymraeg yn oedolyn, ond yn Saesneg yr ysgrifennai ac anfonodd ei fab i ysgol fonedd yn Lloegr. Roedd yn ŵr sychlyd, dwys ac anghymdeithasol yn aml. Ond fel offeiriad Anglicanaidd, byddai gofyn iddo gysuro a chydymdeimlo â’i blwyfolion. Yn dra dadleuol, roedd yn llafar o blaid yr IRA ac ymgyrch llosgi tai haf Meibion Glyndŵr, ond eto roedd yn heddychwr mawr ac yn gadwraethwr. Yn ystod ei yrfa, symud yn raddol tua’r gorllewin a wnaeth, cyn cyrraedd Eglwys Hywyn Sant yn Aberdaron. Dywedir iddo losgi ei gasog ar y traeth yno ar ôl oes o wasanaeth. Mae The Man Who Went Into the West: The Life of RS Thomas gan Byron Rogers yn fywgraffiad sy’n rhoi darlun gwych o’r gŵr hynod hwn. Mae Cymdeithas RS Thomas & ME Eldridge yn cynnal Gŵyl Gelf a Barddoniaeth blynyddol yn Aberdaron.

  • Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig

    Ganwyd Howard Marks (1945-2016) ym Mynydd Kynffig gerllaw’r warchodfa hon. Er mai Marks oedd smyglwr cyffuriau enwocaf Cymru, roedd hefyd yn ŵr dymunol a difyr tu hwnt a bu’n astudio ffiseg niwclear ym Mhrifysgol Rhydychen. Ysgrifennodd Marks am ei brofiadau fel smyglwr, gan gynnwys cyfnod hir yn un o garchardai llymaf America, yn ei gyfrol enwog, Mr Nice. Addaswyd y llyfr yn ffilm yn 2010 o’r un enw, a Rhys Ifans yn serennu ynddi. Cyhoeddodd Marks nofelau ditectif yn ddiweddarach yn ei fywyd, yn ogystal â Señor Nice sy’n olrhain hanes y môr-leidr Syr Harri Morgan (1635-1688), un o’i hynafiaid. Cewch yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig lwybrau hyfryd drwy’r twyni tywod anferth a oresgynnodd Cynffig yn ei ffurf ganoloesol, wreiddiol. Teithiwch i’r dwyrain tua Merthyr Mawr i weld y cerrig sarn sy'n croesi'r afon ger Castell Ogwr, lle mae modd marchogaeth dros y twyni.

  • Castell Caerdydd

    Caer Rufeinig oedd yma’n wreiddiol, ond yn y ddeuddegfed ganrif codwyd strwythur mwnt a beili i gryfhau gafael y Normaniaid ar dde Morgannwg. Dyma safle Castell Caerdydd heddiw. Daeth adeilad cerrig i’r fan yn fuan wedyn, a dyma pryd y gwelwyd gwrthdaro parhaus rhwng y Normaniaid ag uchelwyr a Thywysogion Cymru. Ymhlith y Normaniaid hynny roedd William Fitz Robert, Iarll Caerloyw. Ar yr un pryd, roedd Ifor ap Meurig (g. 1170), neu Ifor Bach, yn rheoli ystâd a ymestynnai yr holl ffordd o ogledd Caerdydd i flaenau’r cymoedd. Yn ôl Gerallt Gymro (1146-1223), cynddeiriogwyd Ifor Bach a’i fintai fechan o ryfelwyr wrth i Fitz Robert fachu rhagor a rhagor o dir. Gan ddringo muriau Castell Caerdydd â’u dwylo noethion, cipiwyd Fitz Robert a’i deulu gan y criw, a fynnodd gael eu tir yn ôl. Llwyddodd Ifor Bach yn hyn o beth, cyn rhyddhau ei garcharorion heb niwed. Mae Clwb Ifor Bach, sy’n lle gwych i glywed cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd, wedi'i enwi ar ei ôl. Mae’n lle sydd wedi ysbrydoli sawl awdur o Gymro, gan gynnwys y bardd Rhys Iorwerth, a gyfansoddodd Y Ferch Wrth y Bar yng Nghlwb Ifor am fan hyn.

  • Gwarchodfa Natur Gwenffrwd-Dinas

    Un o hoff awduron plant Cymru erioed yw T. Llew Jones (1915-2009), y bardd, y llenor, a’r chwaraewr gwyddbwyll o fri. Mae ei straeon am deithwyr Roma, lladron pen ffordd a môr-ladron yn dal i ysbrydoli darllenwyr o bob oed hyd heddiw. Er mai am ei nofelau i blant y mae’n fwyaf enwog, cyfansoddai gerddi chwareus hefyd, yn ogystal ag ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Ymhlith ei gerddi mwyaf poblogaidd y mae Traeth y Pigyn (wedi’i hysbrydoli gan draethau euraidd y gorllewin), Y Lleidr Pen-ffordd a Cwm Alltcafan. A sôn am leidr pen ffordd, llwyddodd yr enwog Twm Siôn Cati guddio rhag Siryf Caerfyrddin yn Ogof Twm Siôn Cati sydd wedi’i leoli ar lechwedd serth yng Ngwarchodfa Natur Gwenffrwd-Dinas. Wedi ymweld â’r ogof, sydd â graffiti sy’n dyddio o’r 18fed ganrif, ewch draw am dro i lan môr cuddiedig Cwmtydu a tharo i mewn i Dafarn Tydu am hufen ia. Dyma’r ‘Glandon’ yn Dirgelwch yr Ogof. Dethlir Diwrnod T. Llew Jones bob blwyddyn ar 11 Hydref mewn ysgolion a llyfrgelloedd ledled y wlad.

  • Casnewydd-bach

    Bu T Llew Jones (1915-2009) yn ffefryn ymhlith teuluoedd ers degawdau, ac ysbrydolodd ei nofelau llawn antur, dihirod ac arwyr dewr genedlaethau o blant. Un rebel a herwr o'r fath oedd Bartholomew Roberts (1682-1722), sy’n fwy cyfarwydd inni fel Barti Ddu. Yng Nghasnewydd-bach y ganwyd Barti, a daeth maes o law yn fôr-leidr o fri. Yn wir, ysbeiliodd fwy o longau a dwyn mwy o aur na môr-ladron enwocaf Lloegr i gyd. Hwyliai’r Iwerydd a’r Caribî yn ymosod ar bopeth a welai, ac roedd ganddo enw am wisgo’n lliwgar ac am y bownti cynyddol a oedd ar gael am ei ddal. Bu’r awdur Daniel Defoe yn ymweld â’r ardal hon ym 1724 wrth ymchwilio i’w lyfr am Brydain. Sgwrsiodd â thrigolion oedd wedi adnabod y bachgen pryd tywyll, golygus, a adawodd am y môr yn ddeg oed ac na ddychwelodd byth. Mae Canolfan Gweithgareddau Sealyham gerllaw yn cynnig diwrnodau antur i deuluoedd.

  • Cwrt Plas yn Dre, Dolgellau

    Mae TH Roberts – haearnwerthwr yn oes Fictoria ond siop goffi bellach – yn sefyll ar safle Cwrt Plas yn Dre heddiw. Yn ôl y sôn, hen senedd-dy Owain Glyndŵr oedd yr adeilad yn y bymthegfed ganrif, a daeth yn gartref wedyn i'r Barwn Lewis ap Owen, Siryf Meirionnydd. Ym 1555, llofruddiwyd ap Owen gan Wylliaid Cochion Mawddwy, criw o ladron pen ffordd ac ysbeilwyr cochwallt sy’n amlwg iawn yn llên gwerin Cymru. Ceir straeon dirifedi amdanynt yn dwyn gwartheg ac eiddo yn y fro anghysbell hon, un a oedd yn ddigon afreolus ar y pryd. Nid peth anarferol yn yr ardal yw pobl sy’n mynd yn groes i’r graen: roedd gan y Crynwyr nifer o ddilynwyr yma, a hwy oedd ysbrydoliaeth Y Stafell Ddirgel, clasur o nofel Marion Eames (1921-2007). Mae modd dilyn Llwybr Taith y Crynwyr ac ymweld ag Amgueddfa’r Crynwyr yn Nolgellau.  

    Llun o T.H. Roberts - hawlfraint Dave Croker / Geograph. Engrafiad o Gwrt Plas yn Dre – trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

  • Neuadd Les y Glowyr, Onllwyn

    Roedd y ffilm Pride yn 2014, a Dominic West ac Imelda Staunton yn serennu ynddi, wedi’i seilio ar hanes cynghrair annisgwyl rhwng pobl Cwm Dulais a grŵp o bobl hoyw a lesbaidd o Lundain. Adeg Streic y Glowyr 1984 oedd hi, a hwnnw’n gyfnod pan oedd homoffobia yn beth digon cyffredin. Serch hynny, aeth LGSM (‘Lesbians and Gays Support the Miners’) ati i geisio helpu’r teuluoedd drwy godi arian i Grŵp Cymorth Glowyr Castell-Nedd, Dulais a Chwm Tawe. Neuadd Les y Glowyr yn Onllwyn oedd lleoliad golygfa gofiadwy’r disgo yn y ffilm, gyda’r gantores a’r gyfansoddwraig ifanc, Bronwen Lewis, yn canu’r gân ‘Bread and Roses’. Geiriau James Oppenheim, y bardd o Americanwr, oedd yr ysbrydoliaeth. Cynhaliwyd aduniad yn ddiweddar rhwng y ddau grŵp gan godi arian at elusen HIV. Mae lolfa a bar yn y Neuadd, a honno’n cynnal digwyddiadau rheolaidd.

    Llun - hawlfraint Coal Industry Social Welfare Organisation