YR HUDOL A’R CYSEGREDIG

YR HUDOL A’R CYSEGREDIG

... Paganiaid a phererinion

Mannau o ddiddordeb

  • Capel Soar y Mynydd

    Mae’r capel syml hwn ar lwybr y porthmyn, a godwyd ym 1822, yn hynod oherwydd ei leoliad a’i ddylanwad ar arlunwyr ac awduron. I’w gyrraedd, rhaid dilyn llwybrau cul a phasio milltiroedd o adfeilion, rhaeadrau, tir agored a choedwigoedd. Dywedir mai dyma gapel mwyaf anghysbell y wlad, ac yn y 1960au – fel sawl un arall – tybid y byddai Capel Soar y Mynydd yn gorfod cau wrth i’r gynulleidfa wanychu. Fodd bynnag, dros y deugain mlynedd diwethaf, daeth yn symbol eiconig yn ein diwylliant, gan ddod i gynrychioli hefyd oes goll y bugeiliaid ar y darn hwn o dir. Mae'n dal i gynnal gwasanaethau'n achlysurol. Ysgrifennodd Harri Webb ac Iwan Llwyd gerddi amdano, a soniodd Jim Perrin am fan hyn yn ei lyfrau teithio. Mae llwybr cylch yn arwain o’r capel tu’r de-orllewin i Ben y Gurnos, cyn dilyn yr afon i Gwm Doethie a dychwelyd i’r dwyrain ar hyd ffordd drol.

  • Y Lôn Goed

    Llwybr heddychlon rhyw bum milltir o hyd yw’r Lôn Goed, y glaslawr dan eich traed a’r derw’n fwa plethedig uwch eich pen. Mae’n dyddio o ran gynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth greu’r ffordd drol, y nod oedd agor llwybr o’r arfordir tua’r tir er mwyn cludo cerrig i Ystâd Mostyn, ac mae’n adnabyddus i filoedd o Gymry yn sgil cerdd enwog R Williams Parry (1884-1956), Eifionydd.  Mae’r llonyddwch gorffenedig o’r herwydd yn denu sawl un sy’n mwynhau barddoniaeth Gymraeg, yn ogystal â’r rheini sydd am noddfa dawel yng nghefn gwlad. Mae’r llwybr syth hefyd yn gartref i fywyd gwyllt o bob math, a chadwch olwg am ffwlbartiaid, ystlumod, tylluanod gwynion, ysgyfarnogod a gwencïod wrth ichi gerdded. Wrth gyrraedd yr arfordir, piciwch heibio i Dafarn y Plu yn Llanystumdwy am lymaid cyn troi’n eich ôl. Mae’r dafarn ddifyr hon i’w chanfod dros y ffordd i gartref mebyd David Lloyd George, ac mae’n ffefryn ymhlith awduron sy’n tiwtora ac ar gyrsiau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd gerllaw.


    Poster – hawlfraint Graffeg. 

  • Abaty a Chartws Llandudoch

    Mae’r Abaty hwn wedi’i enwi ar ôl Sant Tudoch o’r chweched ganrif, cefnder honedig i Dewi Sant. Roedd fan hyn yn ganolfan ysbrydol a diwylliannol o bwys ar lannau afon Teifi, ac yn enwog unwaith am ei llyfrgell nodedig. Mae un o berlau llenyddol Abaty Llandudoch, Eusebius’ Historia Ecclesiastica o’r drydedd ganrif ar ddeg, wedi goroesi hyd heddiw ac i’w weld yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Yn eglwys Sant Tomos yr Apostol, y drws nesaf i’r Abaty, mae Carreg Sagranus ac arni arysgrifau Ogam. Yng Nghartws yr Abaty, mae amgueddfa ynghyd â chaffi a siop sy’n gwerthu cynnyrch lleol. I weld golygfeydd hyfryd, ewch am dro ar hyd Poppit Sands, neu teithiwch ar hyd y llwybrau coediog i’r gogledd o Landudoch ac fe ddaw Castell Albro i’r golwg yn annisgwyl; hen dloty Fictoraidd oedd hwn sydd wrthi’n cael ei adfer, ac mae yno lety gwyliau.

  • Maen hir Maen Beuno, Aberriw

    Maen Beuno yw’r enw ar y maen hir 1.6m sy’n sefyll gerllaw meingylch Dyffryn Lane, a hynny o fewn cylch cerrig seremonïol ehangach sy’n dyddio yn ôl i 3000-1800 CC. Byddai’r henebion hyn – ac eraill, gan gynnwys cylch cerrig, beddrodau cylch a chylch pren Sarn-y-Bryn-Caled – wedi tra-arglwyddiaethu ar y ddôl hon lle croesir afon Hafren. Ar ôl Beuno Sant (OC 545-640) y mae’r maen hir wedi’i enwi. Ganwyd Beuno yn Aberriw a bu’n pregethu’r efengyl o’r llecyn paganaidd hwn. Sefydlodd Eglwys Sant Beuno filltir i lawr y lôn, ac mae croesau cerrig, colofnau, hen goed yw a choed phalalwyf trawiadol yno. Cysegrwyd mwy o eglwysi yng Nghymru i Beuno Sant na’r un sant arall, ac mae’n ymddangos mewn nifer o chwedlau o’r cyfnod hwn. Gellir cyrraedd Aberriw o Lwybr Hafren ar hyd Camlas Trefaldwyn, ac mae yno sawl caffi a thŷ tafarn braf. 

  • Abaty Ystrad Fflur

    Mae adfeilion yr abaty Sistersaidd hwn yn sefyll mewn llecyn tawel, heddychlon i’r de-ddwyrain o Aberystwyth. Credir bod Dafydd ap Gwilym wedi'i gladdu yma, ac mae plac i’w goffáu i’w weld yng nghanol plethiadau brigau ywen hynafol. Fan hyn, ysgrifennwyd llawysgrifau lu, gan gynnwys Brut y Tywysogion ym 1330, sef hanes cyntaf Cymru yn Gymraeg, yn ogystal â sawl un o geinciau’r Mabinogi.  Mae Ystrad Fflur wedi ysbrydoli rhai o awduron gorau Cymru drwy’r oesoedd, gan gynnwys Hedd Wyn, Harri Webb, Ruth Bidgood, RS Thomas, Gillian Clarke a Gwyneth Lewis. Cyn diddymu’r fynachlog ym 1539, fan hyn hefyd oedd cartref y ddysgl ddirgel a elwir yn Gwpan Nanteos. Crwydrwch drwy’r adfeilion a’r dyffryn o flodau (sef ystyr yr enw o’i gyfieithu’n llythrennol o’r Lladin), sydd bellach yng ngofal Cadw.

  • Nyfer

    Pentref tawel a phrydferth yw Nyfer (neu Nanhyfer) erbyn hyn, ond bu’n ganolfan eglwysig bwysig ers i Sant Brynach sefydlu ei fynachlog yma 1400 o flynyddoedd yn ôl. Mae rhodfa 700 mlwydd oed o goed yw yn arwain drwy fynwent hynafol Sant Brynach, ac yn eu plith yr ywen waedlyd enwog. Mae chwedlau di-rif yn ceisio egluro’r llif coch sy’n dod ohoni, gan gynnwys hanes am grogi gŵr ifanc ar gam ganrifoedd yn ôl, a’r ffaith nad oes Tywysog Cymreig yng Nghastell Nyfer gerllaw. Mae yma hefyd nifer o feini cerfiedig anhygoel, yn eu plith ddau ac arnynt arysgrifau Ogam, ynghyd â chroes Sant Brynach o’r ddegfed neu’r unfed ganrif ar ddeg. Dywedir bod cwcw gyntaf y gwanwyn yn canu o fan hyn. Cerddwch ar hyd y llwybr gerllaw Afon Nyfer i weld croes enwog y pererin uwchben y grisiau yn y graig – dyma lwybr y bererindod rhwng Treffynnon a Thyddewi. Dewis arall yw troi tua'r dwyrain i weld adfeilion hynod y castell.

    Llun - hawlfraint visitpembrokeshire 

  • Ynys Bŷr

    Gyda’i heglwysi hynafol, ei llwybrau cerdded a’i mannau picnic, mae cenedlaethau o ymwelwyr wedi mwynhau taith dros y tonnau o Ddinbych-y-Pysgod i Ynys Bŷr. Sefydlodd Sant Illtud a Sant Dyfrig fynachlog yma yn y chweched ganrif, ac mae Mynaich Sistersaidd yno heddiw, eu mynachlog hardd i’w gweld yn amlwg ar ganol yr ynys. Ewch am dro hefyd i’r hen briordy ac Eglwys Sant Illtud, un a’i thŵr siâp rhyfedd. Y tu mewn mae carreg ac arysgrif Ogam arni, yn dyddio o tua OC 500; un o’r enghreifftiau cynharaf o ysgrifennu yng Nghymru. Bu sawl ymgais ar gyfieithu'r geiriau a’r cynigion yn cynnwys 'Dyfrig', 'Illtud' a 'Iesu'. Roedd y bardd a'r arlunydd David Jones (1895-1974) yn ymwelydd cyson ag Ynys Bŷr – ystyrir ei gerdd epig In Parenthesis ymhlith gweithiau llenyddol gorau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

    Llun o Ynys Bŷr – hawlfraint Colin Bell  / Geograph
    Llun o Garreg Ogam Ynys Bŷr - hawlfraint Humphrey Bolton / Geograph

  • Eglwys Gadeiriol Tyddewi

    Yn ninas leiaf Prydain y mae un o’r eglwysi cadeiriol prydferthaf. Fe’i codwyd yn y ddeuddegfed ganrif o gerrig lliw mêl, a hynny ar safle mynachlog Dewi Sant (c. 500-589). Byddai’n denu tyrfaoedd lu, ac roedd dwy bererindod i Eglwys Gadeiriol Tyddewi gyfystyr ag un i Rufain. Sonia Rhigyfarch (1057-1099) am hanes Non, merch i uchelwr lleol yn y bumed ganrif, a mam Dewi Sant. Ar ôl cael ei threisio gan Sant, Brenin Ceredigion, llifodd goleuni drosti wrth esgor a holltodd y graig oddi tani mewn tosturi. Mae’r garreg hon bellach yn gorwedd o dan allor Capel y Santes Non. Gerllaw mae Ffynnon y Santes Non, y dywedir bod ganddi bwerau iachaol. Cyn cyrraedd, gofynnwch am fwrdd yn y Shed ym Mhorthgain, sy’n gweini bwyd yn ffres o’r môr.

  • Ogof Paviland

    Cafwyd hyd i Ddynes Goch Paviland (Pen-y-fai gan rai) yn yr ogof hon ym 1823. Roedd yr ysgerbwd o’r cyfnod Palaeolithig wedi’i gladdu gyda chasgliad o gregyn gwichiaid, ifori mamoth, a chadwyni a modrwyau o esgyrn. Roedd y bedd wedi’i orchuddio ag ocr coch ac roedd penglog mamoth ar ei ben. Yn ddiweddarach, canfuwyd mai sgerbwd gwryw 25 oed oedd yma mewn gwirionedd, a’i fod wedi cael ei gladdu tua 31,000 CC pan oedd yr ogof ar wastatir isel 70 milltir i mewn o’r môr. Efallai mai shaman oedd y Ddynes Goch – mae’r modd y mae’r bedd wedi’i drin yn anarferol o goeth i’r cyfnod.  Mae Black Apples of the Gower, nofel Iain Sinclair, yn ein dwyn ar daith ryfeddol drwy fannau dirgel Cymru, ac yn darlunio ymgais i gyrraedd yr ogof. Cyfansoddodd Menna Elfyn Y Dyn Unig yn deyrnged i'r Ddynes Goch. Pan fydd y môr ar drai, mae llwybr ar hyd yr arfordir yn arwain at yr ogof drwy Foxhole Slade. 

  • Abaty Tyndyrn

    Mae’n bosibl mai yn Abaty Tyndyrn y mae adfeilion canoloesol enwocaf Cymru, man a ddaeth yn ffasiynol ymhlith ymwelwyr yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg. Sefydlwyd yr abaty ym 1131, a syfrdanol yn wir yw ei weld yn sefyll ar odre serth Dyffryn Gwy, a’r bwâu gothig anferth yn rhoi darlun gwahanol o sawl ongl. Bu William Wordsworth (1770-1850) yma ddwywaith – unwaith ym 1793 a drachefn ym 1798. Yn y gerdd Lines Written a Few Miles above Tintern Abbey, mae’n hel atgofion am ei daith gynharach ac yn myfyrio am y pum mlynedd a aeth heibio. Mae artistiaid dirifedi eraill wedi’u hysbrydoli fan hyn hefyd, gan gynnwys yr arlunwyr Thomas Gainsborough a JMW Turner. Ar ôl chwilio drwy ffotograffau yn archif Roald Dahl yn ddiweddar, cafwyd hyd i lun o’r awdur ifanc a’i chwiorydd yn Nhyndyrn, llun nad oedd wedi gweld golau dydd o’r blaen. Cadw sydd bellach yn gofalu am y safle. 

  • Craig Rhos-y-felin, Ffynnon y Groes

    Cafodd rhai o feini gleision Côr y Cewri eu cloddio yma. Cofadail leol oeddent tua 3400 CC, cyn eu symud i Wastadedd Caersallog 500 mlynedd wedyn. Buont yn sefyll yno ar sawl ffurf cyn i’r meini siâp pedol anferth gyrraedd tua 2500 CC. Mae hyn yn golygu mai safle Cymreig yw Côr y Cewri yn y bôn – rhywbeth y mae Saethyddion Boscombe hefyd wedi’i gadarnhau. Saith o unigolion oedd y rhain a gladdwyd mewn un bedd ger Côr y Cewri tua 2300 CC. Mae’n ymddangos i’r saith gael eu geni a’u magu yn ne-orllewin Cymru, cyn teithio i Wessex rywbryd yn ystod eu hoes. Mae’r cysylltiad hwn a’r daith o’r gorllewin i gyd yn cael sylw mewn chwedlau gwerin. Ceir hanes gan Sieffre o Fynwy (c. 1100-1155) sy’n sôn am y gred bod Myrddin wedi cludo Côr y Cewri o Iwerddon. Mae olion y pileri naturiol a dorrwyd o wyneb y graig i’w gweld hyd heddiw. Gallwch fwynhau picnic ble bu iddynt wersylla 5400 o flynyddoedd yn ôl, ond dangoswch barch tuag at y safle gan ei adael yn yr un cyflwr ac yr oedd pan gyrhaeddoch.

    Lluniau - hawlfraint Adam Stanford / Aerial-Cam Ltd

  • Ynys Enlli

    Dywedir bod 20,000 o saint wedi eu claddu ar Ynys Enlli, a’r rheini’n rhannu’r ynys brydferth hon ag adar mudo, adar y pâl a morloi sy'n gorweddian ar y creigiau. Bu pererinion yn teithio yma ers y chweched ganrif, pan sefydlodd Sant Cadfan fynachlog ar yr ynys. Bu’n noddfa lenyddol ac yn ysbrydoliaeth i awduron ac artistiaid o bob math, gan gynnwys: y nofelydd a’r cerddor Fflur Dafydd (g. 1978) yn ei chyfrol Atyniad; y bardd a’r artist gweledol Brenda Chamberlain; y bardd Christine Evans; yr awdur Jon Gower; a'r bardd RS Thomas, a fyddai’n hoff o wylio'r adar yma. Ym 1953, y bardd Dilys Cadwaladr (1902-1979) oedd y ferch gyntaf i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol am ei cherdd Y Llen. Bu hi’n athrawes ar Ynys Enlli. Mae'r RSPB yn gofalu am y Warchodfa Natur Genedlaethol, a gallwch drefnu taith undydd neu logi bwythyn gwyliau ar yr ynys. Cadwch olwg am y llamhidyddion wrth groesi’r Swnt

  • Barclodiad y Gawres

    Siambr gladdu, ar ffurf cyntedd, o Oes Newydd y Cerrig yw hon, yn dyddio yn ôl i 3000 CC. Dim ond un o ddwy siambr o’r fath sy’n dal i fodoli yng Nghymru (mae’r llall ym Mryn Celli Ddu gerllaw). Ar nifer o feini’r siambr ceir addurniadau troellog, siapiau diemwnt a llinellau igam-ogam cain, a hynny mae'n debyg i gymell perlesmair shamanaidd. Wrth gloddio yma, canfuwyd olion tân, ac ar hwnnw weddillion merfog, llysywen, broga, llyffant, neidr lwyd, llygoden, chwistlen ac ysgyfarnog. Mae’r enw Barclodiad y Gawres yn deillio o chwedl am ddau gawr – gŵr a gwraig – a oedd yn cludo meini tua’r gogledd er mwyn codi cartref newydd yno. A hwythau’n flinedig a lluddedig wedi’r daith, fe welsant grydd a gofyn iddo pa mor bell oedd Môn. Mewn braw, dywedodd y crydd gelwydd, a honni eu bod filltiroedd o ben eu taith er eu bod mewn gwirionedd wedi cyrraedd. Ac anobaith yn ei llethu, gollyngodd y gawres ei cherrig – a gadael y siambr gladdu ar ei hôl. Mae modd mynd i weld y siambr drwy drefnu apwyntiad â’r sawl sy’n cadw’r allwedd yn y Wayside Stores yn Llanfaelog.

  • Ynys Llanddwyn

    Dwynwen (m. c. OC 460), merch Sant Brychan, yw nawddsantes ein cariadon. Ceir fersiwn o’i hanes gan Iolo Morganwg (1747-1826), sy’n honni iddi syrthio mewn cariad â Maelon Dafodrill, ond iddi dorri’i chalon pan ddaeth Maelon â’r dyweddïad i ben. Yn ei ddicter, trodd Duw Dafrodrill yn rhew a rhoddodd dri dymuniad i Dwynwen. Dymunodd honno ddadmer Dafodrill; y gallu i glywed gweddïau’r sawl a oedd yn glaf o gariad; a byw’n feudwy ar Ynys Llanddwyn. Yr ynys hudol hon yw un o’r llefydd mwyaf rhamantaidd yng Nghymru. Cerddwch drwy Warchodfa Natur Genedlaethol Coedwig Niwbwrch a dilyn ôl troed y pererinion a ddeuai yma a’u calonnau’n chwâl. Mae adfeilion a chroesau Eglwys y Santes Dwynwen i’w gweld o’ch blaen, lle bu’r pysgod yn y ffynnon sanctaidd yn darogan tynged cariadon. Ysbrydolodd Dwynwen farddoniaeth Dafydd Trefor a Dafydd ap Gwilym, a dethlir ei gŵyl ar 25 Ionawr bob blwyddyn.