O DDIFEROL DDIFYRRWCH

O DDIFEROL DDIFYRRWCH

...Rhaeadrau, ogofâu, llynnoedd a thonnau
watery-worlds

Places Of Interest

  • Aberaeron

    Dyma dref glan môr hardd ryfeddol, a’r tai Sioraidd sy’n wynebu’r harbwr yn rhoi lliw a sglein i’r lle. Dyma hefyd gartref mebyd y nofelydd Cynan Jones (g. 1975), awdur y mae ei waith yn darlunio cymeriadau’r cylch hwn. Mae Everything I Found on the Beach gan Jones yn olrhain digwyddiadau a phenderfyniadau anodd y mae tri dieithryn yn eu hwynebu, a’i nofel iasol, Cove, yn dilyn caiaciwr unig sy’n cael ei daro gan fellten. Cyn gadael, ewch am dro i’r Harbourmaster, hoff dafarn Jones, am ddiferyn a thamaid da i’w fwyta. O Aberaeron y daw Caryl Lewis, yr awdur sydd wedi ennill llu o wobrau, gan gynnwys gwobr Llyfr y Flwyddyn am ei nofel Martha, Jac a Sianco. Troswyd hon yn ffilm lwyddiannus i S4C. Nid nepell o Aberaeron y mae Ceinewydd, lle bu Dylan Thomas (1914-1953) yn byw yn y 1940au. Y dref bysgota brydferth hon oedd yr ysbrydoliaeth i Llareggub yn Dan y Wenallt.  

  • Y Frenni Fawr, Crymych

    Cadair Macsen oedd enw gwreiddiol y mynydd hwn, un y mae cysylltiad cryf rhyngddo â Macsen (OC 335-388) o’r Mabinogi, yn ogystal â’r Tylwyth Teg. Yn y llyfr Cambrian Superstitions ym 1831, mae William Howells, yr astudiwr llên gwerin, yn sôn am fugail ifanc a gafodd ei ddwyn ymaith gan y tylwyth teg i’w gwlad eu hunain. Roedd y Tylwyth Teg am iddo aros, ond fe’i siarsiwyd i beidio ag yfed o ffynnon benodol. A'i chwilfrydedd yn drech, ildiodd i demtasiwn, ac mewn amrantiad canfu'i hun yn ôl ar lethrau'r Frenni Fawr. Mae llwybr yn arwain hyd y mynydd gan fynd heibio i sawl beddrod o ddechrau Oes yr Efydd. Efallai mai yn un o’r rhain y mae trysor dirgel y Frenni Fawr, a hwnnw, medden nhw, yn cael ei warchod gan ysbryd milain.

  • Llyn Eiddwen

    Llyn yn yr ucheldir yw Llyn Eiddwen a rhostir o'i amgylch. Dyma darddiad afon Aeron, yr afon yr enwodd Dylan Thomas (1914-1953) ei ferch Aeronwy ar ei hôl. Yn ôl darogan Myrddin, pan sycho Llyn Eiddwen, bydd Caerfyrddin ei hun yn suddo. Efallai bod cysylltiad rhwng hyn â thraddodiad arall bod y llyn yn borth i fyd y tylwyth teg. O rwystro'r porth hwnnw, byddai’n rhaid i’r tylwyth teg droi’n ymosodol gan na fyddai dim i’w hamddiffyn mwyach. Dywedir hefyd bod y llyn yn gartref hudol i ysbryd merch ac i anghenfil, yn ogystal ag i wartheg gwyllt a ddihangai o’r dŵr pan fyddai rhywun yn tarfu arnynt. Ewch am dro i Warchodfa Natur Genedlaethol Llyn Eiddwen, sy’n lle gwych i weld llygod y dŵr, dyfrgwn ac adar dŵr.

    Llun o dyfrgi - hawlfraint Chris Denny / Geograph

  • Ffynnon y Santes Ann, Tryleg

    I’n hynafiaid, pwy a ŵyr nad oedd mannau dyfriog yn byrth i fydoedd eraill, ac mae’n bosibl iawn bod y ffynnon hon yn sanctaidd iddynt. Dywedir bod ei llwybr yn llifo o dan Gerrig Harold, y meini hirion cyfagos. Mae'r ffynnon yn enwog am ei rhinweddau iachaol, ac ymwelai pererinion â hi tan yr ail ganrif ar bymtheg. Yn draddodiadol, mae’n un o naw ffynnon sy’n tarddu o bedair nant, a’r rheini’n gyforiog o haearn. Byddai pob ffynnon yn gallu trin gwahanol afiechydon. Rhoddid cerrig mân yn y dŵr, a byddai nifer y swigod dilynol yn dangos a oedd iachâd i fod. Mae stori gan y trigolion lleol am ffermwr a gaeodd y ffynhonnau ond a’u hagorodd mewn dim wedyn ar ôl cael bygythiadau gan “hen ŵr bach rhyfedd”. Dywedir bod y tylwyth teg yn dawnsio ger y ffynnon ar nos Gŵyl Ifan, ac yn yfed dŵr o’r blodau sydd i’w canfod wedi’u gwasgaru yno bob bore’r ŵyl. Ym mhentref prydferth Tryleg yn Nyffryn Gwy hefyd y ganwyd yr athronydd Bertrand Russell (1872-1970).

     

  • Llyn Tegid

    Yn bedair milltir o hyd ac yn 40m a mwy o ddyfnder, Llyn Tegid yw llyn mwyaf Cymru, ac mae ganddo’i fwystfil ei hun: Tegi. Dyma o bosibl lle magwyd y bardd Taliesin yn y chweched ganrif. Mae fersiwn chwedlonol Elis Gruffydd (1490-1552) o fywyd Taliesin yn awgrymu ei fod yn was i’r cawr Tegid Foel, gŵr y ddewines Ceridwen. Mae’r llecyn lle safai llys Tegid Foel bellach o’r golwg o dan ddŵr y llyn ar ôl cael ei foddi’n sydyn. Yn ôl y trigolion lleol, mae goleuadau’r llys i’w gweld yn fflachio o dan y wyneb ar nosweithiau olau leuad. Ceir nifer o lwybrau o amgylch y llyn, ac mae Bala Adventure and Watersports ar y lan yn cynnig gweithgareddau antur o bob math. Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu am Lyn Tegid.

  • Ffynnon Gwenffrewi

    Yn y seithfed ganrif y byrlymodd y ffynnon sanctaidd hon gyntaf pan godwyd Gwenffrewi o farw’n fyw gan ei hewythr, Beuno Sant (OC 545-640). Digwyddodd hyn ar ôl ymosodiad milain gan Caradog, a dorrodd ei phen â chleddyf. Aeth Beuno Sant ati i droi Caradog yn bwll o ddŵr, a suddodd hwnnw i’r ddaear. Gofalodd Gwenffrewi am y ffynnon sanctaidd wedyn tan y daeth yn abades maes o law. Mae pererinon wedi ymweld â’r dŵr iachaol fan hyn ers y ddeuddegfed ganrif, gan gynnwys Harri V ym 1416 (i ddiolch am Agincourt), James II a’r Frenhines Fictoria. Ceir cyfeiriad at Dreffynnon yn y gerdd epig, Sir Gawain and the Green Knight, un o’r chwedlau Arthuraidd mwyaf adnabyddus. Gall pererinion heddiw barhau i ymdrochi yn y pwll mawr y tu allan, yn ogystal ag ymweld â’r gysegrfan a Chapel y Santes Gwenffrewi sydd yng ngofal Cadw.

  • Cwm yr Eglwys

    Mae pentref pysgota bychan Cwm yr Eglwys wedi gorfod ymdopi ers canrifoedd â ffyrnigrwydd Môr Iwerddon. Saif ar ochr ddwyreiniol Ynys Dinas, sy’n gael ei galw’n ynys gan fod nant rhyngddi hi a’r tir mawr. Difrodwyd Eglwys Brynach o’r ddeuddegfed ganrif gan storm enbyd ym 1859, a dim ond rhan o’r clochdy a’r mur dwyreiniol sydd ar ôl bellach, yn bwrw trem dros erchwyn y traeth. Dywedir bod twneli ac ogofâu cudd y smyglwyr i'w cael rif y gwlith yn y clogwyni cyfagos, er mor anodd eu cyrraedd. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gofalu am y lle erbyn hyn, ac mae llwybr tarmac sy’n addas i bramiau a chadeiriau olwyn yn arwain at gildraeth arall – Pwllgwaelod. Gallwch ddychwelyd yn syth i Gwm yr Eglwys, neu ddringo Pen y Fan i weld rhai o’r golygfeydd gorau o arfordir Penfro.

    Llun o Ynys Dinas - hawlfraint Joe Cornish / Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

  • Llyn y Fan Fach

    Y rhewlyn hwn ar odre’r Mynydd Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd cartref Merch Llyn y Fan Fach. Merch brydferth neilltuol oedd hon, a phriododd fab fferm lleol gyda’r rhybudd y byddai hi a holl anifeiliaid y fferm yn dychwelyd i’r llyn pe bai’r bachgen yn ei tharo deirgwaith. A dyna ddigwyddodd. Serch hynny, o’r ddau hyn y tarddodd y llinach enwog honno o iachawyr, Meddygon Myddfai. Mae rhai o’u meddyginiaethau llysieuol hynafol, sy’n dyddio yn ôl i’r unfed ganrif a’r ddeg a’r ddeuddegfed ganrif, wedi goroesi hyd heddiw yn Llyfr Coch Hergest. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg y lluniwyd hwn, ac mae’n un o’n llawysgrifau canoloesol pwysicaf. Heddiw, mae Llyn y Fan Fach yn lle gwych i nofio yn y gwyllt.

  • Foel Las, Penmaenmawr

    Yn y chweched ganrif, dywedir bod teyrnas o’r enw Tyno Helig yn sefyll yn yr iseldir i’r gorllewin o’r Gogarth. Fe’i rheolid o’i lys gan y Tywysog Helig ap Glannawg. Mae un chwedl yn sôn am Gwendud, merch hynod brydferth Helig, ond un greulon ar yr un pryd. Gwrthododd Gwendud briodi ei dyweddi, Tahal, mab i uchelwr o Eryri, oni fedrai ddod o hyd i goler aur i brofi’i statws. Lladdodd Tahal uchelwr o’r Alban er mwyn dwyn ei goler, a phriododd y ddau. Y noson honno, ymddangosodd ysbryd yr Albanwr marw, a melltithio’r teulu. Mewn dim o dro, boddwyd Tyno Helig gan y môr. Hyd heddiw, Llys Helig yw’r enw ar ddarn o dir creigiog oddi ar yr arfordir ym Mhenmaenmawr. Dringwch Foel Las o Fwlch Sychnant i weld golygfeydd godidog ar draws Bae Conwy tuag at hen deyrnas Tyno Helig dan y lli.

  • Dderwen Gam, Croes Millin

    Ar lannau afon Cleddau Ddu saif y Dderwen Gam – hen goeden gnotiog ac iddi gysylltiadau llenyddol a chelfyddydol o’r iawn ryw. Byddai Waldo Williams (1904-1971) yn arfer aros y nos yng Nghapel Croes Millin gerllaw fel y gallai gerdded y llwybr i weld y wawr yn torri o dan ei brigau. Dathlodd Waldo’r olygfa yn Y Dderwen Gam: cerdd brotest yn erbyn cynlluniau i foddi’r ardal, ond y rhoddwyd y gorau iddynt maes o law. Dilynwch gamau Waldo a mwynhau golau rhyfeddol yr aber o’r fainc, cyn bwrw yn eich blaenau i Gastell Pictwn i ymweld ag Oriel Gelf Picton lle cynhelir arddangosfeydd celf rheolaidd.

  • Ffynnon Eilian, Amlwch

    Ar odre darn creigiog o dir, saif Ffynnon Eilian. Fel y rhan fwyaf o ffynhonnau sanctaidd, credid bod iddi rinweddau iachaol a byddai'n denu ymwelwyr ar ddiwrnod Sant Eilian. O’r ail ganrif ar bymtheg, dechreuodd Eglwys Sant Eilian gerllaw ledaenu’r chwedl bod y ffynnon wedi byrlymu mewn man a felltithiwyd gan y sant pan laddwyd ei garw dof gan filgi. Wedi hynny, magodd Ffynnon Eilian enw fel ffynnon felltith hefyd, un y gellid ei defnyddio i fwrw anlwc ar eraill. Byddai ymwelwyr yn talu yn yr eglwys am swyn y gellid ei daflu i’r dŵr. Yn ôl y sôn, daeth yr eglwys yn gyfoethog ar gorn hynny, a phrynodd ddwy fferm gan ddosbarthu’r elw i’r tlodion. O’r ddeunawfed ganrif, fel ffynnon felltithio y câi ei hadnabod, a disgrifiwyd hi yn British Goblins (1881) fel ffynnon fwyaf arswydus Cymru.

    Lluniau o Ffynnon Eilian - hawlfraint Wellhopper

  • Borth a Thraeth Ynys-las

    Pan fydd y môr ar drai, mae olion hen goedwig i’w gweld yn nhywod y Borth ac Ynys-las yng Ngheredigion. Cerddwch drwy’r boncyffion o ddiwedd Oes yr Efydd, yn goed derw, helyg, bedw a chyll, a’r rheini’n amlycach bellach ar ôl stormydd diweddar. Yn ôl y traddodiad, dyma ffin Cantre’r Gwaelod – y deyrnas enwog a foddwyd gan donnau Bae Ceredigion. Dywedodd y bardd J.J Williams (1869-1954) am y lle chwedlonol hwn: “Hyd fedd mi gofia’r tywod ar lawer nos ddi-stŵr, a chlychau Cantre’r Gwaelod yn canu dan y dŵr”. Ewch am dro hefyd i Gors Fochno yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi gerllaw. Dyma leoliad A String in the Harp gan Nancy Bond (g. 1945) – nofel ffantasi am deithio drwy amser sy’n gysylltiedig â Taliesin, y bardd o’r chweched ganrif. Mae’n boblogaidd iawn yn yr Unol Daleithiau. Mae hefyd yn ymddangos yn sawl golygfa yn y gyfres deledu Y Gwyll.

  • Pistyll Rhaeadr

    Mae chwedl Draig Llanrhaeadr ym Mhistyll Rhaeadr yn un o’r goreuon i’r rhai sy’n hoff o glywed am y da yn trechu’r drwg. Arferai neidr adeiniog o’r enw Gwybr fyw yn y llyn uwch y rhaeadr a byddai honno’n arswydo’r pentrefwyr a oedd yn byw islaw. Yn y pen draw, twyllodd y bobl leol Gwybr a gwneud iddi dybio'i bod yn gweld draig arall. Pan ymosododd Gwybr arni, aeth yn sownd ar bigau cudd, gan roi heddwch i’r trigolion o’r diwedd. Pistyll Rhaeadr yw rhaeadr unllen fwyaf y Deyrnas Unedig, yn tywallt 80m i’r dŵr. Yn wir, mae’n uwch o lawer na’r Niagra Falls. Mae’n lle hudol bob adeg, ac ar yr achlysuron prin hynny pan fydd yn rhewi’n gorn, yn ddigon i godi ias fendigedig.  

    Llun o ben y Rhaeadr – hawlfraint Chris Downer

  • Ffynnon Gelynnin, Llechwedd

    Ffynnon sanctaidd yw Ffynnon Gelynnin; fe ddewch o hyd iddi ym mynwent Eglwys Llangelynnin. Eglwys yw hon sy’n dyddio o’r ddeuddegfed ganrif ond mae’r ffynnon yn hŷn o lawer na hi. Fe’i defnyddiwyd i fedyddio yn ogystal ag i ddarogan y dyfodol. Yn ôl y traddodiad lleol, arferai pobl roi dillad plant sâl ar y dŵr: byddai’r plentyn y byw pe bai’r rheini’n arnofio, yn marw be baent yn suddo. Mae’n debygol mai safle o’r chweched ganrif yw hwn, pan sefydlodd Sant Celynnin ganolfan grefyddol yma. Celynnin oedd mab y Tywysog Helig ap Glannawg o Dyno Helig – y deyrnas yn yr iseldir i’r gorllewin o’r Gogarth a foddwyd gan fôr Bae Conwy. Ewch i Ffynnon Gelynnin ar hyd un o’r llwybrau hynafol niferus sy’n cysylltu Dyffryn Conwy â’r penrhyn.

  • Llyn yr Afanc, Betws-y-Coed

    Arferai Afanc cythreulig beri arswyd yn y llyn hardd hwn yn afon Conwy. Math o grocodeil oedd yr anghenfil yn ôl rhai; afanc anferth neu gorrach meddai eraill. Dywedid ei fod yn ymosod ar unrhyw un a fyddai’n ddigon gwirion i fentro i’r dŵr cyn eu llyncu’n fyw. Yn wir, roedd yr Afanc, drwy chwipio’i gynffon, wedi peri cymaint o lifogydd nes boddi holl bobl Prydain, gan adael dim ond dau ar ôl: Dwyfan a Dwyfach. Dywed traddodiad arall i’r bobl leol ddefnyddio ychen i lusgo’r Afanc i Lyn Glaslyn, ar ôl i ferch ifanc ganu i’w ddenu i’r lan. Perodd yr ymdrech honno i lygaid yr ychen lamu o’i ben, ac i’r dagrau a lifodd wedyn ffurfio Pwll Llygad yr Ych. Gan gymryd eich bod chi’n hyderus fod y cythraul wedi gadael, mae Llyn yr Afanc yn lecyn hyfryd i nofio ac mae wedi ei leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

    Lluniau - hawlfraint Vivienne Rickman-Poole