Cymru Ryfedd a Chyfareddol

Cymru Ryfedd a Chyfareddol

weird-wonderful-wales

Taith chwe cham yw Cymru Ryfedd a Chyfareddol, honno’n edrych ar ein mythau a’n chwedlau yng nghwmni’r arlunydd Pete Fowler, sy’n fwyaf enwog am ei waith gyda'r Super Furry Animals, ynghyd ag artistiaid gwadd. Dan arweiniad egin arlunwyr ac aelodau’r gymuned, bydd pob rhan o’r daith yn defnyddio hanesion a straeon gwerin lleol yn ysbrydoliaeth ar gyfer murluniau a gweithiau ysgrifenedig newydd. Bydd y rhain yn cael eu dangos yn y safleoedd canlynol yn ystod 2019.

Galeri Caernarfon: 1-14 Gorffennaf
Castell Caerffili: 1-2 Awst
Plas Mawr, Conwy: 5-30 Awst
Castell Oxwich: 1-28 Medi
Caiff y darnau eu dychwelyd i’r lleoliadau lle ddeilliodd y gwaith a’u harddangos yn barhaol o’r 1af o Hydref ymlaen.

Penllanw taith Cymru Ryfedd a Chyfareddol oedd gosod murlun chwedlonol ar y tŵr dŵr eiconig yng Ngorsaf Drên Caerdydd Ganolog, a ddarluniwyd gan Pete Fowler.

Places Of Interest

  • Y Tŵr Dŵr, Gorsaf Drenau Ganolog Caerdydd

    Mae’r murlun hynod hwn gan Pete Fowler wedi'i ysbrydoli gan rai o straeon rhyfedd a gwych Cymru, ac wedi’i osod ar y Tŵr Dŵr yng Ngorsaf Drenau Rheilffordd y Great Western – strwythur rhestredig gradd II sy’n dyddio’n ôl i 1932. Mae’r murlun yn cynnwys darluniau sydd wedi’u seilio ar y Mabinogi: dyna ichi Bendigeidfran – Brenin Prydain – a frwydrodd yn erbyn y Gwyddelod. Er torri'i ben, bu'i wŷr yn sgwrsio â hwnnw am wyth deg saith mlynedd. Dyna ichi Blodeuwedd, y ferch a gonsuriwyd o flodau gan ddau ddewin yn wraig i Lleu, ond a drowyd drachefn yn dylluan yn gosb am gynllwynio i ladd ei gŵr. A dyna ichi’r dduwies Rhiannon, sy’n marchogaeth yn well ac yn gryfach na marchogion gorau Pwyll, Pendefig Dyfed. Mae yma’r carw sy’n cael ei ladd gan helgwn claerwyn, dychrynllyd Arawn – Brenin Annwn (yr Arallfyd). Ac mae yma’r frân, sy’n ymddangos drwy gydol y ceinciau fel arwydd o farwolaeth.

    Fideo gan Mark James.


    Printiadau Giclée

    Mae argraffiad cyfyngedig (200) o Furlun Tŵr Dŵr Caerdydd, wedi eu harwyddo gan Pete Fowler, wedi’w comisiynu. Maent ar gael heb eu fframio neu neu gyda ffrâm, mewn maint 1200 mm x 400 mm. Bydd unrhyw elw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynnal gweithdai creadigol mewn cymunedau ymylol.

    Lluniau: Heb ei fframio 1Heb ei fframio 2Heb ei fframio 3

    Heb ei fframio - £100 + £8 cludiant      Gostyngiad o 10% dros y ‘Dolig - £90 + £8 p&p – gorffen 12 Tachwedd 2019
    Mewn ffrâm - £150 + £15 cludiant        Gostyngiad o 10% dros y ‘Dolig - £135 + £8 p&p – gorffen 12 Tachwedd 2019

    Mae modd archebu isod. Byddwn yn postio unrhyw archebion o fewn 1 wythnos o dderbyn eich archeb. Nodwch gyfeiriad cludo wrth archebu os gwelwch yn dda. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at post@llenyddiaethcymru.org gyda ‘Murlun Tŵr Dŵr Caerdydd’ fel pwnc.

    *mae'r cyfraddau postio a phacio a nodir uchod ar gyfer cludiant i’r DU yn unig. Ar gyfer cludiant rhyngwladol, e-bostiwch post@literaturewales.org am ddyfynbris CYN prynu print. 

    Opsiynau
    Neges gyda'r anrheg (opsiynol)
    Cyfeiriad cludo
  • Castell Caerffili

    Codwyd Castell Caerffili gan Gilbert de Clare (1243 – 1295) er mwyn rheoli Morgannwg a rhoi diwedd ar ymgais Llewelyn ap Gruffudd (1223-1282) i ehangu ei diriogaeth. Dywedir bod ysbryd Alice o Angouleme (Boneddiges Werdd Caerffili), sef gwraig de Clare, yn crwydro’r castell, a hithau wedi marw o dorcalon ar ôl i de Clare ladd ei chariad, Gruffudd. Mae ei gwisgoedd gwyrdd yn gwatwar cenfigen ei gŵr. Yn ôl y sôn, mae Gwrach y Rhibyn, a’i llygaid duon, ei chrafangau a’i hadenydd od yn prowlan y tir corsiog o gylch y castell, gan udo yn y niwl. Mae chwedlau eraill o’r sir yn cynnwys Cwcwod Rhisga – y llysenw ar bobl y dref honno. Roedden nhw’n credu bod cwcwod yn dod â haul yn eu sgil, a chan ddymuno tywydd braf drwy'r flwyddyn, dyma dyfu cloddiau uchel ond heb lwyddo i ddal yr un gwcw. Mae Melltith Pantannas i'r gogledd o Gaerffili yn adrodd hanes brenin sy’n melltithio Fferm Pantannas ar ôl i’r ffermwr lleol geisio cael gwared ar dylwyth teg o’i dir. Denwyd Madoc, ŵyr y ffermwr, i ogof gan gerddoriaeth iasol rai wythnosau cyn ei briodas. Wrth gamu o'r ogof, dysgodd iddo fod i ffwrdd am 100 mlynedd a chafodd ei droi'n llwch gan y sioc.

    Darlun - hawlfraint Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru
    Darn ysgrifenedig - hawlfraint Patrick Jones / Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru

  • Gwaith Haearn Blaenafon

    Sefydlwyd Gwaith Haearn Blaenafon yn 1789 a hwn oedd y safle aml-ffwrnais cyntaf a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer prosesau mwyndoddi a bwerid gan lo a stêm, a'r cyfan yn arloesol. Roedd hyn yn galluogi defnyddio mwyn haearn o ansawdd gwael, gyda chynnwys sylffwr uchel, ac mewn dim o dro lledaenodd y dechnoleg hon i’r pedwar ban. Mae mythau o Dor-faen yn cynnwys Gwynllyw Filwr, a oedd yn fôr-leidr ar afon Gwy tan iddo freuddwydio am darw du a seren wen ar ei dalcen. Daeth o hyd i'r tarw hwnnw yn sefyll ar Stow Hill. Gan teimlo’i fod wedi’i gosbi, edifarhaodd a sefydlu Eglwys Gadeiriol Sant Woolo. O dan Dwmbarlwm, sef bryn ger Cwmbrân, mae trysor cuddiedig a bydd heidiau o wenyn a gwenyn meirch yn ymladd uwch ei ben yn rheolaidd. Arferai Llys Barn fod yno a châi’r euog eu taflu i lawr y rhiw i’w marwolaeth. Roedd y Bwca, sef coblynnod blewog direidus, yn byw dan ddaear yn fan hyn. Yn ôl y sôn, cafodd Cymru ei gwladychu gan y Bwca cyn i bobl ddod yma i fyw, ac roedden nhw’n ysbrydoliaeth i gorachod JRR Tolkien (1892-1973) a ‘Children of the Forest’ George RR Martin (1948-). Dysgodd y Bwca bobl sut i gloddio a bydden nhw’n aml yn chwarae triciau – yn syth cyn cwymp, fe allwch eu clywed nhw’n curo ar waliau’r gwaith. Yn y Mabinogi, roedd Teyrnon yn arglwydd ar Went Is Coed (sef y gwastatir yn ne Coed Gwent). Daeth o hyd i Pryderi’n faban ar ôl torri braich crafanc anferth a geisiodd ddwyn ei ebol.

    Darlun - hawlfraint Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru
    Darn ysgrifenedig - hawlfraint Jonathan Edwards / Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru

  • Castell Cydweli

    Y Normaniaid a gododd Gastell Cydweli ac ymosodwyd arno droeon gan luoedd Cymru. Mae cysylltiad agos rhyngddo a’r Dywysoges Gwenllian ferch Gruffydd (1100-1136), a briododd Gruffydd ap Rhys Tewdwr (1081-1137). Arweiniodd Gwenllian fyddin y Deheubarth mewn cyrch ar y castell, ond fe’i lladdwyd gerllaw ym Maes Gwenllian. Am sawl blwyddyn, gwelid menyw yno'n chwilio am ei phen toredig. Mae stori arall o Sir Gâr yn sôn am goeden (Derwen Myrddin) a arferai dyfu yng Nghaerfyrddin: pan ddisgynnai honno, yna byddai’r dref hithau’n syrthio. Pan gafwyd gwared â gweddillion pydredig y goeden hynafol o’r diwedd ym 1978, dioddefodd Caerfyrddin o’r llifogydd gwaethaf ers cyn cof. Yn Llyn y Fan Fach yr oedd cartref Merch y Llyn, a briododd â ffermwr lleol. Eu meibion – Meddygon Myddfai – oedd y cyntaf o sawl cenhedlaeth o iachawyr a pherlysieuwyr arbenigol. Yn y Mabinogi, mae’r Twrch Trwyth, sef baedd a felltithiwyd, yn achosi dinistr mawr ar draws Sir Gâr, gyda Chulhwch a’r Brenin Arthur yn ei ymlid mewn ymgais i gyflawni un o'r deugain o heriau cynbriodasol a osodwyd gan Ysbaddaden, tad Olwen, dyweddi Culhwch. 

    Darlun - hawlfraint Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru
    Darn ysgrifenedig - hawlfraint Aneirin Karadog, Bethan Hindmarch, Emily Blewitt, Miriam Elin Jones and Keira Spencer / Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru

  • Castell Oxwich

    Plasty Tuduraidd caerog yw Castell Oxwich, a godwyd ar safle castell cynharach. Gerllaw, dywedir i Gastell Pennard gael ei godi dros nos gan ddewin a oedd yn wynebu ymosodiad gan y Normaniaid. Bu’r tenant, yr Arglwydd Rhys ap Iestyn, yn bygwth tylwyth teg a fu’n dawnsio ar noson ei briodas. Wedi’u cynddeiriogi, codwyd mynydd o dywod ganddynt yn Iwerddon a gorchuddio’r castell â’r twyni sy’n dal o'i amgylch heddiw. Roedd yr arfordir o’r Mwmbwls i Gŵyr yn arfer bod dair i bum milltir allan yn y môr. Yn y tir gwyrdd rhwng y ddau yr oedd Coed Arian, a hen lwybr meirch anghofiedig yn arwain o Gastell Pen-rhys i Abaty Margam. Gorchuddiwyd hwn gan sawl storm ffyrnig, ac mae pysgotwyr yn sôn am weld adeiladau o dan y dŵr ac am ddod o hyd i weddillion ceirw, baeddod a hyddod. Mae mythau eraill o’r sir yn cynnwys Coeten Arthur ger Reynoldston: carreg fechan a dyfodd drwy hud a lledrith pan daflwyd hi gan y Brenin Arthur. Dywedir bod y garreg yn sychedig a'i bod yn yfed o dro i dro o nant leol. Yn ôl yr hanes, sefydlwyd Abertawe gan y Brenin Llychlynnaidd, Sweyn Forkbeard (OC 960 – 1016) a dywedir mai oddi yno y daw’r enw ‘Swansea’ ('Sweyn's Island’). Mae hwnnw wedi’i gladdu rhwng y ddwy feddrod a gaiff eu hadnabod fel 'Sweyn Howes’.

    Darlun - hawlfraint Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru
    Darn ysgrifenedig - hawlfraint Rhys Milsom / Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru

  • Plas Mawr, Conwy

    Plasty yng nghanol y dref o gyfnod Elisabeth yw Plas Mawr, a hwnnw wedi’i godi rhwng 1576 a 1585. Daliodd pysgotwyr fôr-forwyn yn aber afon Conwy a’i dangos i’r byd ar betws yn y dref. Wrth iddi ddechrau mygu, bwriodd felltith ar bobl ac adeiladau Conwy – yn yr union fan lle llosgodd Neuadd y Dref a llyfrgell yn ddiweddarach. Ar y naill achlysur a'r llall, roedd chwerthiniad y fôr-forwyn i'w glywed yng nghanol y fflamau, ac fe'i gelwir yn Felltith y Fôr-Forwyn. Ymhellach i lawr Dyffryn Conwy mae Llansanffraid, lle rhoddwyd Gwen Ferch Ellis (1542-1591) ar brawf am fod yn wrach. Fe’i cyhuddwyd o fwrw melltith ar gartref Thomas Mostyn, ac fe’i crogwyd maes o law yn sgwâr y dref yn Ninbych. Mae straeon eraill o’r sir yn cynnwys hanes Llyn yr Afanc, sef llecyn ar Afon Conwy lle’r oedd sarff ddieflig yn byw. Yn ôl ar yr arfordir, o dan y dŵr, y mae tiroedd Tyno Helig, rhwng y Gogarth a Bangor. Cafodd y tiroedd hyn eu boddi gan ysbryd pennaeth un o lwythi’r Alban a lofruddiwyd gan Tathal, y barwn di-nod, a oedd â’i lygaid ar goler aur hardd y pennaeth. Roedd Gwendud, merch ffroenuchel y Tywysog Helig, wedi gwrthod priodi Tathal tan y byddai ganddo well statws.

    Darlun - hawlfraint Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru
    Darn ysgrifenedig - hawlfraint Eluned Gramich / Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru

  • Castell Caernarfon

    Codwyd Castell Caernarfon gan Edward y 1af o Loegr (1239-1307) yn ystod ei goncwest digyfaddawd o Gymru. Mae’r mythau o Wynedd yn cynnwys hanes Dinas Emrys, lle ceisiodd y Brenin Gwrtheyrn godi castell. Roedd y waliau’n dal i gwympo o hyd, a daeth Myrddin Emrys o hyd i lyn tanddaearol lle roedd dreigiau coch (Brythonaidd) a gwyn (Sacsonaidd) yn ymladd. Dihangodd Gwrtheyrn i ddyffryn arfordirol (a enwyd yn Nant Gwrtheyrn wedyn), a chartref Rhys a Meinir. Ar fore’u priodas, dilynodd Meinir y traddodiad a mynd i guddio, ond collodd y seremoni a threuliodd Rhys sawl blwyddyn yn chwilio amdani. Un dydd trawyd coeden wag gan fellten a disgynnodd ysgerbwd Meinir ohono. Mae chwedl arall o Wynedd yn cynnwys stori Gelert, ci ffyddlon Llywelyn Fawr (1172-1240), a achubodd faban y tywysog rhag blaidd ond a laddwyd cyn y daethpwyd o hyd i’r mab yn ddiogel. Draw yn ardal Llŷn, cadwodd y Brenin March ab Meirchion y ffaith fod ganddo glustiau ceffyl yn gyfrinach i bawb ond ei dorrwr gwallt, a sibrydodd y peth wrth y ddaear. Tyfodd cyrs yn y fan honno, ac wedi i bibydd eu defnyddio ar gyfer ei bib newydd, byddai honno’n canu: “Mae clustiau march gan March ab Meirchion” drosodd a throsodd tan ddysgodd March allu byw â’i glustiau.

    Darlun - hawlfraint Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru
    Darn ysgrifenedig - hawlfraint Llio Maddocks, Nigel Stone, Denise Baker, Roisin McClearn, Amy Briscoe, John Sherlock & Sophie McKeand / Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru