GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN

GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN

... Mythau i’ch synnu a’ch rhyfeddu
folklore-and-tradition

Places Of Interest

  • Traeth Aberbach, Granston

    Ar wahân i fab Arianrhod, Dylan Eil Don, sy’n ymddangos ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, cymeriadau prin yw morforynion yn chwedlau Cymru. Serch hynny, mae hanes lleol am ffermwr a ddaeth ar draws un o ysbrydion y môr yn ei chwrcwd ar greigiau Traeth Aberbach. Llwyddodd i fynd yn ddigon agos ati i'w chyffwrdd, ac aeth â hi i Fferm Treisyllt, a'i charcharu yno. Y noson honno, deffrodd i'w chlywed yn canu'n gwynfanus, yn galw ar ei theulu i'w hachub. Dihangodd ar ffurf cysgod llwyd, gan ymdebygu i'r morloi lleol, a thyngodd na châi’r un plentyn ei eni yn y ffermdy – proffwydoliaeth a wireddwyd tan ganol yr ugeinfed ganrif. Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n gofalu am Draeth Aberbach ac mae modd cyrraedd yno drwy fynd i ben draw'r lôn fach sy'n mynd heibio i Felin Tregwynt – y felin wlân enwog sy'n gwneud carthenni i’w gwerthu ym mhedwar ban byd. Mae'r felin ar agor i ymwelwyr ac mae siop rhoddion yno hefyd.

    Llun o Draeth Aberbach - hawlfraint Alan Hughes / Geograph

  • Castell Sycharth

    Un o gartrefi Owain Glyndŵr (1359-c.1416) yw Sycharth. Un o arwyr eiconig hanes Cymru yw Owain a'r Cymro olaf i ddal teitl Tywysog Cymru. Ac yntau'n un o ddisgynyddion Llywelyn Fawr ac yn gyn-filwr dan Goron Lloegr, arweiniodd Glyndŵr wrthryfel 1400-1410 yn erbyn teyrnasiad Lloegr ar ôl anghydfodau am golli tir a grym. Ymhlith yr hanesion am y Tywysog, mae sôn am ymddangosiad comed enfawr ym 1402. Tybiwyd bod hwn yn darogan buddugoliaeth i Glyndŵr maes o law. Yn anffodus, ni wireddwyd y broffwydoliaeth. Llwyddodd i ddianc rhag y Saeson, ond nid oes neb yn gwybod ymhle y cafodd ei gladdu. Serch hynny, mae un chwedl yn dweud y bydd yn atgyfodi ryw ddydd, pan fydd Cymru'n wynebu bygythiad mawr arall. Mae Sycharth yn enghraifft wych o gastell mwnt a beili ac fe ganodd Iolo Goch (1320-1398) fawl iddo cyn dechrau gwrthryfel Glyndŵr. Mae Owain Glyndŵr yn dal i ysbrydoli llawer o awduron cyfoes yng Nghymru.

  • Gwales (Grassholm)

    Rhyw un filltir ar ddeg oddi ar arfordir Penfro, un o warchodfeydd yr RSPB yw Gwales (Grassholm) ac yma mae’r unig gytref o fulfrain gwynion yng Nghymru. Ni chaniateir i neb lanio ar yr ynys oherwydd bod cynifer o fulfrain yn nythu yma. Mae rhai'n dweud bod cysylltiad rhwng yr ynys hon a Gwales, ynys chwedlonol y Mabinogi. Yn yr Ail Gainc, mae castell ysblennydd ar Ynys Gwales lle y llwyddir yn rhyfeddol i gadw pen y cawr Bendigeidfran yn fyw ar ôl ei ddienyddio, a hynny am bedwar ugain o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae ei gydwladwyr, yr unig rai sydd wedi llwyddo i oroesi'r frwydr erchyll yn Iwerddon, yn eu hanwybodaeth, yn gwledda heb boen yn y byd. Gallwch deithio o amgylch Gwales ar gwch a rhyfeddu at y byd arall cyfriniol hwn.

    Llun o Gwales - hawlfraint Dave Challender

  • Pennant Melangell

    Yn y seithfed ganrif, dihangodd y Santes Melangell, merch i un o Frenhinoedd Iwerddon, rhag priodas a oedd wedi'i threfnu ar ei chyfer yn groes i'w hewyllys, ac aeth i fyw ymhell o bob man yng Nghwm Pennant. Bu'n byw yno'n feudwy am bymtheng mlynedd, ac un diwrnod, fe roddodd noddfa i ysgyfarnog rhag cŵn hela Brochwel Ysgithrog, Tywysog Powys. Ciliodd y cŵn, ac wrth weld harddwch a duwioldeb Melangell, syfrdanwyd Brochwel a rhoddodd y dyffryn iddi'n lloches am byth. Sefydlodd cymuned o leianod yma, ac yn yr eglwys a godwyd ym 1160, mae ei chreiriau i'w gweld o hyd. Erbyn heddiw, mae'r lle'n ffynnu fel canolfan iachau a chwnsela. Cewch grwydro o amgylch yr eglwys a'r ganolfan a dilyn trywydd y llwybrau drwy’r coed heibio i’r nentydd a oedd mor gyfarwydd i’r Santes Melangell.

  • Twmbarlwm

    Mae Twmbarlwm (neu'r Twmp) ger Cwmcarn 500 metr uwchben lefel y môr ac oddi yno cewch olygfeydd ysblennydd o Aber Hafren. Mae'n gyforiog o hanes a chwedlau. Ym mhen draw crib Mynydd Henllys y mae Twmbarlwm ac mae'r elfen 'llys' yn yr enw mae'n debyg yn cyfeirio at y llys a oedd yn y gaer yn ystod Oes yr Haearn – caer a oedd yno cyn codi'r castell mwnt a beili Normanaidd. Wrth ichi hel eich traed at y garnedd a godwyd ddechrau Oes yr Efydd, ger y brig a'r mwnt, efallai y gwelwch chi'r fan lle y claddwyd cawr (corff Bendigeidfran o'r Mabinogi efallai) a rhywfaint o drysor. Yn ôl pob sôn, mae’r rhain yn cael eu gwarchod gan haid o wenyn. Ac yn wir, yn ystod y 1860au, gwelwyd haid enfawr o wenyn a chacwn yn ymaflyd â’i gilydd uwchben Twmbarlwm. Weithiau, maen nhw’n dweud bod cerddoriaeth danddaearol, ryfedd a hudolus yn dod o’r bryn. Mae gwybodaeth am daith gerdded i'r Twmp ar gael yng Nghanolfan Ymwelwyr Coedwig Cwmcarn.

  • Y Royal Oak, Abergwaun

    Roedd tref hanesyddol glan môr Abergwaun yn gartref i Jemima Nicholas (1750-1832) . Menyw leol a oedd yn ddigon i godi arswyd ar neb oedd Jemima ac ym 1797, a hithau ar ei phen ei hun a dim ond picwarch yn arf, dywedir iddi gipio dwsin o filwyr Ffrainc oedd yn ymosod ar y dref. Ildiodd  y Ffrancwyr yn fuan wedyn a llofnodwyd y cytuniad heddwch yn nhafarn y Royal Oak lle'r oedd pencadlys yr Arglwydd Cawdor, cadlywydd lluoedd Prydain ar y pryd. Adroddir hanes rhyfeddol Brwydr Abergwaun (rhan o'r goresgyniad diwethaf gan bŵer tramor ar dir Prydain) mewn tapestri anhygoel 30 metr o hyd sydd i’w weld yn Neuadd y Dref. Daeth Jemima yn arwres yng Nghymru a rhoddwyd pensiwn am oes iddi – mae ei bedd ym mynwent yr eglwys dros y ffordd. Gallwch ddarllen ei hanes yn y nofel Jemima Nicholas: Arwres Abergwaun gan Siân Lewis (g. 1945).


  • Castell Coch

    Erbyn heddiw, castell stori tylwyth teg yw Castell Coch, ond roedd caer yma yn yr oesoedd canol, a hwnnw, yn ôl pob sôn, wedi’i chodi gan y bonheddwr Ifor Bach. Pan fu farw Ifor, dywedid iddo gael ei gladdu'n ddwfn y tu mewn i'r castell mewn siambr gudd. Roedd arno ofn y byddai rhywbeth yn tarfu arno yn y byd nesaf, ac felly, yn ôl y chwedl, penderfynodd droi dau o'i ddynion yn eryrod o garreg, a'u gosod wrth fynedfa'i feddrod i'w warchod hyd byth. Pan geisiodd dau leidr fynd i mewn i'w siambr, daeth y ddau eryr yn fyw ar amrantiad a’u hel oddi yno. Mae gwaddol Ifor yn fyw o hyd yng Nghaerdydd, a'i enw ar y clwb nos poblogaidd, Clwb Ifor Bach. Cadw sy’n gofalu am Castell Coch.

  • Nant Gwrtheyrn

    Yma, dan glogwyni unig yr arfordir, mae lleoliad un o straeon caru mwyaf torcalonnus Cymru. Roedd Rhys a Meinir wedi'u magu yn y Nant ac yn gariadon ers dyddiau mebyd. Ar fore eu priodas yn Eglwys Clynnog, dilynodd Meinir yr hen draddodiad, ac aeth i guddio rhag y gwesteion. Serch hynny, trodd chwarae'n chwerw, wrth i’w ffrindiau, ei theulu a Rhys chwilio'n wyllt amdani ond roedd y cyfan yn ofer. Bu Rhys yn chwilio'n ddyfal am fisoedd, nes i fellten un noson stormus hollti'r dderwen yr eisteddai dani a datgelu sgerbwd Meinir yn ei ffrog briodas. Bu farw Rhys o dorcalon. Erbyn heddiw, canolfan iaith a threftadaeth sydd yn hen bentref y chwarelwyr yn Nant Gwrtheyrn. Mae croeso ichi daro heibio am y diwrnod i fwynhau'r arddangosfa a'r caffi sy'n cynnig golygfeydd ysblennydd o'r môr, neu fe gewch ymuno â chwrs preswyl i ddysgu Cymraeg.

  • Caer Engan, Dyffryn Nantlle

    Mae Dyffryn Nantlle yn enwog am yr holl chwedlau sy'n gysylltiedig â'r Tylwyth Teg. Mae un hanes yn sôn am ynys a nofiai ar Lyn Nantlle. Dyma’r man lle byddai un o'r tylwyth teg a'i gŵr o gig a gwaed yn cyfarfod ar ôl iddi gael ei gwahardd rhag cerdded ar y tir. Dros y blynyddoedd, mae'r beirdd wedi canu i harddwch naturiol Dyffryn Nantlle ac yn fwy diweddar, am greithiau’r diwydiant llechi ar y tir. Mae R. Williams Parry (1884-1956), a anwyd yn Nhalysarn, yn crisialu'r gwrthgyferbyniadau hyn yn ei soned Ddoe a Heddiw – gwrthgyferbyniadau a ddaw’n amlwg wrth ichi ddilyn y llwybrau o amgylch y llyn. Mae Dyffryn Nantlle'n ymddangos hefyd ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi. Dyma lle mae Gwydion yn gweld Lleu wedi'i droi'n eryr ar y dderwen.

  • Pontarfynach

    Mae tair pont i'w gweld yn y safle rhyfeddol hwn, lle mae afon Mynach yn rhaeadru 300 troedfedd i afon Rheidol oddi tani. Yn ôl y chwedl, y gŵr drwg ei hun a gododd y bont gyntaf, ac fe geisiodd dwyllo’r hen wreigan Megan o Landunach i roi ei henaid iddo er mwyn iddi gael mynd at ei buwch oedd yn gaeth ar lan arall yr afon. Mae ogofâu a rhaeadrau cyfriniol Pontarfynach wedi denu cenedlaethau o dwristiaid, gan gynnwys William Wordsworth a JMW Turner, ac mae'n bosibl dilyn sawl llwybr lleol o’u hamgylch. Yn fwy diweddar, ymddangosodd Pontarfynach ar y gyfres deledu Y Gwyll – cyfres dditectif a oedd gystal nes iddi gael ei ffilmio ddwywaith. Ffilmiwyd fersiwn Gymraeg, Y Gwyll i S4C ochr yn ochr â'r fersiwn Saesneg i'r BBC. Mae Cambrian Safaris yn cynnig teithiau i ymweld â lleoliadau Y Gwyll a cynigir teithiau thema gan Twm's Treks.

  • Biosffer Dyfi, Machynlleth

    Mae Aberystwyth a dyffryn Dyfi'n wedi'u dynodi'n Fiosffer gan UNESCO – ardal unigryw sy'n dathlu amrywiaeth amgylcheddol. Dyma leoliad un o straeon caru tristaf Cymru. Syrthiodd Lleucu Llwyd o Fferm Dolgelynen ger Machynlleth mewn cariad â'r bardd ifanc, Llywelyn Goch, a dyweddïodd y ddau. Nid oedd tad Lleucu o blaid y berthynas, a phan oedd y bardd wedi mynd ar daith tua'r de, llwyddodd i'w hargyhoeddi bod ei chariad wedi priodi rhywun arall. Torrodd ei chalon a bu farw cyn i Llywelyn ddychwelyd. Aeth yntau ati i'w hanfarwoli mewn cerdd a chân. Mae'n bosibl bod rhywfaint o wir yn y chwedl hon – mae cofnodion eglwys San Pedr Ad Vincula gerllaw'n dangos bod Lleucu wedi'i chladdu o dan yr allor ym 1390. Mae hanes y cariadon yn boblogaidd o hyd drwy Gymru. Gallwch ddilyn sawl taith gerdded drwy'r Biosffer, ac erbyn hyn, lle Gwely a Brecwast yw Fferm Dolgelynen.

  • Cader Idris

    Mae dringo Cader Idris yn dipyn o her ond wedi dweud hynny, mae’n rhoi cryn foddhad, nid dim ond oherwydd y chwedl sy'n gysylltiedig â'r mynydd ond hefyd oherwydd ei fod yn brofiad mor anturus. Cawr oedd Idris a ddefnyddiai'r mynydd yn orsedd ar un adeg. Yn ogystal â bod yn gawr, roedd yn fardd, yn seryddwr ac yn athronydd; dywedir mai cerrig a dynnodd y cawr o'i esgid yw'r clogfeini anferth ar odre'r mynydd. Mewn gwirionedd, mae'n bosibl mai arwr â chysylltiad â'r Brenin Arthur oedd Idris a laddwyd mewn brwydr â'r Sacsoniaid oddeutu OC 630. Yn ôl y chwedl, bydd y sawl sy'n cysgu ar y mynydd yn deffro naill ai'n wallgofddyn neu’n fardd, neu o bosibl ei dynged fydd cysgu am byth. Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy'n gofalu am Gader Idris. Y mynydd hwn fu’n ysbrydoliaeth i’r artist cyfoes Bedwyr Williams a enillodd wobr am ei waith yn Artes Mundi 2016.

  • Llanilltud FawrLlantwit Major

    Lle rhyfeddol, cyforiog o hanes yw Llanilltud Fawr – gallwch ddechrau yn neuadd y dref a dilyn trywydd o amgylch 13 o adeiladau â phlaciau glas arnynt. Dyma safle Cor Tewdws, coleg i fynachod a sefydlwyd gan Sant Illtud yn yr OC 500au ac mae'n debyg mai dyma ganolfan ddysgu gynharaf gwledydd Prydain. Mae'r canwyllbrennau yn Eglwys Sant Illtud wedi'u cyflwyno i awdures a fu'n ysgrifennu am rai o chwedlau cwlt Cymru, Marie Trevelyan (1853-1922). Ysgrifennai am straeon a oedd yn amrywio o chwedlau Arthuraidd i chwedlau Rhamantaidd y Crynwyr, gan gasglu a chofnodi chwedlau gwerin llafar. Un o draddodiadau rhyfeddaf Morgannwg a gofnodwyd oedd hwnnw am y cadeiriau brathu a ddyddiai o'r unfed ganrif ar bymtheg. Yn ôl y sôn, roedd y rhain yn brathu pawb a fyddai’n eistedd arnynt – gweinidogion yn enwedig. Dynion meirw anniddig oedd yn gyfrifol am y brathu, meddai’r chwedl – dynion oedd i fod i ymuno ag Arawn (Brenin Annwn yn y Mabinogi) ond a oedd yn gaeth i’w hen ddodrefn.

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Cewch ddysgu am chwedlau di-ri Cymru yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a llyncu miloedd o flynyddoedd o hanes Cymru wrth ichi grwydro o amgylch yr adeiladau ar y tir. Maent i gyd wedi'u hadfer gyda gofal mawr ac wedi'u symud yno o'u lleoliad gwreiddiol. Un o'r chwedlau mwyaf adnabyddus ac anghyffredin sy'n dod yn fyw yma yw hanes y Fari Lwyd, sydd hefyd yn cael ei galw'n Wasail ac yn Gynfas-farch. Mae'n bosibl bod y traddodiad hwn o’r de’n dyddio yn ôl i'r ddeunawfed ganrif. Cymeriad ar ffurf march sydd yma, a hwnnw’n gwisgo penglog ceffyl ac addurniadau. Bydd yn crwydro o dŷ i dŷ gefn gaeaf yn cyfnewid penillion ysgafn sarhaus â'r trigolion cyn cael ei wahodd at yr aelwyd i gael tamaid o fwyd a diod. Y traddodiad hwn oedd yr hyn a ysbrydolodd y bardd Vernon Watkins (1906-1967) i gyfansoddi’r Ballad of Mari Lwyd.

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru

    Mae hanes rhyfeddol i Gwpan Nanteos. Daeth i ddwylo teulu'r Poweliaid pan ddiddymwyd Abaty Ystrad Fflur ym 1539. Mae ei darddiad yn ddirgelwch mawr: mae rhai'n dweud bod y cwpan wedi'i wneud o Groes Crist ac eraill yn credu mai dyma'r Greal Sanctaidd. Ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae'r bobl leol wedi honni bod ganddo bwerau goruwchnaturiol i iachau, ac arferent yfed ohono i wella'u anhwylderau. Gyda threigl amser, mae'r crair syml hwn wedi'i ddifrodi ac mae wedi bod yn destun cryn graffu er mwyn ceisio pwyso a mesur a yw’n ddilys neu beidio. Y cyfan sydd ar ôl bellach yw darn crwm o bren bregus, addurnedig. Cafodd ei ddwyn yn 2014 ond daethpwyd o hyd iddo eto yn 2015. Rhoddwyd y cwpan wedyn yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle gall ymwelwyr weld y gwrthrych dirgel hwn â'u llygaid eu hunain. Cynhelir arddangosfa ‘Arthur a Chwedloniaeth Cymru’ yn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 22 Gorffennaf - 16 Rhagfyr 2017. Yn ogystal, bydd y llyfrgell yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cysylltiol yn ystod y flwyddyn.